Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Atodiadau ar gyfer adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU 2021

Mae'r atodiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad yw'n rhan hanfodol o'r testun ei hun ond sy'n ddefnyddiol o ran darparu cyd-destun ychwanegol. Mae'r dudalen hon yn cynnwys acronymau, rhestr dermau, tabl ffigurau, cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol.

Atodiad 1: Acronymau

Acronym Diffiniad
ABP Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Animal By-Product)
ASB Asiantaeth Safonau Bwyd
BSE BSE Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Bovine Spongiform Encephalopathy)
CAC Comisiwn Codex Alimentarius
CBD Canabidiol
DAERA Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Defra Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
DNP 2,4 Dinitroffenol
EFSA Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop
FAFA Rhybudd Bwyd er Gweithredu (Food Alert for Action)
FHIS Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yr Alban
FIIN Rhwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd
FNAO Bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid (Food Not of Animal Origin)
HIN Hysbysiad Gwella Hylendid (Hygiene Improvement Notice)
HRFNAO Bwyd risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid (High-Risk Food Not of
Animal Origin
)
INFOSAN Rhwydwaith Rhyngwladol yr Awdurdodau Diogelwch Bwyd
LAEMS System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol
NDNS Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet a Maeth
NFCU Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (National Food Crime Unit)
NTS Safonau Masnach Cenedlaethol
POAO Cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (Product of Animal Origin)
QR Ymateb Cyflym
RASFF System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
SFCIU Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban
SFSD Cronfa Ddata Samplu Bwyd yr Alban
SND Cronfa Ddata Genedlaethol yr Alban
TCA Cytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU a’r UE (UK-EU Trade and
Co‑operation Agreement
)
UE Yr Undeb Ewropeaidd
UKNHCC Pwyllgor Honiadau Maeth ac Iechyd y DU
VPHP Rhaglen Iechyd y Cyhoedd Milfeddygol (Veterinary Public Health
Programme
)

Atodiad 2: Rhestr dermau

Term Diffiniad
Afflatocsinau Cyfansoddion gwenwynig a gynhyrchir gan rai mathau penodol o lwydni a geir mewn bwyd, a all achosi niwed i’r afu
a chanser.
Alergenau Mae 14 prif alergen y mae’n rhaid eu datgan yn ôl y gyfraith, ond gall defnyddwyr fod ag alergedd neu anoddefiad i fwydydd neu gynhwysion eraill.
Braster dirlawn Math o fraster sy’n gysylltiedig â cholesterol uchel yn y gwaed, a all gynyddu’r risg o strôc a chlefyd y galon.
BSE Mae Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol, a elwir hefyd yn glefyd y gwartheg gwallgof (mad cow disease), yn glefyd yr ymennydd sy’n gallu heintio gwartheg, defaid a geifr. Os yw pobl yn bwyta cig sydd wedi’i heintio, gall arwain at salwch difrifol a marwolaeth.
Campylobacter Achos o wenwyn bwyd sy’n cael ei ledaenu’n bennaf trwy groeshalogi gan gyw iâr amrwd.
Canabidiol (CBD) Cemegyn a geir o fewn cywarch (hemp) a chanabis. Mae darnau CBD yn cael eu gwerthu fel bwyd, yn aml fel ychwanegion bwyd yn y DU.
Cig wedi’i brosesu Unrhyw gig sydd wedi’i addasu er mwyn newid y blas neu ymestyn ei oes silff.
Cod QR Cod Ymateb Cyflym, ar ffurf cod bar matrics optegol, y gellir ei ddarllen fel arfer gan ffonau symudol.
Comisiwn Ewropeaidd Cangen weithredol yr UE, sy’n gyfrifol am gynnig cyfreithiau newydd, rheoli polisïau a chyllid a gorfodi cyfraith yr UE.
Cyfraith Natasha Rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd nodi’r cynhwysion llawn ar labeli bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol. Mae’r gofynion hyn yn diogelu pobl sydd ag alergeddau, ac yn rhoi mwy o hyder iddynt yn y bwyd y maent yn ei brynu. Mae’r gofynion wedi’u gosod o fewn Rheoliadau penodol:
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio) (Lloegr) 2019
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2020
  • Rheoliadau Diwygio Gwybodaeth am Fwyd (Yr Alban) 2021.
Cynaliadwy Lleihau ein hôl troed carbon, hyrwyddo arferion gorau cynaliadwy, gwarchod adnoddau naturiol a meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy ein polisïau a’n harferion.
Cynhyrchion wedi’u rheoleiddio Mae angen awdurdodi rhai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid (gan gynnwys ychwanegion bwyd a bwyd anifeiliaid, cyflasynnau a deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd) cyn y gellir eu gwerthu yn y DU.
Cytundebau masnach rydd Mae cytundebau masnach yn nodi’r rheolau sy’n ymwneud â masnach rhwng dwy wlad neu fwy. Eu nod yw hwyluso masnachu rhwng y gwledydd hynny. Gwnânt hyn drwy leihau’r cyfyngiadau ar fewnforion ac allforion rhyngddynt.
Dadansoddi gwraidd y broblem Mae dadansoddi gwraidd y broblem yn ymwneud â dod o hyd i wraidd y broblem a’i datrys, yn hytrach na chymhwyso atebion arwynebol i broblemau wrth iddynt godi.
Dadansoddi risg Y broses o asesu, rheoli a chyfathrebu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
Diffyg diogeledd bwyd cartrefi Term a ddefnyddir i ddisgrifio cartrefi sydd heb fynediad dibynadwy at ddigon o fwyd fforddiadwy a maethlon.
Dilyniannu genom Techneg a ddefnyddir i ʻddarllenʼ DNA pobl sydd, yng nghyd- destun yr adroddiad hwn, yn caniatáu i wyddonwyr nodi a gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o facteria a feirysau.
Dinitroffenol (DNP) Cemegyn hynod wenwynig i bobl a all achosi marwolaeth.
E. coli Mae Escherichia Coli yn fath o facteria sy’n cael ei ganfod yng ngholuddion anifeiliaid a phobl. Gall rhai mathau achosi salwch difrifol mewn pobl, fel Verocytocsin sy’n cynhyrchu E.coli (VTEC).
E-rifau Y rhif sydd wedi’i ddyrannu i ychwanegyn bwyd sydd wedi cael ei brofi i ddangos ei fod yn ddiogel ar gyfer y defnydd a fwriadwyd, ac nad yw ei ddefnydd yn camarwain y defnyddiwr.
Ffeibr Math o garbohydrad na all y corff ei dorri i lawr. Mae ffeibr i’w gael yn naturiol mewn bwydydd planhigion fel grawn cyflawn, ffa, cnau, ffrwythau a llysiau. Mae’n helpu i gadw ein system dreulio’n iach.
Gordewdra Defnyddir y term hwn i ddisgrifio rhywun sydd dros ei bwysau, gyda llawer o fraster corff. O ran Mynegai Màs y Corff (BMI), byddai rhywun â sgôr o 30 neu uwch yn cael eu hystyried yn ordew.
Marchnadoedd ar-lein Darparwyr bwyd sy’n dosbarthu bwyd yn uniongyrchol i’r defnyddiwr ar ôl iddynt archebu bwyd naill ai drwy gyfrifiadur neu ffôn clyfar dros y rhyngrwyd.
Newid yn yr hinsawdd Newidiadau tymor hir mewn patrymau tywydd a thymheredd, a all fod yn newidiadau naturiol neu newidiadau sy’n cael eu hachosi gan losgi tanwydd ffosil ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Norofeirws Fe’i gelwir hefyd yn fyg chwydu’r gaeaf, mae Norofeirws yn drosglwyddadwy iawn ac mae'n un o brif ffactorau sy’n achosi salwch a gludir gan fwyd yn y DU. Er ei fod yn annymunol, nid yw’n para’n hir ac mae’n cael ei ystyried yn salwch ysgafn.
O’r Fferm i’r Fforc Taith ein cynhwysion bwyd, o’r ffynhonnell i’r adeg y cânt eu bwyta.
Pathogen Bacteriwm, feirws neu organeb arall a all achosi afiechyd.
Profiotig Sylwedd sy’n ysgogi micro-organebau i dyfu, yn enwedig y rheiny sydd â phriodweddau buddiol.
Rheolaethau swyddogol Yn gyffredinol mae hyn yn golygu arolygiadau, gwaith gorfodi, cyngor a chanllawiau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu ganllaw’r llywodraeth.
Rhydd rhag Cynnyrch sydd wedi’i greu i fod yn rhydd rhag un neu fwy o gynhwysion y gall pobl fod ag alergedd neu anoddefiad iddynt.
Salmonela Mae salmonela yn grŵp o facteria cyffredin sy’n achosi gwenwyn bwyd. Fel arfer, cânt eu lledaenu drwy goginio annigonol a thrwy groeshalogi.

