Mae'r gofrestr gyhoeddus hon yn rhestru’r ceisiadau a ddaeth i law trwy'r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio rydym ni’n eu hasesu ar hyn o bryd. Dim ond y ceisiadau hynny sydd wedi bodloni’r gwiriadau cychwynnol sy’n cael eu rhestru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol (hynny yw, eu bod wedi eu dilysu), yn hytrach na rhestru pob un cais a gyflwynwyd. Mae’r gofrestr yn cynnwys peth manylion am yr ymgeisydd a’r cynnyrch ei hun, ac mae hefyd yn dangos cam cyfredol y cais.
Bydd y gofrestr hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i geisiadau gael eu dilysu a’u symud i'r camau asesu pellach.
Rhestr geisiadau
Lawrlwythwch y rhestr geisiadau (.xlsx)
Diweddarwyd y rhestr ddiwethaf ar 24 Awst 2021.
Gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr
Rhif ID Cynnyrch wedi’i Reoleiddio
Dyma rif adnabod y cynnyrch wedi’i reoleiddio a ddefnyddir ar gyfer pob cais a gofnodir yn ein gwasanaeth ymgeisio am gynnyrch wedi’i reoleiddio.
Math o gynnyrch
Mae 12 math o gynnyrch wedi'i reoleiddio y gellir ymgeisio amdanynt:
- Toddyddion echdynnu (extraction solvents)
- Ychwanegion bwyd anifeiliaid
- Bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTS)
- Prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid
- Cyflasynnau
- Deunyddiau sy'n dod i gysylltiad â bwyd
- Ychwanegion bwyd
- Ensymau bwyd
- Organebau a addasir yn enetig (GMOs) fel bwyd a bwyd anifeiliaid
- Bwyd wedi’i arbelydru
- Bwydydd newydd
- Cyflasynnau mwg
Sefydliad
Dyma enw'r cwmni sydd wedi gwneud cais i'r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio.
Enw'r cynnyrch
Dyma enw penodol y cynnyrch y mae’r ymgeisydd yn ceisio awdurdodiad ar ei gyfer.
Crynodeb
Dyma drosolwg o'r math o gais a phwrpas y cais.
Y cam asesu
Mae hyn yn cyfeirio at y cam gwerthuso y mae’r cais arno ar hyn o bryd:
- Asesiad risg – pwrpas y cam hwn yw penderfynu a yw'r cynnyrch neu'r broses yn ddiogel i'w rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Bydd hwn yn cynnwys asesiad risg gan un o'n Grwpiau Arbenigol ar y Cyd a/neu Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol wrth ystyried ffactorau cyfreithlon eraill (er enghraifft, risgiau i'r amgylchedd). Bydd y rhain yn cael eu cyfuno i ffurfio pecyn tystiolaeth.
- Rheoli risg – pwrpas y cam hwn yw ystyried dewisiadau rheoli risg posib a gwneud argymhelliad i weinidogion.
- Penderfyniad awdurdodi arfaethedig – dyma gam olaf y broses asesu lle bydd gweinidogion yn penderfynu a ddylai’r cynnyrch gael ei awdurdodi i’w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr.