Gofyn am safbwyntiau ar Geisiadau Bwydydd Newydd
Last updated:
27 March 2017
Mae dau gwmni wedi gwneud cais i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gael eu cymeradwyo i roi eu cynhyrchion bwyd newydd ar y farchnad yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) dan Reoliad Bwydydd Newydd (CE) 258/97. Gofynnir am safbwyntiau ar y ddau gais er mwyn llywio asesiad y cynhyrchion hyn. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 16 Ebrill 2017.

