Cydraddoldeb

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac i ddileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu a bwlio. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd gwaith da a chytûn, lle mae pob unigolyn yn cael ei barchu a lle na chaiff gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath ei oddef.

Mae’n ofynnol i gyflogeion yr ASB a’r unigolion sy’n gweithio iddi o dan drefniadau contract gynorthwyo’r Asiantaeth i fodloni’i hymrwymiad i ddarparu cyfle cyfartal o ran cyflogaeth ac i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Daeth Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i rym ar 5 Ebrill 2011. Yn unol â’i gofynion, mae’r ASB wedi ymrwymo i roi sylw priodol i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • hybu cyfle cyfartal rhwng gwahanol grwpiau
  • meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau

More in this section