Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Anifeiliaid hela a gaiff eu saethu â phlwm

Mae bwyta plwm yn niweidiol, ac mae arbenigwyr iechyd yn cynghori i leihau cysylltiad ag ef cymaint â phosibl. Dylai unrhyw un sy'n bwyta helgig o anifeiliaid sydd wedi’u saethu â phlwm fod yn ymwybodol o'r risgiau sydd ynghlwm â bwyta symiau uchel o blwm, yn enwedig plant a menywod beichiog.

Gall bwyta helgig sy’n dod o anifeiliaid a gafodd eu saethu gyda phlwm yn aml olygu bod defnyddwyr yn gallu dod i gysylltiad â lefelau peryglus o blwm. Dylai’r rheiny sy’n ei fwyta gyfyngu ar faint maent yn ei fwyta, yn arbennig anifeiliaid hela bach.

Mae anifeiliaid hela a gaiff eu saethu yn defnyddio plwm yn cynnwys:

  • Ffesant
  • Petrisen (partridge)
  • Grugiar ddu (black grouse)
  • Grugiar goch (red grouse)
  • Grugiar yr Alban (ptarmigan)
  • Ysgyfarnog frown
  • Carw
  • Hwyaden
  • Gŵydd
  • Ysguthan (wood pigeon)
  • Cyffylog (woodcock)
  • Gïach (snipe)
  • Cwningen
  • Cwtiad aur (golden plover)

Cânt eu saethu i’w bwyta gan ddefnyddio peledi neu beli wedi’u gwneud o blwm. Gall bwyta helgig o anifeiliaid sydd wedi’u saethu gan ddefnyddio plwm, a hynny’n aml, olygu eich bod yn dod i gysylltiad â lefelau niweidiol o blwm.

Er mwyn lleihau’r risg hwn, os ydych chi’n bwyta helgig o’r fath yn aml, yn arbennig anifeiliaid hela bach, dylech gwtogi ar faint ydych chi’n ei fwyta.

Gall cysylltiad â phlwm niweidio datblygiad yr ymennydd a’r system nerfol. Felly mae bwyta llai o’r cig sy’n dod o’r anifeiliaid hyn yn arbennig o bwysig i:

  • blant bach
  • plant
  • menywod beichiog
  • menywod sy’n ceisio beichiogi

Nid yw pob anifail hela yn cael ei saethu â phlwm. Yn gyffredinol, bydd yr helgig mawr sy’n cael ei werthu mewn archfarchnadoedd yn dod o anifeiliaid sydd wedi’u ffermio, ac yn cynnwys lefelau isel iawn o blwm, os o gwbl. Nid oes angen i chi boeni am fwyta’r math hwn o helgig. Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r helgig yn dod o anifail sydd wedi’i saethu â phlwm ai peidio, cofiwch holi eich cyflenwr am wybodaeth.

Yr wyddoniaeth y tu ôl i’n cyngor

Mae ein cyngor yn seiliedig ar astudiaeth o’r rheiny sy’n bwyta cig o anifeiliaid hela gwyllt. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban gynt a’i chyhoeddi yn 2012. Rydym ni hefyd wedi defnyddio data sy’n bodoli eisoes ar lefelau plwm yn y mathau hyn o fwyd yn y Deyrnas Unedig.

Nid oes lefel ddiogel wedi’i phennu ar gyfer plwm. Mae grwpiau cynghori arbenigol annibynnol yn cynghori y dylid cyfyngu cysylltiad â phlwm cymaint â phosibl.