Credir bod campylobacter yn gyfrifol am fwy na 280,000 o achosion o wenwyn bwyd bob blwyddyn. Caiff mwy na 72,000 o achosion o wenwyn campylobacter (neu campylobacteriosis)eu cadarnhau mewn labordai a bydd cyfran uchel o'r rhain yn gysylltiedig â bwyd.
Mae’r Asiantaeth yn parhau i ddadansoddi’r effaith y mae campylobacter yn ei chael ar bobl, ond mae amcangyfrifon blaenorol wedi dangos bod campylobacter yn gyfrifol am 110 o farwolaethau bob blwyddyn, ac yn costio economi’r DU tua £900 miliwn. Dofednod wedi’u halogi sy'n gyfrifol am tua 4 o bob 5 achos o wenwyn campylobacter yn y DU. Mae campylobacter i’w gael hefyd mewn cig coch, llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin. Er nad yw fel rheol yn tyfu mewn bwyd, mae’n ymledu’n hawdd ac nid oes angen llawer ohono i achosi haint. Felly, gall ychydig iawn o facteria mewn darn o gyw iâr nad yw wedi’i goginio ddigon, neu facteria sydd wedi’u trosglwyddo o gyw iâr amrwd i fwydydd eraill sy’n barod i’w bwyta, achosi salwch.
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o gampylobacter mewn cyw iâr a oedd yn cael ei werthu gan y sector manwerthu yn y DU rhwng mis Mai 2007 a mis Medi 2008, roedd campylobacter yn bresennol yn 65% o’r samplau o gyw iâr ffres a brofwyd. Yn ôl arolwg gwaelodlin, a gynhaliwyd gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2008 ac a gyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifid bod lefelau campylobacter yn y DU yn cyfateb i 75.3% mewn grwpiau o frwyliaid (cynnwys eu coluddion) ac yn cyfateb i 86.3% mewn carcasau brwyliaid (samplau o’u croen). Roedd y canlyniadau hyn yn uwch na lefelau cymedrig wedi’u pwysoli yr UE, sef 71.2% ar gyfer grwpiau o frwyliaid a 77% ar gyfer carcasau brwyliaid. Roedd ystod eang o lefelau campylobacter ar draws Aelod-wladwriaethau, a oedd yn amrywio o 4.9% i 100% mewn carcasau brwyliaid ac o 2% i 100% mewn grwpiau o frwyliaid.
Gellir gweld adroddiadau arolwg y DU ac arolwg yr UE drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod (Saesneg yn unig).
Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn dangos bod heriau’n ymwneud â champylobacter yn bresennol yn ein system diogelwch bwyd. Un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw lleihau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU. Caiff hynny ei adlewyrchu yn Strategaeth Wyddoniaeth a Thystiolaeth 2010-15 a Strategaeth 2015 yr Asiantaeth, sy’n datgan y bydd clefydau a gludir gan fwyd yn cael eu lleihau gan ddefnyddio dull gweithredu a dargedir, a bod mynd i’r afael â champylobacter mewn cyw iâr yn flaenoriaeth.