Anifeiliaid wedi’u clonio

Eggs
Mae Rheoliad (EC) 258/97 (y ‘Rheoliad Bwydydd Newydd’) yn berthnasol i fwydydd a gynhyrchir o anifeiliaid wedi’u clonio. Felly, rhaid i gig, llaeth neu wyau o anifeiliaid wedi’u clonio gael gwerthusiad diogelwch a chael eu cymeradwyo gan holl aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (UE) fel bwyd newydd cyn bod modd eu marchnata’n gyfreithlon.

I weld y Rheoliad Bwydydd Newydd ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd, defnyddiwch y ddolen isod.

Asesu technolegau bwyd newydd

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r corff yn y DU sy’n gyfrifol am asesu bwydydd newydd ac ni fydd yn asesu diogelwch defnyddio anifeiliaid wedi’u clonio a’u hepil yn y gadwyn fwyd os na ofynnir iddi wneud hynny. Os yw cwmni am gael caniatâd i farchnata bwyd a gynhyrchwyd gan ddefnyddio anifeiliaid wedi’u clonio, rhaid i’r Asiantaeth asesu’r goblygiadau o ran diogelwch bwyd.

Yn ystod asesiad diogelwch o’r fath, bydd yr Asiantaeth yn ymgynghori â phwyllgor cynghori annibynnol, sef y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr sy’n rhoi cyngor i’r Asiantaeth ar ystod eang o fwydydd a thechnolegau bwyd newydd.

Mae’r Asiantaeth yn gwybod bod awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi ymchwilio i’r defnydd o anifeiliaid wedi’u clonio yn y gadwyn fwyd. Ym mis Ionawr 2008, cyhoeddodd yr awdurdodau hynny fod cynhyrchion bwytadwy o wartheg, moch a geifr wedi’u clonio yr un mor ddiogel â chynhyrchion o’r anifeiliaid cyfatebol confensiynol. O ganlyniad, bu modd i rai cynhyrchwyr yn yr Unol Daleithiau ddechrau defnyddio anifeiliaid wedi’u clonio neu, fwy na thebyg, epil anifeiliaid wedi’u clonio. Gallai hyn arwain at ystyried defnyddio’r dechnoleg yn Ewrop.

Gofyn am farn y cyhoedd

Cyn bod posibilrwydd i’r Asiantaeth gael unrhyw gais i ystyried a yw bwyd a gynhyrchwyd o anifeiliaid wedi’u clonio’n ddiogel, cyflawnodd yr Asiantaeth ymchwil yn 2008 i’w helpu i ddeall barn dinasyddion y DU am y dechnoleg hon ac am gyflwyno anifeiliaid wedi’u clonio, eu hepil a’u cynhyrchion (fel llaeth ac wyau) i gadwyn fwyd y DU.

Y prif feysydd a oedd yn peri pryder i bobl oedd diogelwch bwyd, y manteision i’r cyhoedd, lles anifeiliaid ac ymddiriedaeth. Daeth adroddiad yr ymchwil i’r casgliad na fyddai’r cyhoedd ond yn derbyn y syniad o brynu a bwyta bwyd sy’n dod o anifeiliaid wedi’u clonio a’u hepil pe bai pob un o’r pryderon hyn yn cael sylw.

Bydd canfyddiadau’r ymchwil hon yn sicrhau bod modd mynegi barn dinasyddion y DU mewn unrhyw drafodaethau yn yr UE ynghylch defnyddio’r dechnoleg hon.

Cewch hyd i grynodeb o’r canfyddiadau drwy ddefnyddio’r ddolen sy’n agos at waelod y dudalen hon.

Nid yw’r Asiantaeth yn trin a thrafod pryderon am les anifeiliaid nac arferion amaethyddol. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy’n gyfrifol am y materion hyn.

Beth yw clonio?

Creu organeb (clôn) sy’n gopi genetig union o organeb arall (rhoddwr) yw clonio.

