Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cysylltu â ni

Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, defnyddio ein gwasanaethau neu ddod o hyd i'n manylion cyswllt.

Os yw’ch daliad cynhyrchu llaeth wedi cael hysbysiad gorfodi statudol, fel Hysbysiad Gwella Hylendid neu Hysbysiad Camau Unioni, mae manylion eich hawliau i apelio ar y Llys Ynadon yng Nghymru a Lloegr wedi’u nodi’n glir ar gefn pob hysbysiad ffurfiol a gyflwynwyd ar yr adeg y cymerwyd y camau.

Dylech godi unrhyw faterion eraill gyda’ch Arolygydd Hylendid Llaeth. Gallwch gysylltu â’r Prif Arolygydd Hylendid Llaeth neu’r Prif Filfeddyg Maes drwy e-bostio: dairyops@food.gov.uk. I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch: dairyhygienedata@food.gov.uk.

Cymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr, rydym yn gyfrifol am gynnal arolygiadau hylendid o ddaliadau cynhyrchu llaeth.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, caiff arolygiadau hylendid eu cynnal gan gangen arolygu bwyd-amaeth yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.