Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofrestr o geisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig

Rhestr o’r ceisiadau a ddaeth i law drwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig

Mae’r gofrestr gyhoeddus hon yn rhestru’r ceisiadau a ddaeth i law trwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig ac yr ydym yn eu hasesu ar hyn o bryd. Dim ond y ceisiadau hynny sydd wedi bodloni’r gwiriadau cychwynnol sy’n cael eu rhestru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol (hynny yw, sydd wedi eu dilysu), yn hytrach na rhestru pob un cais a gyflwynwyd. Mae’r gofrestr yn cynnwys peth manylion am yr ymgeisydd a’r cynnyrch ei hun, ac mae hefyd yn dangos cam cyfredol y cais.

Bydd y gofrestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i geisiadau gael eu dilysu a’u symud i’r camau asesu pellach.

Rhestr o geisiadau

Diweddarwyd y rhestr ddiwethaf ar 10 Ebrill 2024.

Gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr

Rhif ID Cynnyrch Rheoleiddiedig

Dyma rif adnabod y cynnyrch rheoleiddiedig a ddefnyddir ar gyfer pob cais a gofnodir yn ein gwasanaeth ymgeisio am gynnyrch wedi’i reoleiddio.

Math o gynnyrch

Mae 12 math o gynnyrch wedi’i reoleiddio y gellir ymgeisio amdanynt:

  • Toddyddion echdynnu (extraction solvents) 
  • Ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • Bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTS)
  • Prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid
  • Cyflasynnau
  • Deunyddiau sy'n dod i gysylltiad â bwyd
  • Ychwanegion bwyd
  • Ensymau bwyd
  • Organebau a addasir yn enetig (GMOs) fel bwyd a bwyd anifeiliaid
  • Bwyd wedi’i arbelydru
  • Bwydydd newydd
  • Cyflasynnau mwg

Sefydliad

Dyma enw’r cwmni sydd wedi gwneud cais i’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio.

Enw’r cynnyrch

Dyma enw penodol y cynnyrch y mae’r ymgeisydd yn ceisio awdurdodiad ar ei gyfer.

Crynodeb

Dyma drosolwg o’r math o gais a phwrpas y cais.

Y cam asesu

Mae hyn yn cyfeirio at y cam gwerthuso y mae’r cais arno ar hyn o bryd:

  • Asesiad risg – pwrpas y cam hwn yw penderfynu a yw’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel i’w rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Bydd hwn yn cynnwys asesiad risg gan un o’n Grwpiau Arbenigol ar y Cyd a/neu Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol wrth ystyried ffactorau cyfreithlon eraill (er enghraifft, risgiau i’r amgylchedd). Bydd y rhain yn cael eu cyfuno i ffurfio pecyn tystiolaeth.
  • Rheoli risg – pwrpas y cam hwn yw ystyried dewisiadau rheoli risg posib a gwneud argymhelliad i weinidogion.
  • Penderfyniad awdurdodi arfaethedig – dyma gam olaf y broses asesu lle bydd gweinidogion yn penderfynu a ddylai’r cynnyrch gael ei awdurdodi i’w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr.