Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwyddoniaeth a thystiolaeth

Mae’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf yn sylfaen i’n gwaith.

Wrth wraidd cenhadaeth yr ASB, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo, mae ein hegwyddor arweiniol sy’n nodi bod ein gwaith yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Mae hyn yn golygu bod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn sail i’n holl gyngor a phenderfyniadau, gan gynnwys polisi bwyd ac awdurdodiadau cynhyrchion. Rydym yn cyhoeddi hyn oll yn agored.

Rydym yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i weithredu ar heriau heddiw, i nodi a mynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg, ac i sicrhau bod fframwaith rheoleiddio bwyd y DU yn fodern, yn ystwyth ac yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr. Rydym yn gynhyrchwyr tystiolaeth ac yn gydweithwyr sy’n gweithio ar draws disgyblaethau gwyddonol gan gynnwys:

  • y gwyddorau ffisegol
  • y gwyddorau naturiol
  • economeg
  • ymchwil weithredol
  • asesu risg
  • ystadegau
  • gwyddor gymdeithasol
  • gwyddor data

Rydym yn cael gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ein hymchwil ein hunain, ymchwil rydym yn ei chomisiynu a’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol. 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion gwyddoniaeth, cyhoeddiadau a chyfleoedd partneriaeth ymchwil yr ASB, tanysgrifiwch i gylchlythyr chwarterol yr ASB ar wyddoniaeth.

Mae gan yr ASB ddiddordeb mewn ymchwil wyddonol a gynhelir gan eraill sy’n berthnasol i’n Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil. Os ydych yn arloeswr ym maes gwyddoniaeth sy’n cynllunio neu’n cynnal ymchwil sy’n berthnasol i’r ASB, rydym yn eich annog i gysylltu â’n tîm ymgysylltu â gwyddoniaeth i drafod cyfleoedd am bartneriaethau trwy ARI@food.gov.uk.