Bwyd wedi’i arbelydru

Diweddarwyd ar:
26 Ebrill 2012
Gellir arbelydru bwyd i ladd bacteria sy’n achosi gwenwyn bwyd fel salmonela, campylobacter ac E.coli. Gall hefyd rwystro ffrwythau rhag aeddfedu a helpu i atal llysiau fel tatws a winwns/nionod rhag egino.
Expand All Collapse All

Beth yw arbelydru bwyd?

Techneg brosesu lle mae bwyd yn dod i gysylltiad â phelydrau electronau, pelydrau X neu belydrau gama yw arbelydru bwyd. Mae effaith y broses yn debyg i basteureiddio, coginio neu driniaethau eraill sy’n defnyddio gwres, ond mae’n cael llai o effaith ar ymddangosiad a gwead y bwyd. Mae bwyd wedi’i arbelydru wedi dod i gysylltiad ag ymbelydredd, ond nid yw’r bwyd ei hun yn ymbelydrol.

Mae bwyd yn amsugno egni pan fydd yn dod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio. Gelwir swm yr egni a gaiff ei amsugno’n ‘ddos a amsugnwyd’. Caiff ei fesur ar ffurf uned a elwir yn gray (Gy) neu cilogray (kGy), lle mae 1kGy = 1,000Gy. Mae’r egni a gaiff ei amsugno gan y bwyd yn creu moleciwlau dros dro a elwir yn radicalau rhydd sy’n lladd bacteria sy’n achosi gwenwyn bwyd. Gallant hefyd rwystro ffrwythau rhag aeddfedu a helpu i atal llysiau, fel tatws a winwns/nionod, rhag egino.

Ydy arbelydru bwyd yn ddiogel?

Mae ymchwil a wnaed dros ddegawdau ledled y byd yn dangos bod arbelydru bwyd yn ffordd ddiogel ac effeithiol o ladd bacteria mewn bwyd ac estyn ei oes silff. Mae cyd-bwyllgorau Sefydliad Iechyd y Byd, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Pwyllgor Gwyddonol y Gymuned Ewropeaidd ar Fwyd, Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau ac un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi wedi ymchwilio’n fanwl i arbelydru bwyd. Yn 2011, bu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn adolygu’r dystiolaeth a bu iddo ailadrodd ei safbwynt fod arbelydru bwyd yn ddiogel.

Ydy arbelydru bwyd yn newid y bwyd mewn unrhyw ffordd?

Mae pob techneg i gadw bwyd yn achosi newidiadau cemegol yn y bwyd – dyna sut maen nhw’n gweithio. Mae’r newidiadau yn sgil arbelydru bwyd (er enghraifft, cynhyrchu radicalau rhydd) yn debyg o ran eu natur a’u maint i’r newidiadau sy’n digwydd yn sgil technegau eraill i gadw bwyd, fel coginio, canio a phasteureiddio. Gall rhai fitaminau gael eu colli, ond byddai hynny’n digwydd gydag unrhyw dechneg gadw arall neu hyd yn oed drwy storio’r bwyd am gyfnod hir. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw rai o’r newidiadau sy’n digwydd yn sgil arbelydru bwyd yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Mae’r gyfraith ym maes arbelydru bwyd yn datgan mai dim ond os yw o fudd i’r cyhoedd y gellir defnyddio’r dechneg. Os yw cwmni am arbelydru cynnyrch bwyd, rhaid bod modd iddo ddangos bod manteision arbelydru (er enghraifft, lleihau’r risg o salwch a gludir gan fwyd) yn gwrthbwyso unrhyw agwedd negyddol (er enghraifft, colli rhai fitaminau). Bydd hyn yn amrywio o fwyd i fwyd ac, felly, mae arbelydru bwyd yn fwy addas i rai bwydydd na’i gilydd.

Pa gategorïau o fwydydd y gellir eu harbelydru a’u gwerthu yn y DU?

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cytuno ar restr o fwydydd wedi’u harbelydru y gellir eu masnachu heb gyfyngiadau ar draws yr Undeb Ewropeaidd (UE). Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn ac, ar hyn o bryd, dim ond un grŵp bwyd sydd arni: perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi’u sychu. Hyd nes i’r rhestr hon gael ei chwblhau, caiff aelod-wladwriaethau’r UE barhau i ganiatáu i gategorïau eraill o fwydydd gael eu harbelydru.

Yn y DU, gellir arbelydru saith categori bwyd. O ran pob categori bwyd, nodir ‘uchafswm y dos cyfartalog cyffredinol’ y gellir ei ddefnyddio ar ffurf unedau kGy:

  • ffrwythau, 2kGy
  • llysiau, 1kGy
  • grawnfwyd, 1kGy
  • bylbiau a chloron, 0.2kGy
  • perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi’u sychu, 10kGy
  • pysgod a physgod cregyn, 3kGy
  • dofednod, 7kGy

Gellir arbelydru’r categorïau hyn o fwydydd a’u defnyddio fel cynhwysion mewn cynhyrchion bwyd eraill hefyd.

