Mae arsenig yn bresennol yn yr amgylchedd yn naturiol, ac felly mae’n treiddio i fwyd a dŵr ar lefelau gwahanol mewn gwahanol rannau o’r byd. Nid yw’n bosibl ei ddileu o fwyd. Ond, pe baem yn cael gormod o arsenig yn ein deiet, gallai niweidio ein hiechyd.
Mae reis yn dueddol o amsugno mwy o arsenig o’r amgylchedd na chnydau grawn eraill, er bod hyn yn gallu amrywio yn ôl y math o reis a’r dull o’i gynhyrchu. Mae’r arsenig mewn reis hefyd yn dueddol o fod ar ffurf anorganig sy’n fwy gwenwynig ac fe allai gynyddu’r risg o salwch, gan gynnwys canser.