Mae haint Salmonela (salmonelosis) yn glefyd bacteriol cyffredin sy’n effeithio ar y llwybr coluddol. Mae bacteria Salmonela fel arfer yn byw yng ngholuddion anifeiliaid a phobl ac yn cael eu gollwng trwy ysgarthion. Mae pobl yn cael eu heintio amlaf trwy ddŵr neu fwyd wedi’i halogi.
Samplu Mae gwaith samplu yn ymwneud â chymryd cynnyrch i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon ofynnol. Gall hyn gynnwys bod yn ddiogel, oʼr safon a ddymunir, neu wediʼi labeluʼn gywir. Cynhelir gwaith samplu i gefnogi gwaith gorfodi, fel rhan o wiriadau busnesau, ac at ddibenion ymchwil a gwyliadwriaeth.
Siwgrau rhydd Pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, piwrîau a phastiau a chynhyrchion tebyg, lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos a ychwanegir fel cynhwysion.
System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) System yn yr UE sy’n galluogi rhannu gwybodaeth yn effeithlon rhwng gwledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’r Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA).
Tarfiadau

Dull o ymyriadau troseddau bwyd a roddwyd ar waith yn ddiweddar sy’n atal neu’n lleihau’r cyfleoedd i gyflawni droseddau bwyd ac, wrth wneud hynny, yn cynyddu diogelwch bwyd y DU drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel.

Traws-frasterau Braster y ceir lefelau isel ohono yn naturiol mewn rhai bwydydd, fel cig a chynhyrchion llaeth, ac mewn olew llysiau rhannol hydrogenaidd. Gall traws-frasterau godi lefel y colesterol yn y gwaed, gan gynyddu’r risg o strôc a chlefyd y galon.
Ychwanegion Mae ychwanegion bwyd yn gynhwysion sy’n cael eu hychwanegu at fwyd i gyflawni swyddogaethau penodol.

Atodiad 3: Tabl ffigurau

Gosod adroddiad eleni mewn cyd-destun

  • Ffigur 1: Sut mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gwneud argymhellion ac yn rhoi cyngor ar sail tystiolaeth

Pennod 1: Plât y genedl

  • Ffigur 2: Faint o siwgrau rhydd a fwyteir bob dydd fel canran o gyfanswm egni oedolion a phlant
  • Ffigur 3: Faint o siwgrau rhydd a fwyteir ar gyfartaledd fel cyfran o gyfanswm egni dyddiol (2020)
  • Ffigur 4: Faint o fraster dirlawn a fwyteir ar gyfartaledd fel cyfran o gyfanswm egni dyddiol (2020)
  • Ffigur 5: Amcangyfrif o’r lefelau o halen a fwyteir bob dydd ar gyfartaledd yn y DU ar gyfer oedolion 19-64 oed
  • Ffigur 6: Dognau o ffrwythau a llysiau a fwyteir bob dydd ar gyfartaledd yn ôl oedran (2020)
  • Ffigur 7: Faint o ffeibr a fwyteir bob dydd ar gyfartaledd (2020)
  • Ffigur 8: Pysgod a fwyteir bob wythnos ar gyfartaledd yn ôl grŵp oedran (2020)
  • Ffigur 9: Faint o gig coch a chig wedi’i brosesu a fwyteir bob dydd ar gyfartaledd gan oedolion oedran gweithio (gramau y dydd)
  • Ffigur 10: Faint o gig coch a chig wedi’i brosesu a fwyteir bob dydd yn ôl grŵp oedran (gramau y dydd) (2020)
  • Ffigur 11: % yr ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n siopa tua unwaith yr wythnos neu’n amlach
  • Ffigur 12: Sut mae pris bwyd wedi newid dros amser (2000-21)
  • Ffigur 13: Diogeledd bwyd cartrefi yn y DU fesul rhanbarth (2020-21)
  • Ffigur 14: Cyfran y defnyddwyr sy’n poeni am fforddiadwyedd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Ffigur 15: Cyfran y defnyddwyr sy’n poeni am fforddiadwyedd bwyd yn yr Alban
  • Ffigur 16: 10 prif flaenoriaeth y cyhoedd o ran bwyd dros y tair blynedd nesaf

Pennod 2: Safbwynt byd-eang

  • Ffigur 17: % o gyfanswm defnydd y DU o’r prif gategorïau POAO
  • Ffigur 18: % o gyfanswm defnydd y DU o’r prif gategorïau FNAO
  • Ffigur 19: % o gyfanswm mewnforion y DU a gafwyd o’r UE ac o ranbarthau eraill, 2017-21
  • Ffigur 20: Twf canrannol mwyaf mewn cyfeintiau mewnforio o 2012-16 i 2017-21
  • Ffigur 21: % y llwythi sy’n methu gwiriadau rheoli mewnforio, wedi’u dadansoddi yn ôl math o wiriad

Pennod 3: Diogel a chadarn

  • Ffigur 22: Nifer y digwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt yn y DU
  • Ffigur 23: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yn y DU
  • Ffigur 24: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt o halogiad cemegol yn y DU
  • Ffigur 25: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt a oedd yn cynnwys dofednod yn y DU
  • Ffigur 26: Nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud ag atchwanegiadau bwyd yn y DU
  • Ffigur 27: Cyfanswm y rhybuddion alergedd a gyhoeddwyd yn y DU, 2019-21
  • Ffigur 28: Y pum alergen a oedd yn gysylltiedig amlaf â digwyddiadau bwyd
  • Ffigur 29: Cyfanswm yr hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl a gyhoeddwyd yn y DU

