Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Busnesau Ailgylchu Plastig wedi’u Rheoleiddio

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael yr wybodaeth hon amdanoch chi gan yr Archwilwyr rydym ni’n eu penodi i roi sicrwydd i ni bod eich prosesau ailgylchu yn gweithredu o fewn yr amodau a bennir yn ei phenderfyniad(au) awdurdodi. 

Gwnawn hyn yn unol â’n dyletswyddau swyddogol wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i ni, ac er budd y budd y cyhoedd, er mwyn diogelu eu hiechyd mewn perthynas â diogelwch bwyd. Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei hangen arnom ni.

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym ni'n ei ddefnyddio

Mae’r data personol sydd gennym ni amdanoch chi yn cynnwys enw’r busnes, y cyfeiriad busnes cofrestredig a’r data a gafwyd mewn archwiliadau, casgliadau y daethpwyd iddynt, a, lle bo’n briodol, unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd mewn perthynas â phrosesau ailgylchu plastig a gyflawnir gan eich busnes. Defnyddir unrhyw ddata personol a gesglir gennym ni er mwyn sicrhau’r ASB, Awdurdodau Cymwys ac Adrannau Llywodraethol eraill, yn y Deyrnas Unedig (DU) a’r Undeb Ewropeaidd (UE) fel ei gilydd, fod eich prosesau ailgylchu yn cydymffurfio â’r safonau perthnasol yn y DU a’r UE.

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi'r data hwn ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Bydd archwiliadau’n cael eu cynnal gan Archwilwyr Trydydd Parti dibynadwy a benodir gennym ni, ac sydd â’r mesurau diogelwch technegol, sefydliadol a chytundebol angenrheidiol a nodir yng Nghyfraith Diogelu Data’r DU. Byddant hefyd yn Brosesydd Data ar gyfer yr wybodaeth rydym yn ei rhoi iddynt er mwyn cysylltu â chi a chyflawni’r gwaith. I’r graddau eu bod yn diffinio cwmpas eu gwaith, byddant yn Rheolydd Data mewn perthynas â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt gennych chi er mwyn cwblhau’r gwaith sicrhau.  

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Rydym ni ond yn cadw gwybodaeth cyhyd ag y bo angen i gyflawni ein swyddogaethau.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Siarter Gwybodaeth Bersonol hon, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.