Mae'r Gofrestr hon o faterion dadansoddi risg yn darparu gwybodaeth am faterion sydd wrthi’n cael eu hystyried trwy ein proses dadansoddi risg ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae'n rhoi crynodeb o bob mater a'i statws cyfredol.
Download the list of applications (.xlsx)
Diweddarwyd y gofrestr ddiwethaf ar 6 Gorffennaf 2021.
Gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr
Rhif ID Dadansoddi Risg
Dyma'r rhif adnabod dadansoddi risg a ddefnyddir ar gyfer pob mater sy’n cael ei ystyried yn y broses dadansoddi risg.
Y math o fater dan sylw
Mae'r gofrestr yn cynnwys materion yn y meysydd canlynol:
- ychwanegion bwyd a deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
- hylendid bwyd cyffredinol
- hylendid cig
- halogion a gweddillion cemegol
- masnach
- polisi radiolegol
- bwyd anifeiliaid
Teitl y mater a chrynodeb ohono
Mae’r rhain yn rhoi trosolwg o’r mater a chrynodeb o’r gwaith a fydd yn cael ei gynnal.
Cam dadansoddi risg
Mae hyn yn nodi pa gam o’r broses dadansoddi risg y mae pob mater wedi ei gyrraedd:
- asesu risg
- datblygu ac ystyried dewisiadau rheoli risg
- cwblhau
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â materion sy'n destun dadansoddiad risg, fel papurau'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol, ymgynghoriadau a gwaith ymgysylltu cyhoeddus, trafodaethau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a'r cyngor a'r argymhellion rydym yn eu rhoi i eraill, trwy'r dolenni canlynol:
Cynhyrchion wedi'u rheoleiddio
Darperir gwybodaeth am geisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio sy’n destun dadansoddiad risg mewn Cofrestr ceisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar wahân.