Pennod 4: Hysbysu defnyddwyr

  • Ffigur 30: Lleoliad samplau’r arolwg basged o fwyd a’r canlyniadau
  • Ffigur 31: Arolwg basged o fwyd yr ASB: canlyniadau yn ôl categori bwyd
  • Ffigur 32: % gyffredinol y samplau y barnwyd eu bod yn foddhaol, gyda math a chyfran yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yn ôl categori bwyd
  • Ffigur 33: % gyffredinol o samplau a gafodd eu hasesu i fod yn foddhaol neu’n anfoddhaol fel rhan o waith samplu Safonau Bwyd yr Alban (2021)

Pennod 5: Pwysigrwydd hylendid

  • Ffigur 34: Cost economaidd flynyddol rhai mathau adnabyddus o salwch a gludir gan fwyd
  • Ffigur 35: Y cyfraddau cydymffurfio diweddaraf a nodwyd ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd y DU
  • Ffigur 36: % y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd yn ôl 31 Rhagfyr 2021
  • Ffigur 37: % y sefydliadau cig a gafodd sgôr hylendid dda neu foddhaol yn 2020/21
  • Ffigur 38: Lefelau cydymffurfio sefydliadau llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ôl mis 31 Rhagfyr 2021
  • Ffigur 39: Cyfran y sefydliadau llaeth yn yr Alban sy’n cael cyngor ar lafar neu gyngor ysgrifenedig, 2019-20
  • Ffigur 40: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr yn ôl y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon
  • Ffigur 41: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr yn ôl y FHIS yn yr Alban

Appendix 4: Chapter references and explanatory notes

1 Mae hysbysu ymlaen llaw yn ei gwneud hi’n haws olrhain cynhyrchion bwyd rhag ofn y bydd angen i awdurdodau diogelwch bwyd ac awdurdodau gorfodi ymateb i ddigwyddiad diogelwch.

2 Mae tarfu’n cyfeirio at unrhyw weithgarwch sy’n atal neu’n lleihau’r cyfle i gyflawni troseddau bwyd, ac wrth wneud hynny, yn cynyddu diogelwch bwyd y DU trwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel.

3 I gael rhagor o fanylion, gweler Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio) (Lloegr) 2019, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Rhif 2) (Gogledd Iwerddon) 2020, a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Yr Alban) Diwygio 2021.

4 Mae angen awdurdodi rhai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion wedi’u rheoleiddio, cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Mae’r cynhyrchion hyn yn cynnwys ychwanegion bwyd a bwyd anifeiliaid, cyflasynnau a deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd.

5 Darperir rhagor o argymhellion deietegol yng nghanllaw Bwytaʼn Iach a nodau deietegol yr Alban.

6 Mae’r data cymharol diweddaraf yn dangos na fu unrhyw newid sylweddol yn ystadegol yn yr amcangyfrif o’r lefelau o halen a gafodd ei fwyta gan oedolion yn Lloegr rhwng 2005/6 a 2018/9. Nid oedd newid mawr yn y lefelau amcangyfrifedig yng Nghymru rhwng 2006 a 2009-2013. Fodd bynnag, mae data a gasglwyd yn yr Alban yn dangos gostyngiad o ran faint o halen a fwytawyd rhwng 2006 a 2014. Dim ond un asesiad o samplau wrin yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi’i gynnal hyd yn hyn, felly nid oes unrhyw dueddiadau ar gael.

7 Canfu adolygiad tystiolaeth diweddar mai’r cymhellion cryfaf dros leihau faint o gig a chynnyrch llaeth a fwyteir oedd gwella iechyd a rhesymau lles anifeiliaid, er bod rhesymau iechyd yn llai o gymhelliad ar gyfer lleihau faint o gynhyrchion llaeth a fwyteir o gymharu â chig. Dim ond nifer bach o ddefnyddwyr a nododd eu bod yn bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth gyda’r nod o ddiogelu’r amgylchedd. Fodd bynnag, roedd hyn oherwydd ymwybyddiaeth isel ymhlith defnyddwyr o sut mae cynhyrchu cig a chynnyrch llaeth yn effeithio ar yr amgylchedd, ac i ba raddau, yn ogystal â’r gred bod gweithredoedd eraill yn bwysicach.

8 Canfu adroddiad yr ASB ar brofiadau byw o ddiffyg diogeledd bwyd (2020) fod pobl a oedd yn byw mewn cartrefi gyda diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn teimlo nad oeddent wedi cael amrywiaeth yn eu deiet yn ystod y cyfnod clo, wrth iddynt fwyta bwyd nad yw’n debygol o fynd yn ddrwg fel bwydydd tun neu fwyd wedi’i rewi, neu garbohydradau rhad (fel bara, pasta a reis) yn bennaf, a hynny yn lle ffrwythau, llysiau neu gig ffres. Roedd llawer o ddefnyddwyr yn poeni am leihau’r amrywiaeth yn eu deiet a’r effaith y gallai hyn ei chael ar eu hiechyd ac iechyd eu plant.

9 I gael rhagor o fanylion, lawrlwythwch ganlyniadau llawn arolwg traciwr Safonau Bwyd yr Alban.

10 Roedd y canlyniadau’n amrywio yn ôl grŵp cymdeithasol. Roedd grwpiau incwm uwch, pobl mewn cyflogaeth amser llawn, a’r rheiny â phlant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn fwy tebygol o fod wedi bwyta prydau iachach na grwpiau eraill.

11 Ewch ati i lawrlwytho'r Adroddiad Sefyllfa llawn: Newidiadau i ymddygiadau siopa a bwyta yn yr Alban yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 | Safonau Bwyd yr Alban

12 Roedd graddau’r newidiadau mewn arferion siopa bwyd hefyd yn dibynnu ar sefyllfaoedd personol pobl. Er enghraifft, canfu arolwg NDNS 2020 fod pobl a ddywedodd eu bod yn cael mwy o broblemau ariannol yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi prynu eitemau a oedd ar gynnig arbennig, newid lle roeddent yn siopa, neu brynu dewisiadau bwyd rhatach. Awgrymodd ymchwil arall a gynhaliwyd gan yr ASB fod newidiadau o ran sut a ble roedd pobl yn siopa hefyd yn cael eu hysgogi gan ffactorau pragmatig fel mynediad yn ystod y cyfnod clo, yn hytrach na’r awydd i gefnogi siopau lleol. Dywedodd pobl hefyd eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siopa’n lleol (lle’r oedd ciwiau’n fyrrach yn aml), neu ar-lein, (oherwydd y risg is o drosglwyddo’r feirws yn y sefyllfaoedd hynny).

13 Mae maint y sampl ar gyfer yr ymchwil a gynhaliwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (tua 2,000) yn wahanol i’r sampl yn yr Alban (tua 500). Dim ond am fisoedd penodol yn yr Alban y cynhaliwyd yr arolwg.