Mae clonau i’w cael ym myd natur, ac mae llawer o blanhigion, fel mefus, yn lluosogi drwy’r dull hwn. Mae rhai anifeiliaid hefyd yn creu clonau ohonynt eu hunain, fel ameba (organeb ficrosgopig un gell) a rhai pryfed, fel pryfed gwyrdd. Mae clonio’n digwydd ymhlith pobl weithiau hefyd – gellir ystyried gefeilliaid unfath fel clonau gan eu bod yn rhannu’r un deunydd genetig yn union (er nad yw’r naill yn gopi o’r llall a bod yn fanwl gywir).

Mae’r broses glonio’n cael ei defnyddio’n helaeth ym myd garddwriaeth, gan fod planhigion sy’n tyfu o doriadau neu impiadau’n gopïau genetig o’r planhigion gwreiddiol. Mae rhai o’r bwydydd rydyn ni’n eu bwyta, fel tatws, bananas a grawnwin, yn deillio o glonau.

Gellir cynhyrchu clonau o wartheg ac anifeiliaid fferm eraill gan ddefnyddio techneg a elwir yn drosglwyddo cnewyllyn cell somatig (SCNT). Defnyddiwyd y dechneg hon yn llwyddiannus am y tro cyntaf i gynhyrchu ‘Dolly’ yn Sefydliad Roslin yn 1996. Nid yw’r broses hon yn digwydd yn naturiol.

Statws ‘newydd’ bwyd sy’n dod o ddisgynyddion gwartheg a moch wedi’u clonio

Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2010, eglurodd Bwrdd yr ASB ei safbwynt y dylai’r Rheoliad Bwydydd Newydd (Rheoliad (EC) 258/97) barhau i fod yn berthnasol i unrhyw gamau i osod cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid wedi’u clonio ar y farchnad, ac y dylid cael caniatâd i wneud hynny. Fodd bynnag, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, cytunodd y Bwrdd nad oedd unrhyw seiliau diogelwch bwyd dros reoleiddio bwyd fel cig a llaeth sy’n dod o ddisgynyddion gwartheg a moch wedi’u clonio.

Yn sgil hynny, gofynnodd yr Asiantaeth am farn grwpiau â diddordeb ynghylch y newid posibl i’r modd y mae’r rheoliad yn cael ei ddehongli mewn perthynas â bwyd sy’n dod o ddisgynyddion gwartheg a moch wedi’u clonio.

Nid oedd mwyafrif yr ymatebion a ddaeth i law’r ASB yn trafod y cwestiwn penodol ynghylch cwmpas y rheoliad. Yn hytrach, roeddent yn codi amryw o bryderon ynghylch diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a moeseg. Er bod yr Asiantaeth wedi codi ac ystyried rhai cwestiynau penodol, gan gynnwys a ddylai’r Asiantaeth ystyried ffactorau ac eithrio diogelwch bwyd wrth asesu bwydydd newydd, ni thybiwyd bod yr un o’r ymatebion a ddaeth i law yn newid casgliad cyffredinol y Bwrdd.

Yng ngoleuni hyn, cyhoeddodd yr ASB ar 13 Mai 2011 ei bod wedi newid ei chyngor ynghylch cwmpas y rheoliad bwydydd newydd o ran disgynyddion gwartheg a moch wedi’u clonio. Wrth wneud hynny, dywedodd yr ASB y bydd yn ymchwilio i unrhyw gamau eraill y gellir eu cymryd yng ngoleuni pryderon parhaus y cyhoedd ynghylch materion moesegol sy’n gysylltiedig â bwyd sy’n dod o anifeiliaid wedi’u clonio neu’u disgynyddion.

Deiseb change.org: 'Dylid labelu bwyd sy’n dod o epil anifeiliaid wedi’u clonio’

Cewch hyd i ymateb yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’r ddeiseb a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010 ar wefan change.org drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Rhagor o wybodaeth

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am anifeiliaid wedi’u clonio a’u hepil yn mynd i’r gadwyn fwyd drwy ddefnyddio’r dolenni isod.

Rhagor yn yr adran hon