P'un a ydych chi'n berchennog caffi neu fwyty, yn ffermwr neu'n gigydd, mae'r adran hon yn cynnwys cyngor a chanllawiau ar gyfer cynhyrchu bwyd yn ddiogel.
Mae'r Asiantaeth yn ymwneud â'r diwydiant bwyd cyfan - o ffermio, cynhyrchu a dosbarthu bwyd, i fanwerthu ac arlwyo. Mae'r Asiantaeth yn gweithredu ar hylendid bwyd ym mhob cam o'r gadwyn, gan ddarparu gwybodaeth a chanllawiau ar arferion gorau a gofynion cyfreithiol.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ar hyd a lled y gadwyn fwyd. Mae hyn yn cynnwys gwella hylendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu heb fod angen o ganlyniad i'r bwyd a roddir i anifeiliaid.
Mae gan eich busnes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad sy’n cael ei wneud gan eich awdurdod lleol os nad ydych yn cytuno â cham gweithredu a gymerwyd gan arolygydd yr awdurdod lleol. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl o arolygiadau awdurdodau lleol, ac yn egluro beth y gallwch chi ei wneud i ddatrys unrhyw faterion sy’n codi.
Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn gyfrifol am orfodi rheolaethau diogelwch a safonau bwyd ar gynhyrchion bwyd. Mae'r Arolygiaeth Marchnata Garddwriaethol yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn gyfrifol am orfodi rheolau Marchnata Cymunedol ar gyfer ffrwythau a llysiau. Mae canllawiau ac adnoddau ar gyfer y rhain ac awdurdodau gorfodi eraill ar gael.
Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer arlwywyr a manwerthwyr i helpu sicrhau bwyd diogel i gwsmeriaid. Cyngor ar arlwyo’n ddiogel, y pecyn ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’, canllawiau ar y ddeddfwriaeth hylendid bwyd ac alergedd ac anoddefiad bwyd.
Mae'r adran hon yn ymwneud â'r diwydiannau cynhyrchu a phrosesu cig. Yma cewch ddysgu mwy am y prosesau trwyddedu, arolygu ac adrodd sy'n llywodraethu'r diwydiannau hyn.
Mae Cynllun Rheoli Cenedlaethol Amlflwydd y DU (MANCP) yn amlinellu swyddogaethau, cyfrifoldebau a strategaethau'r gwahanol awdurdodau a sefydliadau sy’n ymwneud â gorfodi a monitro cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd a lles anifeiliaid a gofynion iechyd planhigion. Cafodd y cynllun ei ymestyn i 2018 a'i ddiweddaru yn 2016.
Mae system HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) yn helpu gweithredwyr busnesau bwyd i edrych ar y ffordd y maent yn trin bwyd. Mae'n cyflwyno gweithdrefnau i wneud yn siŵr bod y bwyd a gynhyrchir ganddynt yn ddiogel i'w fwyta.
Er mwyn gwneud a gwerthu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta, mae hylendid bwyd da yn hanfodol. Mae’n bwysig iawn eich bod chi a’ch staff yn deall beth yw hylendid bwyd da.