14  Daw’r data mewnforio yn y bennod hon yn bennaf o gronfa ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), a grynhoir drwy adnodd delweddu data masnach yr ASB. Daw data ar ddefnydd o’r cyhoeddiad ‘Agriculture in the UK’ (AUK). Nid yw data CThEM ac AUK yn cyd-fynd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau mewn diffiniadau cynnyrch ac am fod AUK yn gwneud addasiadau ar gyfer pwysau esgyrn. Fe wnaethom ddefnyddio’r rhestr o FNAO risg uwch (HRFNAO) a oedd mewn grym ym mis Rhagfyr 2021, heb gyfrif am newidiadau hanesyddol. Mae data mewnforio CThEM yn mynd i lefel nwydd 8 digid, felly lle diffinnir HRFNAO ar lefel cod nwyddau 10 digid, rhagdybiwyd bod pob cynnyrch ar lefel 8 digid yn gynnyrch risg uchel. Mae rheolaethau mewnforio eraill ar waith sy’n ymwneud â mewnforion o gynhyrchion neu nwyddau penodol fel cynhyrchion reis sy’n cynnwys GMOs (organebau a addaswyd yn enetig), deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (llestri cegin) o Tsieina, a bwyd a bwyd anifeiliaid penodol o Japan neu Chernobyl. Nid yw ein dadansoddiad yn ystyried y rhain. Yn y dadansoddiad, rydym wedi defnyddio cyfaint (mewn kg) o  fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid y DU o bob gwlad arall: nid ydym wedi cynnwys dadansoddiad prisiau ac nid ydym wedi ystyried allforion. Mae’r adroddiad hwn wedi edrych ar symudiadau i mewn i’r DU yn unig. Mae symudiadau cynnyrch rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn destun trafodaethau rhwng yr UE a’r DU, ond nid yw data sy’n ymwneud â’r symudiadau hynny wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn.

15 Noder bod ein dadansoddiad yn ystyried mewnforion cyffredinol yn unig, ac nid effaith patrymau masnachu ehangach. Er enghraifft, yn hanesyddol mae rhywfaint o borc o’r DU wedi’i allforio i’w storio yn yr UE, i’w ailfewnforio pan fo angen. Yn ogystal, weithiau bydd cynnyrch yn cyrraedd un porthladd yn yr UE ac yna’n cael ei gludo i’r DU. Pan fydd y nwyddau hyn yn teithio’n syth i’r DU, dylent ymddangos yn y data gyda’r tarddiad cywir. Fodd bynnag, pan oedd y DU yn yr UE, byddai’r archwiliadau ar y ffin wedi’u cwblhau mewn porthladd yn yr UE a byddai’r cynnyrch yn ymuno â chylchrediad cyffredinol yr UE cyn cael ei gludo i’r DU. Gall ymddangos wedyn fod y cynnyrch wedi’i fewnforio o’r wlad lle cafodd ei anfon ddiwethaf; yr enw cyffredin ar senario o’r fath yw ‘effaith Rotterdam’.

16 Gallai cyflwyno rheolaethau mewnforio newydd yr UE hefyd fod wedi ysgogi newidiadau mawr mewn patrymau masnachu ar gyfer rhai mathau o fusnesau. Er enghraifft, nid yw bellach yn gyfreithlon bosibl mewnforio cig o’r UE i’w sleisio, ei ailbecynnu a’i ailallforio i’r UE. Mae’n bosibl bod y cyfyngiad hwn wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant porc a bod iddo oblygiadau i gadwyni cyflenwi bwyd y DU.

17 Cymerwyd y ffigurau hyn hyd at 2021. Mae ffigurau ar gyfer 2022 yn debygol o newid o ganlyniad i’r sefyllfa yn Wcráin. Bydd hyn yn cael ei nodi mewn adroddiadau yn y dyfodol.

18 Bydd rhai gwiriadau FNAO risg uchel yn cael eu cynnal beth amser ar ôl i’r cynhyrchion ddod i mewn, felly gallai’r niferoedd a nodir yn ddiweddarach yn y bennod hon gynyddu oherwydd gwiriadau a gofnodwyd ar ôl i’r data gael ei grynhoi ar gyfer yr adroddiad hwn (Chwefror 2022).

19 Daw’r ffigurau hyn o System Arbenigol Masnach a Rheoli (TRACES) yr UE ar gyfer 2020 a System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) Defra ar gyfer 2021. Mae’r data ar gyfer Prydain Fawr yn unig. Ar hyn o bryd ni allwn bennu data canlyniadau ar gyfer gwiriadau ffisegol cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) ar gyfer 2021.

20 Mae afflatocsinau yn deulu o docsinau a gynhyrchir gan ffyngau penodol a geir ar gnydau amaethyddol fel indrawn (corn), pysgnau, hadau cotwm, a chnau coed.

21 Rhennir y cyfrifoldeb am fynd i’r afael â brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a’r asiantaethau iechyd cyhoeddus priodol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r asiantaethau hyn yn arwain ar waith gwyliadwriaeth yr holl glefydau heintus, gan gynnwys pathogenau gastroberfeddol sy’n achosi salwch a gludir gan fwyd, ac mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ymchwilio i ba elfennau o’r gadwyn fwyd y gellir effeithio arnynt yn sgil hyn.

22 Troseddau bwyd difrifol yw’r rheiny sy’n achosi niwed sylweddol i ddefnyddwyr, y rheiny sydd â chyrhaeddiad daearyddol eang, a’r rheiny sy’n dangos troseddoldeb ar raddfa fawr neu sy’n peri risg sylweddol i enw da’r DU a’i buddiannau.

23 Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau bwyd yn cynnwys:

  • bwyd a halogir â micro-organebau niweidiol fel Salmonela, E.coli neu Listeria, a allai achosi salwch a gludir gan fwyd
  • presenoldeb alergenau bwyd heb ddatganiad ar y label (neu gyda datganiad anghywir), a allai beri risg i bobl ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd
  • presenoldeb ychwanegion anawdurdodedig mewn cynhyrchion bwyd neu fwyd anifeiliaid, a allai beri risg i iechyd os cânt eu bwyta
  • halogi bwyd neu fwyd anifeiliaid â chemegion fel plaladdwyr anghyfreithlon, metelau trwm neu docsinau eraill, a allai eu gwneud yn anniogel
  • halogi bwydydd â deunyddiau estron fel plastig, gwydr neu fetel, boed yn ddamweiniol neu’n fwriadol, a fydd yn niweidiol i ddefnyddwyr os cânt eu bwyta.

24 Mae data adrodd hefyd wedi’i effeithio gan fathau newydd o beryglon a nodwyd, fel cudd-deithwyr mewn cerbydau bwyd – mae hyn yn cyflwyno risg halogi bwyd sy’n cael ei gludo, a chyswllt â materion troseddol eraill fel masnachu pobl.

25 Un o fanteision allweddol dilyniannu genom cyfan yw ei fod yn caniatáu cysylltu achosion mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen, sy’n golygu bod mwy o frigiadau o achosion o glefydau bellach yn cael eu nodi. Rydym yn rhoi enghraifft isod o sut mae hyn wedi helpu i wella ein hymateb i ddigwyddiadau diogelwch bwyd (pwynt 29).

26 Mae ethylen ocsid yn driniaeth wrth-ficrobaidd sydd wedi’i gwahardd yn yr UE a’r DU gan ei bod yn garsinogen hysbys. Mae’r lefelau uchel o ddigwyddiadau yn arwydd o lefelau uchel o fesurau rheoli gan awdurdodau diogelwch bwyd i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu a bod nwyddau yr effeithiwyd arnynt yn cael eu tynnu o’r farchnad.

27 Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban.

28 Mae’r broses tynnu’n ôl yn digwydd pan fydd bwyd anniogel yn cael ei dynnu o’r gadwyn gyflenwi cyn iddo gyrraedd defnyddwyr. Mae’r broses galw bwyd yn ôl yn digwydd pan gaiff bwyd anniogel ei dynnu o’r gadwyn gyflenwi ac y cynghorir defnyddwyr i gymryd camau priodol, fel dychwelyd neu gael gwared ar fwyd anniogel.

