Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecynnu a labelu

Gofynion pecynnu a labelu y mae angen i chi eu dilyn fel busnes bwyd.

Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, rydym yn gyfrifol am bolisi labelu bwyd a safonau cyfansoddiadol bwyd sy’n gysylltiedig â diogelwch, yn ogystal â’r rheiny nad ydynt yn ymwneud â diogelwch. Yng Ngogledd Iwerddon, mae hyn yn cynnwys polisi maeth a labelu. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi maeth a labelu yng Nghymru.

Yn Lloegr, rydym yn gyfrifol am labelu sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, gan gynnwys alergenau. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn gyfrifol am y polisi ar labelu bwyd a safonau cyfansoddiadol bwyd nad ydynt yn ymwneud â diogelwch yn unig. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am bolisi maeth a labelu.