Adnoddau ar gyfer rhoi gwybodaeth am alergenau

Last updated:
19 November 2014
Canllawiau ac adnoddau i gynorthwyo awdurdodau lleol a busnesau bwyd i hyrwyddo, gweithredu ac i gydymffurfio â Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE, a ddaeth i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, mae croeso i chi anfon e-bost at FoodIntoleranceEnquiries@foodstandards.gsi.gov.uk.

Pecyn Cymorth

Bwriad y pecyn cymorth hwn yw cynnig cefnogaeth i awdurdodau lleol wrth iddynt hybu'r Rheoliad Gwybodaeth am fwyd i Ddefnyddwyr yr UE ar lefel lleol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am negeseuon allweddol, syniadau ar gyfathrebu â busnesau a defnyddwyr, templedi datganiadau i'r wasg a manylion am sut i ddod o hyd i wybodaeth bellach.

Cyflwyniad ar y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd ar gyfer awdurdodau lleol

Mae'r cyflwyniad hyfforddi hwn, sy'n rhoi gwybodaeth gyffredinol, wedi'i baratoi i hwyluso'r broses o hyfforddi ar y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd. Gellir ei ddefnyddio i roi trosolwg o nodweddion allweddol y rheoliad i fusnesau bwyd a staff. Nodwch fod modd i chi ychwanegu manylion eich awdurdod lleol at y cyflwyniad hwn yn ogystal â'i deilwra yn ôl yr angen.

Deunyddiau ar gyfer ysgolion

Poster Antur Alergedd

Poster ‘Antur Alergedd’ – Ar gael yn rhad ac am ddim

Mae’r poster lliwgar hwn yn tynnu sylw at yr 14 prif alergen ac yn ffordd llawn hwyl o addysgu plant am ymddwyn yn ddiogel mewn perthynas ag alergeddau bwyd. Dyluniwyd y poster i’w argraffu fel dogfen A3 ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Gallwch argraffu fersiwn lliw llawn a fersiwn sy’n hawdd ei hargraffu hefyd.

Cofiwch mai ‘Allergy Adventures’ sy’n cadw’r holl hawl i’r deunydd hwn ac ni ellir ei ddiwygio na’i newid mewn unrhyw ffordd. Hefyd, nid oes gennych chi unrhyw hawl i wneud defnydd masnachol o’r adnodd hwn heb geisio  caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Llythyr a phoster ar gyfer ysgolion uwchradd

Dyluniwyd y llythyr a'r poster hwn i’w hanfon at benaethiaid a llywodraethwyr ysgolion uwchradd gan awdurdodau lleol. Nod y deunyddiau hyn yn hyrwyddo'r rheolau alergenau mewn ysgolion lleol. Mae modd argraffu'r poster fel dogfen A3 neu A4 yn ôl y gofyn.

gofyn.

Fideos ar alergenau

Mae'r fideo hwn yn dangos gwaith yr ASB ar alergedd ac anoddefiad bwyd, gan gynnwys gwaith ymchwil a labelu.

Mae'r fideo hwn yn dangos yr her o fyw gydag alergedd bwyd drwy lygaid plant (Saesneg yn unig).

Celfwaith

Mae celfwaith ar gyfer yr 14 alergen i'w weld drwy'r ddolen isod. Ni ellir defnyddio'r lluniau hyn ar eu pennau eu hunain, ac mae'n rhaid cynnwys testun sy'n egluro beth yw'r llun; er enghraifft, mae'n rhaid i lun o wyau ddangos y geiriau "wyau". Gallwch ddefnyddio'r lluniau hyn ar eich posteri a thaflenni eich hunain.

Celfwaith ar gyfer yr 14 alergen y bydd angen eu datgan

Taflen ffeithiau

Dyma daflen ffeithiau sy'n un dudalen o hyd ar Reoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE. Gall cyfanwerthwyr roi'r daflen hon i mewn i lwythi o nwyddau , er enghraifft, pan fyddant yn anfon archebion at Weithredwyr Busnesau Bwyd, neu gall busnesau ei defnyddio fel adnodd hyfforddi staff neu daflen wybodaeth.

Posteri a thempledi

Poster 'Meddyliwch am Alergedd'

Dyma boster syml i'w ddefnyddio er mwyn annog staff i feddwl am alergenau, yn ogystal ag i hyfforddi staff ar sut i ymdrin â cheisiadau gan gwsmeriaid am wybodaeth am alergenau. Mae'r poster ar gael yn Saesneg a phedair iaith arall.

Arwyddion

Enghraifft o arwydd sy'n nodi ble a sut y gall cwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth am alergenau.

Matrics alergenau y cogydd

Dyma fatrics alergenau i'w lenwi ar eich cyfrifiadur neu ar ffurf copi caled. Bydd y matrics yn helpu staff y gegin i logio a gwirio gwybodaeth am alergenau ar gyfer prydau o fwyd.

Cardiau rysáit y cogydd

Gallwch lenwi'r cofnodion unigol hyn naill ai ar eich cyfrifiadur neu ar ffurf copi caled. Mae'r rhain yn galluogi staff y gegin i logio a gwirio'r wybodaeth am alergenau ar gyfer prydau unigryw, er enghraifft pan fo gennych 'prydau arbennig' neu pan nad oes gennych y cynhwysion cywir ac yn defnyddio cynhwysion eraill oherwydd hynny ar y diwrnod.

Cardiau 'Rhybudd – Alergedd!'

Gall defnyddwyr nodi'r alergenau y mae'n rhaid iddynt eu hosgoi ar y cardiau defnyddiol hyn, a'u rhoi i'r staff pan fyddant yn bwyta allan. Hefyd, gall busnesau bwyd eu hargraffu a'u cadw ar y byrddau fel bod modd i gwsmeriaid nodi unrhyw alergeddau sydd ganddynt, os oes angen.