29 Mae’r system fonitro newydd hefyd yn helpu i nodi risgiau eraill i ddefnyddwyr, gan gynnwys presenoldeb Listeria mewn cynhyrchion sesame o Syria, Salmonela mewn madarch enoki o wledydd dwyrain a de-ddwyrain Asia, a halogiad mwstard posib heb ei ddatgan mewn cynhyrchion gwenith o’r Eidal. Mae’r rhain i gyd yn ymwneud â chynhyrchion bwyd a fewnforir ac maent wedi arwain at samplu targededig i nodi a thynnu bwydydd anniogel oddi ar y farchnad.

30 Er enghraifft, ym mis Ebrill 2021,cafodd brigiad o achosion o Salmonela Braenderup a oedd yn gysylltiedig â melonau ei nodi trwy Ddilyniannu Genom Cyfan, a wnaeth ganiatáu i’r ASB ac UKHSA nodi ffynhonnell y brigiad o achosion yn gyflym. Gan weithio gydag awdurdodau yn Honduras a gwledydd eraill yr effeithiwyd arnynt, llwyddodd gwyddonwyr y DU i ddangos trwy’r proffilio genomig taw melonau o Honduras oedd achos y brigiad. Mae awdurdodau yn Honduras bellach yn gweithio gyda’r tyfwyr i roi camau adferol ar waith i atal brigiadau o achosion yn y dyfodol.

31 Mae saith prif fath o droseddau bwyd:

  1. Dwyn – cael gafael ar gynhyrchion bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid mewn ffordd anonest er mwyn gwneud elw trwy eu defnyddio neu eu gwerthu.
  2. Prosesu anghyfreithlon – lladd neu baratoi cig a chynhyrchion cysylltiedig mewn safleoedd sydd heb eu cymeradwyo, neu gan ddefnyddio technegau sydd heb eu hawdurdodi.
  3. Dargyfeirio gwastraff – rhoi bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid sy’n wastraff yn ôl i mewn i’r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon.
  4. Difwyno – cynnwys sylwedd estron nad yw wedi’i restru ar label y cynnyrch i ostwng costau neu ffugio ansawdd uwch.
  5. Amnewid – amnewid bwyd neu gynhwysyn gyda sylwedd arall sy’n debyg ond yn israddol.
  6. Camgynrychioli – marchnata neu labelu cynnyrch yn anonest o ran ei safon, ei ddiogelwch, ei darddiad neu ei ffresni.
  7. Twyllo dogfennau – creu, defnyddio neu feddu ar ddogfennau ffug gyda’r bwriad o werthu neu farchnata cynnyrch twyllodrus neu is-safonol.

32 Mae rhagor o wybodaeth iʼw chael yn Rheoliadau Cynhyrchion syʼn Cynnwys Cig 2014 – gweler Rheoliad 4 ac Atodlen 1.

33 I gael rhagor o fanylion, gweler Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio) (Lloegr) 2019, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2020) 2, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Rhif 2020) (Gogledd Iwerddon) 2021, a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Yr Alban) Diwygio 2021.

34 Daw’r ystadegau ar gyfer y diagram hwn o’r ffynhonnell ganlynol: Adroddiad ymchwil yr ASB The Burden of Foodborne Disease in the UK 2018. Mae’r ffynonellau bwyd cyffredin ar gyfer pob pathogen yn deillio o’r adroddiadau canlynol: Adroddiad yr ASB ar Astudiaeth Priodoli Norofeirws; Adroddiad yr ASB ar wyliadwriaeth foleciwlaidd well a phriodoli ffynonellau heintiau campylobacter yn y DU a’r Adroddiad One Health ar Filheintiau (2019). Mae cyfanswm o 2.4 miliwn o achosion o salwch a gludir gan fwyd yn y DU bob blwyddyn, sy’n costio cyfanswm o £9 biliwn i’r economi, gan gynnwys £3 biliwn ar gyfer salwch sydd wedi’i briodoli i bathogen hysbys.

35 Cynhelir asesiadau cydymffurfiaeth mewn amrywiaeth o fusnesau. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgynhyrchwyr a phecynwyr, mewnforwyr ac allforwyr, dosbarthwyr a chludwyr, manwerthwyr, bwytai ac arlwywyr. Ym mhob achos, asesir lefel cydymffurfiaeth y sefydliad yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys sut mae bwyd yn cael ei drin, ei storio, a’i baratoi, glendid cyfleusterau a sut mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli. Gall y meini prawf asesu amrywio ar draws y DU a chânt eu cynnal yn unol â’r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd perthnasol. Gweler y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (ar gyfer yr Alban) a’r Codau Ymarfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).

36 Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r ASB yn olrhain cyfran y sefydliadau bwyd sy’n ‘cydymffurfio i raddau helaeth’ â’r safonau cyfreithiol hylendid bwyd, sy’n golygu bod y sefydliad bwyd wedi cael sgôr o ddim mwy na 10 am gydymffurfio â rheolaethau hylendid, strwythur a hyder mewn rheolwyr. Mae’r ASB wedi defnyddio’r System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS) i gasglu’r data hwn hyd at 2019/20. Newidiwyd trefniadau adrodd i ffurflen bwrpasol yn 2020/21 i leihau’r baich ar awdurdodau lleol yn ystod y pandemig.

Mae Safonau Bwyd yr Alban yn defnyddio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Alban (SND), a ddisodlodd System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS) yn 2017. Mae’r SND yn casglu data cydymffurfio o systemau cronfeydd data awdurdodau lleol, gan gynnwys canlyniad arolygiadau. Mae awdurdodau lleol yr Alban yn defnyddio’r System Sgorio Cyfraith Bwyd (FLRS) i roi sgôr risg i safleoedd. Mae hwn yn gynllun sgorio risg cymharol newydd sydd wedi’i roi ar waith yn raddol yn yr Alban ers 2018 ac sy’n cyfuno hylendid bwyd a safonau bwyd yn un drefn arolygu. Mae FLRS wedi’i gyflwyno’n raddol fel cynllun sgorio risg newydd o 2018 ymlaen.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r data ar gyfer 2018/19 a 2019/20 yn dangos bod mwy na 95% o sefydliadau ym mhob un o’r tair gwlad yn cydymffurfio i raddau helaeth neu’n well. Yng Ngogledd Iwerddon y gwelwyd y gyfradd uchaf o gydymffurfio (98.4%), wedi’i dilyn gan Gymru (96.6%) a Lloegr (95.7%).

Yn yr Alban, yn ystod y cyfnod perthnasol, bu newid i’r cynllun sgorio risg felly nid oes modd cymharu’n uniongyrchol. Serch hyn, bu cynnydd yn nifer y sefydliadau bwyd a oedd yn cydymffurfio â safonau hylendid bwyd o 89.3% yn 2018/19 i 92.7% yn 2020/21. Mae statws cydymffurfio â safonau bwyd, sy’n cwmpasu’r gofynion o ran ansawdd, cyfansoddiad, halogiad cemegol, labelu, cyflwyno a hysbysebu bwyd, wedi parhau i fod yn uchel, sef 99% yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae statws cydymffurfio â Chyfraith Bwyd, o dan y System Sgorio Cyfraith Bwyd newydd, wedi aros yn 96.0% neu’n uwch ers 2018/19.

