Dyma becyn 'Bwyd mwy diogel, busnes gwell' yn arbennig ar gyfer gwarchodwyr plant. Mae'r pecyn hwn yn rhoi cyngor syml ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys gwybodaeth am fwydo babanod a phlant, coginio, glanhau, oeri ac edrych ar ôl plentyn gydag alergedd bwyd. Mae fersiwn newydd y pecyn hwn wedi'i diweddaru i gynnwys cyngor newydd ac mae'n haws ei defnyddio.