Alergedd ac anoddefiad: Canllawiau i fusnesau
Bwriad y canllawiau hyn yw helpu busnesau bwyd i roi gwybodaeth i gwsmeriaid sydd angen osgoi cynhwysion penodol am fod ganddynt alergedd neu anoddefiad bwyd. Maent yn cynnwys cyngor a gwybodaeth gyffredinol am alergedd ac anoddefiad, arweiniad penodol ar arferion gorau gwirfoddol o ran bwydydd sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw a bwydydd rhydd, a’r rheolau newydd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau.