37 Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn rhoi gwybodaeth am safon hylendid bwyd busnesau yn seiliedig ar yr arolygiad diweddaraf gan swyddog diogelwch bwyd awdurdod lleol. Mae’r ddau gynllun yn ymdrin â sgoriau mewn ffordd wahanol. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr rhwng 0 a 5 lle mae 5 yn cynrychioli’r sgôr uchaf, gan nodi safonau hylendid ‘da iawn’. Mae’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn rhoi gradd ‘pasio’ neu ‘angen gwella’. Mae’r cynlluniau’n cael eu cynnal gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Rhoddir sgôr i safleoedd lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi neu ei werthu i ddefnyddwyr, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cwmpasu gweithrediadau busnes-i-fusnes fel gweithgynhyrchwyr sy’n dod o dan gylch gwaith awdurdodau lleol.

Ers 31 Rhagfyr 2021 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 97.0% o fusnesau bwyd sgôr foddhaol ar y cyfan o 3 neu uwch gyda 70.7% yng Nghymru, 74.9% yn Lloegr ac 83.5% yng Ngogledd Iwerddon yn ennill y sgôr uchaf o 5. Mân amrywiadau yn unig a welwyd ym mhroffil y sgoriau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

At ei gilydd, enillodd 74.9% o fusnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o 5. Yn y cyfamser, enillodd 3.0% o sefydliadau bwyd sgôr o 2 neu is, sy’n golygu angen gwella, angen gwella yn sylweddol neu angen gwella ar frys.

Yn yr Alban, mae data FHIS yn dangos cyfradd lwyddo o 93.8% dros y tair blynedd diwethaf, gyda 6.2% o fusnesau angen gwella. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod diffyg gwahaniaeth ystyrlon rhwng sgoriau llwyddo 2020 a 2021 oherwydd bod llai o arolygiadau wedi’u cynnal yn ystod y pandemig, fel y disgrifir yn adran ‘a effeithiodd y pandemig ar safonau hylendid bwyd’ y bennod dan sylw.

38    Mae’r cyfrifoldebau dros oruchwylio cydymffurfiaeth mewn sefydliadau hylendid cig yn amrywio ar draws y gwledydd fel a ganlyn:

  • Yng Nghymru a Lloegr, mae’r ASB yn cynnal archwiliadau o fusnesau bwyd i wirio cydymffurfiaeth mewn sefydliadau cig cymeradwy ac yn gweithio gyda gweithredwyr busnesau bwyd i nodi lle mae angen gwella.
  • Yn yr Alban, mae Safonau Bwyd yr Alban yn cynnal archwiliadau o sefydliadau cig cymeradwy i wirio cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd a hylendid bwyd cyfreithiol, gan weithio gyda busnesau i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd lle bo angen.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, mae Rhaglen Iechyd y Cyhoedd Milfeddygol (VPHP) yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal rheolaethau swyddogol ar hylendid cig a gweithgareddau swyddogol eraill ar gyfer yr ASB mewn sefydliadau cig cymeradwy er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
  • Cynhelir archwiliadau gan archwilwyr milfeddygol.
  • Pennir sgoriau Da, Boddhaol ar y cyfan, Angen Gwella neu Angen Gwella ar Frys gan archwiliadau a gynhelir yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
  • Mae sefydliadau cig cymeradwy yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn destun cylchoedd archwilio sy’n amrywio o ran amlder gan ddibynnu ar eu proffil risg, fel arfer o 2 fis i 18 mis. Gellir asesu lefel cydymffurfiaeth gweithredwyr busnesau bwyd yn rhannol trwy ganlyniadau archwilio. Mae’r data diweddaraf yn rhoi cipolwg o ganlyniadau archwiliadau fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2021 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Darperir data ar gyfer 2020 hefyd er mwyn cymharu. Fodd bynnag, effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar archwiliadau a gynhaliwyd yn 2020, felly efallai na fydd modd cymharu’r data’n uniongyrchol.
  • Ar gyfer yr Alban, mae’r cylch arolygu sy’n para 12 mis yn cynnwys nifer o arolygiadau ac ymyriadau ym mhob sefydliad cig cymeradwy. Mae pob ymyriad yn arwain at adroddiad ysgrifenedig a chanlyniad archwiliad canolradd, ac ar ôl hynny bydd ffatrïoedd yn cael canlyniad terfynol o’r archwiliad.

39 Yn 2020, gwnaeth Safonau Bwyd yr Alban atal archwiliadau gan weithredwyr busnesau bwyd mewn sefydliadau cig cymeradwy yn gyfan gwbl oherwydd y pandemig. Ailddechreuodd archwiliadau ym mis Ionawr 2021 gan ddefnyddio dull archwilio newydd, gyda ffatrïoedd yn ymuno â’r cylch arolygu yn raddol dros y 12 mis diwethaf. Roedd y dull newydd yn seiliedig ar adolygiad o bell o ddogfennaeth gweithredwr busnes bwyd ac arolygiadau hylendid ar y safle a gynhaliwyd gan archwilwyr milfeddygol. Mae’r asesiad o ganlyniadau archwilio hefyd wedi newid o dan y system newydd. Er enghraifft, bydd achos o ddiffyg cydymffurfio mawr sy’n dal i fod ar waith (nad yw gweithredwr y busnes bwyd wedi mynd i’r afael ag ef) bellach yn arwain at ganlyniad archwilio ‘angen gwella’. Dylid nodi hefyd mai canlyniadau dros dro yw canlyniadau sefydliadau cig yr Alban yn 2021, yn hytrach na rhai terfynol. Mae’r ffatrïoedd sy’n mynd trwy’r cylch archwilio yn cael eu hasesu o bryd i’w gilydd (yn unol â’u cyfrifiad adnoddau), a gallant wella eu canlyniad erbyn diwedd y cylch archwilio. O ganlyniad, ni ellir cymharu’r data â blynyddoedd blaenorol nac â data’r ASB.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel yr oedd hi ar 31 Rhagfyr 2021, roedd 98.6% o weithredwyr busnesau bwyd yng Nghymru a Lloegr a 100% o weithredwyr busnesau bwyd yng Ngogledd Iwerddon yn cydymffurfio, gan ennill naill ai sgôr ‘da’ neu sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’ yn eu harolygiad diweddaraf. Mae hyn yn dangos bod lefel gyson o weithredwyr busnesau bwyd yn cydymffurfio o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddata’r ASB ar gyfer Sefydliadau Cig a Sefydliadau Cymeradwy.

Yn yr Alban, fel yr oedd hi ar 31 Rhagfyr 2021, roedd 85.5% o weithredwyr busnesau bwyd yn cydymffurfio, gan ennill sgôr ‘da’ neu sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’. Yn 2019 a 2020, enillodd 84.3% o safleoedd sgôr dda neu foddhaol ar y cyfan. Mae’n anodd cymharu data 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn y dull archwilio. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod lefelau cydymffurfio unwaith eto wedi parhau i fod yn uchel, gydag ychydig iawn o newidiadau yn y gyfradd gydymffurfio o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf. Canlyniadau dros dro yw’r canlyniadau ar gyfer 2021 ac nid canlyniadau terfynol. Mae’r ffatrïoedd sy’n mynd trwy’r cylch archwilio yn cael eu hasesu o bryd i’w gilydd (yn unol â’u cyfrifiad adnoddau), a gallant wella eu canlyniad erbyn diwedd y cylch archwilio. O ganlyniad, ni ellir cymharu’r data â blynyddoedd blaenorol nac â data’r ASB.