Ydy hi’n bosibl mewnforio bwyd wedi’i arbelydru i’r DU?

Gellir mewnforio bwydydd penodol sydd wedi’u harbelydru i’r DU ar yr amod eu bod yn bodloni rheolau penodol. Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 yn nodi’r gofynion o ran cynhyrchu, mewnforio a gwerthu bwyd wedi’i arbelydru yn y DU. Rhaid i’r bwyd ddod o gyfleuster cymeradwy a rhaid darparu’r dogfennau cywir gyda’r bwyd. Mae deddfwriaeth gyfatebol ar waith yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd.

Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am fewnforio bwyd wedi’i arbelydru.

Pa ddulliau arbelydru a ganiateir?

Mae’r Rheoliadau Arbelydru Bwyd yn caniatáu pedwar dull arbelydru, sef:

  • pelydrau gama o’r radioniwclid cobalt-60
  • pelydrau gama o’r radioniwclid caesium-137
  • pelydrau X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV
  • electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV

Ble mae bwydydd yn cael eu harbelydru?

Mae bwydydd yn cael eu harbelydru mewn cyfleusterau arbelydru awdurdodedig sy’n cael eu rheoleiddio ac sy’n destun arolygiadau diogelwch llym.

Ar hyn o bryd, mae un cyfleuster arbelydru bwyd trwyddedig ar gael yn y DU. Mae dros 20 cyfleuster ar gael yn aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd (UE) a 10 cyfleuster tu allan i’r UE (tri yn Ne Affrica ac India, dau yng Ngwlad Thai ac un yr un yn Nhwrci a’r Swistir). Dim ond cyfleusterau a gymeradwywyd gan yr UE a gaiff fewnforio’r bwydydd hyn i’r DU.

Sut fydda i’n gwybod bod bwyd wedi’i arbelydru?

Rhaid rhoi label ar unrhyw fwyd sydd wedi’i arbelydru i ddweud ei fod wedi’i arbelydru (irradiated) neu’i drin ag ymbelydredd ïoneiddio (treated with ionising radiation). Os yw bwyd wedi’i arbelydru’n cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn bwyd arall, dylai’r geiriau ‘wedi’i arbelydru’ (irradiated) neu ‘wedi’i drin ag ymbelydredd ïoneiddio’ (treated with ionising radiation) ymddangos wrth ymyl y cynhwysyn yn y rhestr gynhwysion. Os nad yw’r bwyd wedi’i arbelydru wedi’i becynnu ymlaen llaw, rhaid i’r geiriau hyn ymddangos ynghyd ag enw’r cynnyrch ar arwydd neu hysbysiad uwchlaw neu wrth ymyl y cynhwysydd lle mae’r cynnyrch wedi’i leoli.

Pa wiriadau sy’n cael eu cyflawni?

Mae’r Pwyllgor Safoni Ewropeaidd (CEN) wedi dilysu deg prawf safonol i ganfod gwahanol fwydydd sydd wedi’u harbelydru, gan gynnwys perlysiau a sbeisys, dofednod a chig sy’n cynnwys esgyrn a chynhyrchion sy’n cynnwys brasterau.

Mae swyddogion safonau masnach yr awdurdodau lleol yn cyflawni gwiriadau i sicrhau bod unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u labelu’n anghywir yn dod i’r amlwg. Caiff y canlyniadau eu trosglwyddo i’r Comisiwn Ewropeaidd a’u cyhoeddi mewn adroddiadau blynyddol.

Ydy hi’n ddiogel bwyta bwyd sydd wedi bod drwy sganiwr pelydr X, er enghraifft mewn maes awyr?

Ydy. Mae’r sganwyr pelydr X a ddefnyddir i archwilio bagiau mewn meysydd awyr yn defnyddio llawer llai o egni ac yn cynhyrchu llawer llai o ymbelydredd na’r ffynonellau ymbelydredd a ddefnyddir mewn cyfleusterau arbelydru bwyd. Gellir defnyddio cymaint â 10,000 Gy o ymbelydredd i brosesu bwyd. Mae sganwyr pelydr X yn defnyddio llai na 0.5 Gy. Mae’n anodd iawn, os nad yn amhosibl, canfod unrhyw newid i fwyd ar ôl iddo fod drwy sganiwr pelydr X.

Yn wir, mae llawer o’r peiriannau pelydr X (mewn meysydd awyr, er enghraifft) yn defnyddio dos mor isel fel nad ydynt yn effeithio ar ffilm ffotograffig.

Sut ddylwn i storio neu drin a thrafod bwyd wedi’i arbelydru?

Os ydych yn storio neu’n cludo bwyd wedi’i arbelydru i’w werthu, rhaid i chi sicrhau bod y dogfennau cywir yn cael eu cadw gyda’r bwyd hyd nes iddo gael ei werthu i’r cwsmer neu’r arlwywr terfynol. Dylai gynnwys gwybodaeth am sut a ble y cafodd y bwyd ei arbelydru. Y cyfleuster arbelydru fydd yn darparu’r wybodaeth hon.

Tudalennau cysylltiedig (fersiwn Gymraeg ar ei ffordd)