Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Sut i gynnal parti stryd yn ddiogel

Mae’n benwythnos Gŵyl Banc ddechrau mis Mehefin, a bydd llawer o ddigwyddiadau Cinio Cymunedol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y penwythnos gŵyl banc yn ddathliad mawr gyda llawer o bobl yn trefnu partïon neu’n dod at ei gilydd yn eu cymunedau lleol. 


P'un a fyddwch chi’n mynd i barti cymunedol neu'n cynnal un eich hunan, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o ddiogelwch a hylendid bwyd. Dyma rai awgrymiadau a chyngor ymarferol ar arferion gorau fel y gall pawb ymddiried yn y bwyd maen nhw’n  ei fwyta.

Cofrestru parti stryd

Os ydych chi'n cynnal digwyddiad unwaith ar gyfer ffrindiau a chymdogion, nid oes angen i chi gofrestru. Fodd bynnag, os bydd unrhyw fusnesau bwyd yn bresennol mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda’r awdurdod lleol.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol fel busnes bwyd os ydych chi'n darparu bwyd yn rheolaidd, a hynny wedi'i drefnu.

Eich awdurdod lleol sy’n rheoli’r gofynion trwyddedu. Gallwch ddarllen rhagor am sut i gofrestru eich busnes bwyd

Nid oes angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch chi i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n trin bwyd yn ddiogel. 


Gwerthu bwyd mewn parti stryd

Nid oes angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch chi i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n trin bwyd yn ddiogel. 


Trin bwyd parti

Mae tywydd braf a choginio yn yr awyr agored yn creu’r amgylchiadau perffaith i facteria dyfu ac mae risgiau wrth baratoi a gweini bwyd oer yn yr amgylchiadau hyn. 

Bydd dilyn hanfodion hylendid bwyd yn eich helpu i baratoi, coginio a storio bwyd yn ddiogel. Bydd y canlynol yn eich helpu i wneud hyn:

  • glanhau yn effeithiol er mwyn cael gwared â bacteria oddi ar ddwylo, offer ac arwynebau. Bydd hyn yn helpu i atal bacteria a feirysau niweidiol rhag lledaenu i fwyd.
  • oeri eich bwyd o dan 8°C - bydd hyn yn atal neu'n arafu twf bacteria yn sylweddol.  Rhaid cynnal y tymheredd hwn ac ni ddylid gadael bwydydd y mae angen eu hoeri, fel llenwadau brechdanau, allan o'r oergell am fwy na phedair awr. 
  • coginio bwyd yn gywir drwy ddilyn y canllawiau ar amser a thymheredd coginio.
  • osgoi croeshalogi er mwyn atal bacteria rhag trosglwyddo o fwyd amrwd i fwyd parod i'w fwyta drwy bethau fel bagiau siopa, cyllyll a byrddau torri.
  • hylendid personol da - mae hyn hefyd yn hanfodol wrth baratoi bwyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw facteria y gallech chi ddod i gysylltiad ag ef yn cael ei drosglwyddo i'ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion yn eu bwyd.  

Arferion gorau

Dyma rai awgrymiadau ymarferol i helpu i gadw'r bwyd rydych chi'n ei baratoi a'i fwyta'n ddiogel yn ystod dathliadau cymunedol:

  • golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd cyn paratoi a bwyta bwyd
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi ffrwythau a llysiau ffres bob amser
  • storiwch fwyd amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta ar wahân
  • peidiwch â defnyddio bwyd y tu hwnt i'w ddyddiad defnyddio erbyn (use-by date)
  • darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio bob amser a gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi'i goginio'n iawn cyn ei weini - mae angen iddo fod yn stemio’n boeth
  • sicrhewch fod mannau paratoi bwyd yn cael eu glanhau a’u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio a bod offer cegin yn cael ei olchi mewn dŵr poeth â sebon
  • cynlluniwch ymlaen llaw i gadw eich bwyd yn oer nes eich bod chi'n barod i fwyta. Hefyd, mae angen cadw unrhyw fwydydd y byddech chi fel arfer yn eu cadw yn yr oergell yn oer yn ystod eich picnic. Mae hyn yn cynnwys: unrhyw fwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (use by), prydau wedi'u coginio, saladau a chynhyrchion llaeth
  • rhowch y bwydydd hyn mewn blwch neu fag oeri gyda phecynnau iâ neu becynnau gel wedi'u rhewi. Dosbarthwch y pecynnau oeri hyn trwy'r blwch neu'r bag, nid dim ond ar y gwaelod. Gallwch hefyd ddefnyddio diodydd wedi'u rhewi i gadw popeth yn oer. Storiwch fwyd oer o dan 5°C i atal bacteria rhag tyfu. 

Os na chaiff bwyd ei drin yn iawn mae pobl mewn perygl o gael gwenwyn bwyd oherwydd:

  • campylobacter – sy’n lledaenu drwy groeshalogi gan gyw iâr amrwd
  • listeria – sydd i’w ganfod amlaf mewn bwydydd oer, parod i’w bwyta fel cigoedd wedi’u halltu, brechdanau wedi’u paratoi ymlaen llaw a saladau
  • salmonela – sydd i'w ganfod amlaf mewn dofednod heb eu coginio'n ddigonol, cig amrwd, wyau neu laeth heb ei basteureiddio
  • E.coli – sydd i’w ganfod amlaf ar gigoedd amrwd a chigoedd heb eu coginio'n ddigonol

Darllenwch ein canllawiau ar Ddarparu bwyd mewn digwyddiadau cymunedol ac elusennol i gael cyngor penodol ar baratoi a gweini cacennau mewn digwyddiadau cymunedol.

Mae ein cyngor ar gadw bwyd yn ddiogel mewn picnic yn cynnwys rhagor o awgrymiadau ar sut i gadw bwyd yn oer ac yn ddiogel.

Os ydych chi’n cynnal barbeciw, darllenwch ein cyngor ar gadw bwyd barbeciw yn ddiogel


Pwysig

Cofiwch fod angen i chi fod yn wyliadwrus iawn ar ddiwrnodau poeth. 


Rhoi cyngor i bobl ag alergeddau bwyd

Mae'r ASB yn argymell eich bod yn darparu cymaint o wybodaeth â phosib am alergenau.

Cofiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib am yr alergenau a’r cynhwysion yn y bwyd rydych chi’n ei weini. Bydd hyn yn galluogi pawb i wneud dewisiadau diogel wrth ddewis bwyd i'w fwyta, yn enwedig y rhai ag alergeddau bwyd penodol.

Mae adnoddau ar gael os hoffech arddangos canllawiau ar alergenau.


Cyngor y tîm diogelwch bwyd lleol

Cysylltwch â'ch tîm diogelwch bwyd lleol os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eich digwyddiad neu ddigwyddiad yr ydych yn bwriadu ei fynychu.

Gallwch ddod o hyd i fanylion eich tîm diogelwch bwyd lleol ar ein gwefan: Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd lleol.


Cyngor COVID-19 ar gyfer partïon stryd

Mae’n bwysig cofio bod COVID-19 yn dal i beri risg ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i amddiffyn ein hunain ac eraill cymaint â phosib. Mae yna gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd i helpu i leihau’r risg o ddal COVID-19 a’i drosglwyddo i eraill. 

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 neu os ydych yn teimlo’n sâl, dilynwch ganllawiau GOV.UK