Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

BPA mewn plastig

Beth yw Bisffenol A (BPA) a’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n cefnogi ein dealltwriaeth o BPA.

Cemegyn a ddefnyddir i wneud plastigau anhyblyg yw BPA, gan gynnwys cynwysyddion storio bwyd a photeli diodydd y gellir eu hail-lenwi. Caiff ei ddefnyddio hefyd i wneud haenau a leininau ar gyfer caniau bwyd a diod. Ni ellir ei ddefnyddio mewn eitemau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan fabanod a phlant ifanc fel poteli a biceri bwydo babanod.

Lle caniateir ei ddefnyddio, gall ychydig bach iawn o’r cemegyn drosglwyddo o rai deunydd pecynnu i fwyd a diod. Fodd bynnag, nid yw lefel y BPA a ganfuwyd mewn bwyd yn y DU hyd yn hyn yn cael ei ystyried yn niweidiol ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n ystyried tystiolaeth newydd mewn perthynas â BPA.

Asesiadau diogelwch BPA

Mae rhai pobl yn poeni am BPA oherwydd ei fod yn un o blith nifer mawr o sylweddau a allai ymyrryd â’n systemau hormonau. Mae asesiadau helaeth wedi’u cynnal ar BPA ac mae data newydd yn cael ei adolygu.

Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd yn gosod cyfyngiadau ar BPA, ac mae’n ofynnol i weithgynhyrchwyr bodloni’r cyfyngiadau hyn. O dan yr egwyddor ragofalus, mae amodau llymach wedi’u pennu sy’n nodi na ddylai BPA drosglwyddo i fwydydd nac eitemau a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc.

Mae ein pwyllgorau cynghori gwyddonol annibynnol wrthi’n gwerthuso’r dystiolaeth ddiweddaraf mewn perthynas â BPA mewn bwyd. Bydd yr ASB yn ystyried a fydd angen diweddaru’r cyfyngiadau presennol mewn perthynas â BPA unwaith y bydd y gwerthusiad wedi’i gwblhau.

ASB yn Esbonio
Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif faint o sylwedd cemegol y gall rhywun ei fwyta bob dydd drwy gydol ei oes heb achosi risg sylweddol i’w iechyd. Dyma beth a elwir yn lefel y gellir ei goddef yn ddyddiol (TDI) ar gyfer sylwedd cemegol. Yn y DU, mae set TDI dros dro ar gyfer BPA ar hyn o bryd.

Mwy o wybodaeth

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) ar gyfer Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd ar gael ar-lein.