Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Lladd da byw gartref

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref.

Gallwch chi ladd anifail da byw ar eich fferm neu'ch eiddo os bydd yn cael ei fwyta gennych chi a'ch teulu agos sy'n byw yno. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi lynu at y gofynion cyfreithiol a nodir yn y Canllaw ar ladd da byw gartref ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae'r ddogfen ganllaw hon ar gyfer: 

  • Perchenogion da byw sy'n ystyried lladd anifeiliaid ar y fferm i'w bwyta ganddynt hwy neu gan aelodau o'r teulu agos sy'n byw yno. 
  • Rheiny sydd â thrwydded i ladd anifeiliaid  neu Dystysgrif Cymhwysedd a ddyfarnwyd gan yr awdurdod cymwys perthnasol sy'n lladd gartref o dan gyfrifoldeb a goruchwyliaeth perchennog y da byw ar y fferm at ddefnydd personol y perchennog neu aelodau uniongyrchol y teulu sy’n byw yno. 
  • Awdurdodau Gorfodi sy'n gyfrifol am orfodi a monitro ar y fferm. 

Pwrpas y canllaw hwn yw diogelu’r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid a lleihau unrhyw risgiau posibl i iechyd a lles pobl ac anifeiliaid drwy: 

  • roi cyngor ar yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn gallu lladd da byw gartref yn gyfreithlon. 

Nid yw'r canllaw hwn yn cwmpasu'r holl rywogaethau da byw, ond mae'n arbennig o berthnasol i: 

  • wartheg 
  • defaid 
  • geifr 

England and Wales