40 Dyma gyfrifoldebau am reolaethau llaeth ledled y DU:

  • Yn yr Alban, nid oes gan Safonau Bwyd yr Alban unrhyw rôl orfodi uniongyrchol ar gyfer hylendid llaeth yn yr Alban. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hyn yn yr Alban. Maent yn cynnal yr holl wiriadau a wneir ar ffermydd llaeth, ffatrïoedd prosesu llaeth hylifol a sefydliadau llaeth cymeradwy a chofrestredig eraill. Mae mwyafrif y daliadau llaeth naill ai’n ddaliadau categori D neu gategori E (sefydliadau risg isel), sy’n golygu eu bod yn cael eu harolygu bob dwy neu dair blynedd, yn y drefn honno. Mae Safonau Bwyd yr Alban yn cael gwybod am amlder a sgoriau arolygiadau trwy drafodaethau ag awdurdodau lleol yr Alban – yn enwedig y rhai sy’n eistedd ar weithgor arolygu llaeth o bell Safonau Bwyd yr Alban/Pwyllgor Cyswllt Gorfodi Bwyd yr Alban (SFELC).
  • Yng Nghymru a Lloegr, mae’r ASB yn cyflogi arolygwyr hylendid llaeth i fonitro, gwirio a gorfodi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hylendid bwyd mewn daliadau cynhyrchu llaeth. Unwaith y bydd llaeth yn mynd ymlaen i’w brosesu a’i gynhyrchu pellach, daw’r awdurdod lleol priodol yn gyfrifol am reolaethau hylendid.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, mae Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn cynnal arolygiadau hylendid llaeth ar ran yr ASB. Mae hyn yn cynnwys daliadau cynhyrchu llaeth, ffatrïoedd prosesu llaeth hylifol a llaeth amrwd mewn ffatrïoedd cynhyrchion llaeth cymeradwy. Mae DAERA hefyd yn cynnal arolygiadau sy’n gorfodi deddfwriaeth hylendid bwyd mewn safleoedd cymeradwy a chofrestredig eraill, gan gynnwys pasteurwyr ar y fferm, prynwyr llaeth, cludwyr, storfeydd dosbarthu a busnesau hunanwasanaeth.
  • Mae busnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n aelodau o gynllun sicrwydd gwirfoddol a gymeradwyir gan yr ASB yn elwa ar gael eu harolygu’n llai aml. Mae hyn yn galluogi cyrff gorfodi cyfraith bwyd, gan gynnwys awdurdodau lleol, DAERA a’r ASB, i ganolbwyntio eu hadnoddau ar fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio i’r un raddau ac sy’n peri risg uwch.

Ni ddefnyddir cynlluniau sicrwydd trydydd part i leihau pa mor aml mae daliadau llaeth yn cael eu harolygu yn yr Alban.

41    Dyma sut roedd y pandemig yn effeithio ar weithgarwch arolygu llaeth ledled y DU:

  • Yng Nghymru a Lloegr, dim ond arolygiadau risg uchel (hynny yw, ffermydd sy’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd i’w gyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol) a gwblhawyd pan oedd y pandemig yn ei anterth. Ar ôl llacio mesurau’r cyfnod clo, ailddechreuodd y rhaglen arolygu arferol ond gyda mesurau iechyd a diogelwch ychwanegol. Mae arolygiadau sydd heb eu cynnal yn cael eu blaenoriaethu ac mae cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, cafodd arolygiadau ar y safle eu gohirio rhwng 17 Mawrth 2020 ac 8 Mehefin 2020, a hefyd yn ystod mis Ionawr 2021, er bod rhai arolygiadau o bell wedi’u cynnal dros y ffôn. Parhaodd arolygiadau wyneb yn wyneb y tu allan i’r cyfnodau hyn, er bod gweithdrefnau arolygu diwygiedig wedi bod ar waith er mwyn sicrhau gweithle sy’n ddiogel rhag COVID-19. Fodd bynnag, mae rhai agweddau ar y gwaith wedi parhau o bell.
  • Yn yr Alban ataliodd awdurdodau lleol eu harolygiadau o safleoedd llaeth risg isel yn ystod y pandemig. Mae cynlluniau adfer a phob agwedd ar waith iechyd yr amgylchedd yn mynd rhagddynt bellach, ac mae rhai awdurdodau lleol yn treialu archwiliadau o bell ar gyfer ffermydd llaeth risg isel. Bydd y gwaith hwn yn galluogi awdurdodau i flaenoriaethu safleoedd risg uwch tra cynhelir hefyd drosolwg o weithrediadau a gyflawnir mewn lleoliadau risg is. Mae hefyd yn bwysig nodi y gwaherddir gwerthu llaeth amrwd yn yr Alban, sy’n newid proffil risg ei sefydliadau llaeth o gymharu â rhannau eraill o’r DU.

42 Yng Nghymru a Lloegr, roedd 80.6% o sefydliadau llaeth cymeradwy yn cydymffurfio yn 2021, gan ennill naill ai sgôr ‘da’ neu sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’ yn eu harolygiad diweddaraf. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad bach mewn safonau o gymharu â data 2020 a 2019, lle’r oedd 83.0% ac 84.8% o sefydliadau llaeth yn cydymffurfio yn y drefn honno.

Yng Ngogledd Iwerddon, roedd 99.2% o sefydliadau llaeth yn cydymffurfio yn 2021, gan ennill sgôr ‘da’ neu sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’. Roedd hyn yn gyson â’r lefelau yn 2020 a 2019, lle’r oedd 99.0% o sefydliadau llaeth yn cydymffurfio. Dylid nodi bod gan Ogledd Iwerddon gyfran is o sefydliadau llaeth yfed amrwd (RDM) (0.2% o’r holl sefydliadau llaeth yng Ngogledd Iwerddon yn sefydliadau RDM o gymharu â 1.8% yng Nghymru a Lloegr).

Ystyrir bod sefydliadau RDM yn peri risg uwch ac maent yn destun arolygiadau amlach a gofynion samplu microbiolegol ychwanegol. Gall hyn arwain at ganlyniadau samplu anfoddhaol ac, o ganlyniad, yr angen am gamau gorfodi. Mae rhagor o wybodaeth am laeth yfed amrwd ar wefan yr ASB.

43 Yn yr Alban, fel rhan o wiriadau gorfodi arferol awdurdodau lleol, rhoddwyd cyngor ar lafar i 14.4% o fusnesau yn 2019/20, gyda 7.2% yn cael cyngor ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae adolygiad o ddata cyn y pandemig yn dangos na chymerwyd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol, a hynny oherwydd na chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gwella hylendid rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2020. Mae hyn yn awgrymu lefel uchel o gydymffurfiaeth ar draws y sector yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi rhagor o fanylion am y dull a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol: Addysg a chyngor yw cam cyntaf y camau gorfodi. Defnyddir cyngor ar lafar yn aml yn gyntaf cyn cyflwyno hysbysiadau gorfodi ffurfiol. Os na fydd perchennog y sefydliad yn gweithredu ar y cyngor a roddwyd ar lafar, bydd camau gorfodi ffurfiol yn cael eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth cyn gynted â phosibl. Er nad yw’n bosib pennu at beth y mae’r canllawiau llafar ac ysgrifenedig a roddwyd i fusnesau yn cyfeirio, mae’n annhebygol bod y canllawiau’n cynnwys unrhyw gamau ffurfiol sy’n cael eu cymryd yn erbyn busnesau, gan fod hysbysiadau gwella hylendid yn cael eu cofnodi ar wahân.
 

