Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Canllawiau i gynhyrchwyr cynradd a gweithredwyr busnesau bwyd ar gynhyrchu anifeiliaid hela gwyllt mewn modd hylan

Canllawiau ar ofynion diogelwch a hylendid bwyd sy’n gymwys yn yr amryw sefyllfaoedd lle bo anifeiliaid hela gwyllt (wild game) yn cael eu hela a’u cyflenwi i’w bwyta gan bobl.

Cyhoeddwyd: 25 Gorffennaf 2022

Adolygwyd ddiwethaf: 25 Gorffennaf 2022

Lawrlwytho'r fersiwn PDF:

Hanes diwygio

Rhif y diwygiad Dyddiad Diben y diwygiad Diwygiwyd gan
2 25 Gorffennaf 2022 Adolygiad cyflawn sy’n cynnwys:
  • dileu’r adran ar Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy.
  • cynnwys adran i nodi bod Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn uniongyrchol gymwys yng Ngogledd Iwerddon, a bod Cyfraith yr UE wedi’i diwygio i gyflwyno ‘canolfannau casglu ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt’.
  • egluro eithriadau sy’n gymwys i gynhyrchu cynradd.
     
Cynnwys adran sy’n cyfeirio masnachwyr at brosesau mewnforio ac allforio oherwydd newidiadau ers 1 Ionawr 2021.
Tîm Polisi Hylendid Cig a Milfeddygol
1 Tachwedd 2015 Diweddariad Paul Stubbington
0 Mehefin 2014 Adolygu'n gyfan gwbl Simon Tudor

Crynodeb

Diben

Darparu canllawiau ar ofynion diogelwch a hylendid bwyd sy’n gymwys yn yr amryw sefyllfaoedd lle bo anifeiliaid hela gwyllt (wild game) yn cael eu hela a’u cyflenwi i’w bwyta gan bobl.

Statws cyfreithiol

Bwriad y canllawiau hyn yw egluro sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio mewn perthynas â chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt (wild game meat) i’w bwyta gan bobl ynghyd â dulliau y gellid eu defnyddio i roi hyder o ran diogelwch bwyd, ond nad ydynt yn ofyniad cyfreithiol.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?

Mae’r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt hyn wedi’u bwriadu ar gyfer:

  • Cynhyrchwyr cynradd (er enghraifft helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu).
  • Gweithredwyr busnesau bwyd.
  • Swyddogion Gorfodi: Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).

I ba wledydd yn y Deyrnas Unedig (DU) mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon

Dyddiad adolygu

Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Gorffennaf 2023.