Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Bwyd a Chi 2 - Cylch 2

Ymchwil o'r Arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 2.

Cyflwyniad

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i fesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio methodoleg o’r enw ‘gwthio i’r we’ (push to web).

Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 20 Tachwedd 2020 a 21 Ionawr 2021. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,900 o oedolion o 3,955 o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dyma’r pynciau sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad, Prif Ganfyddiadau – Bwyd a Chi 2: 

  • Ymddiriedaeth yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r gadwyn cyflenwi bwyd 
  • Pryderon am fwyd
  • Mynediad at gyflenwad bwyd
  • Bwyta allan a bwyd tecawê
  • Alergedd bwyd, anoddefiad a gorsensitifrwydd i fwyd
  • Diogelwch bwyd yn y cartref

Prif ganfyddiadau

Prif ganfyddiadau’r adroddiad Bwyd a Chi 2 – Cylch 2:

  • Dywedodd mwy na 9 o bob 10 (93%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta. Dywedodd dros dri chwarter yr ymatebwyr (77%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • Mae tri chwarter (78%) yr ymatebwyr a oedd o leiaf yn gwybod rhywfaint am yr ASB yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
  • Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr (88%) nad oedd ganddyn nhw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Y pryderon mwyaf cyffredin, pan rannwyd rhestr benodol o faterion yn ymwneud â bwyd, oedd faint o siwgr a geir mewn bwyd (60%), gwastraff bwyd (60%) a lles anifeiliaid (57%).
  • Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 84% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd diogel (73% yn sicr, 11% yn ymylol), a chafodd 16% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd anniogel (8% yn ansicr, 7% yn ansicr iawn).
  • Yn ystod y 4 wythnos flaenorol, roedd tair rhan o bump (60%) o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd a archebwyd o siop tecawê, naill ai wrth archebu’n uniongyrchol neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats ac ati).
  • Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (87%) wedi nodi eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. O’r rheiny, roedd 51% wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Nododd llai nag 1 o bob 10 (9%) o ymatebwyr fod ganddyn nhw anoddefiad bwyd, 3% ag alergedd bwyd, 1% â chlefyd seliag, ac 1% â sawl gorsensitifrwydd i fwyd. 
  • Roedd ymatebwyr sy’n dioddef o adwaith corfforol gwael neu annymunol i fwyd yn fwy tebygol o nodi bod ganddyn nhw hyder yn yr wybodaeth am alergenau a ddarperir gan fwytai (82%), caffis, siopau coffi neu frechdanau (79%), a thafarndai neu fariau (75%) o’i gymharu â gwybodaeth a ddarperir gan siopau tecawê wrth archebu’n uniongyrchol o siop neu fwyty tecawê (63%), neu wrth archebu trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (fel JustEat, Deliveroo, UberEats) (50%), apiau rhannu bwyd (fel Olio neu Too Good to Go) (23%) neu Facebook Marketplace (21%).
  • Dywedodd fwy na 6 o bob 10 (62%) o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser yn edrych ar y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd.

Adroddiadau ymchwil

Tablau data

Mae’r tablau canlyniadau ar gyfer adroddiad Cylch 2 ar gael yn ein catalog data.