44 Mae cyfrifoldebau ar gyfer rheolaethau bwyd anifeiliaid yn cael eu rhannu fel a ganlyn:

  • Yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) sy’n gyfrifol am orfodi’r holl reolaethau bwyd anifeiliaid, tra bod yr ASB yn parhau i fod yn gyfrifol am ddeddfwriaeth a pholisi bwyd anifeiliaid.
  • Yn yr Alban, hyd at 1 Ebrill 2021, awdurdodau lleol yr Alban oedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod busnesau bwyd anifeiliaid yn eu hardal yn cydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid. Ers hynny, mae Safonau Bwyd yr Alban wedi bod yn gyfrifol yn ffurfiol am hynny, er bod llawer o awdurdodau lleol yn parhau i gynnal rheolaethau bwyd anifeiliaid ar eu rhan.
  • Yng Nghymru a Lloegr, yr ASB sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth a pholisi bwyd anifeiliaid, tra bod awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau bwyd anifeiliaid. Cyflawnir hyn trwy raglen flynyddol o ymyriadau sy’n seiliedig ar risg a gynhelir gan swyddogion awdurdodau lleol.

45 Mae gwahaniaethau pwysig o ran sut a phryd y casglwyd y data cydymffurfio a roddwyd ar gyfer busnesau bwyd anifeiliaid ledled pedair gwlad y DU:

  • Daw’r data cydymffurfio ar gyfer safleoedd bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr o’r cynlluniau arolygu bwyd anifeiliaid blynyddol a gynhelir bob blwyddyn gan awdurdodau lleol. Cesglir y data hwn gan yr ASB yng Nghymru a Safonau Masnach Cenedlaethol yn Lloegr. Data 2019 yw’r data dilys diweddaraf a gedwir ar gyfer Lloegr, am fod y pandemig wedi tarfu ar y gwaith cynllunio blynyddol.
  • Yng Nghymru, gwnaed newidiadau i’r model gweithredu bwyd anifeiliaid ym mis Ebrill 2015, sy’n golygu bod awdurdodau lleol yn cydweithio ar draws chwe rhanbarth gyda’r ASB yn goruchwylio. Mae’r rhaglen gweithredu bwyd anifeiliaid yng Nghymru yn blaenoriaethu rheolaethau swyddogol ar safleoedd sy’n newydd, sy’n cydymffurfio’n wael neu sy’n peri risg uwch oherwydd natur eu gweithgareddau, sy’n golygu nad yw’r ganran yn adlewyrchu lefelau cydymffurfio ar draws y sector cyfan yn iawn. Dylid nodi bod cyfanswm y sefydliadau bwyd anifeiliaid sydd wedi cael rheolaeth swyddogol wedi parhau i gynyddu, ac mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd a arolygwyd wedi dod o fewn y categorïau cydymffurfiaeth foddhaol neu uwch.
  • Mae’r ffigurau a ddarparwyd ar gyfer busnesau yn yr Alban yn 2016 a 2017 yn seiliedig ar yr arolygiadau hynny a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol y mae’r Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi canlyniadau ar eu cyfer. Casglodd Safonau Bwyd yr Alban y canlyniadau arolygu hysbys diwethaf gan awdurdodau lleol yn 2018, ac ni chofnodwyd yr wybodaeth hon yn genedlaethol nes i Safonau Bwyd yr Alban ddod yn awdurdod cymwys ar gyfer bwyd anifeiliaid ym mis Ebrill 2021. Ers hynny, mae system electronig ar gyfer cofnodi gweithgarwch arolygu a chanlyniadau ar draws pob ardal awdurdod lleol wedi bod ar waith. Mae’r system hon yn golygu bod modd cyflwyno gwybodaeth arolygu’n uniongyrchol i Safonau Bwyd yr Alban, ac mae’n ei gwneud yn bosibl i gynhyrchu data cyfredol ar ganlyniadau’n gyflym ar gyfer pob arolygiad bwyd anifeiliaid.

46 Mae grwpiau cyswllt bwyd yn darparu rhwydwaith i awdurdodau lleol rannu gwybodaeth ag awdurdodau cyfagos a’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Mae gweithgareddau’n cynnwys rhannu arferion da, lleihau’r baich ar fusnesau a hwyluso’r gwaith o orfodi cyfraith bwyd yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gyson.

47 Mae milfeddygon swyddogol yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod cig sy’n cael ei gynhyrchu mewn lladd-dai neu ffatrïoedd prosesu yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel ac yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Mae Arolygwyr Hylendid Cig yn sicrhau bod ffatrïoedd prosesu bwyd a lladd-dai yn cadw at safonau diogelwch a hylendid.

Diolchiadau

Yn gyntaf, hoffem ddiolch i’r llu o gyfranwyr yn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban sydd wedi helpu i greu’r adroddiad hwn. Mae hon yn fenter newydd ac yn ymdrech ar y cyd ledled y DU, gyda chyfraniad helaeth gan arbenigwyr polisi o bob un o’r pedair gwlad. Gobeithiwn fod y broses wedi cadarnhau’r berthynas waith gref rhwng y ddau sefydliad.

Roedd yr adroddiad hefyd wedi elwa’n fawr ar fewnbwn arbenigol gan y deuddeg adolygydd allanol a archwiliodd ddrafftiau cynnar a darparu cymorth a beirniadaeth adeiladol ar bob cam. Mae’r adroddiad hwn yn gryfach oherwydd eu parodrwydd i roi cyngor a rhannu eu doethineb yn hael. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r bobl canlynol:

Pennod 1: Plât y genedl

  • Yr Athro Lynn Frewer, Athro Bwyd a Chymdeithas, Prifysgol Newcastle

  • Yr Athro Morven G. McEachern, Athro Cynaliadwyedd a Moeseg, Prifysgol Huddersfield

Pennod 2: Safbwynt byd-eang

  • Yr Athro Katrina Campbell, Athro Diogeledd Bwyd a Diagnosteg, Prifysgol y Frenhines, Belfast

  • Yr Athro Dennis Novy, Athro Economeg, Prifysgol Warwick

Pennod 3: Diogel a chadarn

  • Yr Athro Tony Hines MBE

  • Yr Athro Louise Manning, Prifysgol Lincoln

Pennod 4: Hysbysu defnyddwyr

  • Dr Vitti Allender, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

  • Dr David Mela, Maethegydd Cofrestredig a Chymrawd y Gymdeithas Maeth

  • Dr Michael Walker, Athro Anrhydeddus, Prifysgol y Frenhines, Belfast

Pennod 5: Pwysigrwydd hylendid

  • Yr Athro Ian Brown OBE, Ysbytai Prifysgol Rhydychen a’r Sefydliad Bwyd, Maeth ac Iechyd, Prifysgol Reading

  • Dr Belinda Stuart-Moonlight, Moonlight Environmental Ltd

  • Dr Nicholas Watson, Athro Cyswllt, Prifysgol Nottingham