Campylobacter

Campylobacter
Campylobacter yw achos mwyaf cyffredin gwenwyn bwyd yn y DU. Isod ceir rhagor o wybodaeth am campylobacter a'r rhaglen rheoli risg.

Awn i'r afael â Campylobacter trwy gydweithio

Awn i'r afael â Campylobacter trwy gydweithioMae ACT yn ymgyrch sy'n dwyn y gadwyn fwyd gyfan ynghyd i leihau lefelau campylobacter mewn cyw iâr ac i leihau baich clefydau a gludir gan fwyd yn y DU. Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn campylobacter: food.gov.uk/actnow ‒ cliciwch ar 'Cymraeg'.

 

Gair am campylobacter

Credir bod campylobacter yn gyfrifol am fwy na 280,000 o achosion o wenwyn bwyd bob blwyddyn. Caiff mwy na 72,000 o achosion o wenwyn campylobacter (neu campylobacteriosis)eu cadarnhau mewn labordai a bydd cyfran uchel o'r rhain yn gysylltiedig â bwyd.

Mae’r Asiantaeth yn parhau i ddadansoddi’r effaith y mae campylobacter yn ei chael ar bobl, ond mae amcangyfrifon blaenorol wedi dangos bod campylobacter yn gyfrifol am 110 o farwolaethau bob blwyddyn, ac yn costio economi’r DU tua £900 miliwn. Dofednod wedi’u halogi sy'n gyfrifol am tua 4 o bob 5 achos o wenwyn campylobacter yn y DU. Mae campylobacter i’w gael hefyd mewn cig coch, llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin. Er nad yw fel rheol yn tyfu mewn bwyd, mae’n ymledu’n hawdd ac nid oes angen llawer ohono i achosi haint. Felly, gall ychydig iawn o facteria mewn darn o gyw iâr nad yw wedi’i goginio ddigon, neu facteria sydd wedi’u trosglwyddo o gyw iâr amrwd i fwydydd eraill sy’n barod i’w bwyta, achosi salwch.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o gampylobacter mewn cyw iâr a oedd yn cael ei werthu gan y sector manwerthu yn y DU rhwng mis Mai 2007 a mis Medi 2008, roedd campylobacter yn bresennol yn 65% o’r samplau o gyw iâr ffres a brofwyd. Yn ôl arolwg gwaelodlin, a gynhaliwyd gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2008 ac a gyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifid bod lefelau campylobacter yn y DU yn cyfateb i 75.3% mewn grwpiau o frwyliaid (cynnwys eu coluddion) ac yn cyfateb i 86.3% mewn carcasau brwyliaid (samplau o’u croen). Roedd y canlyniadau hyn yn uwch na lefelau cymedrig wedi’u pwysoli yr UE, sef 71.2% ar gyfer grwpiau o frwyliaid a 77% ar gyfer carcasau brwyliaid. Roedd ystod eang o lefelau campylobacter ar draws Aelod-wladwriaethau, a oedd yn amrywio o 4.9% i 100% mewn carcasau brwyliaid ac o 2% i 100% mewn grwpiau o frwyliaid.

Gellir gweld adroddiadau arolwg y DU ac arolwg yr UE drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod (Saesneg yn unig).

Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn dangos bod heriau’n ymwneud â champylobacter yn bresennol yn ein system diogelwch bwyd. Un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw lleihau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU. Caiff hynny ei adlewyrchu yn Strategaeth Wyddoniaeth a Thystiolaeth 2010-15 a Strategaeth 2015 yr Asiantaeth, sy’n datgan y bydd clefydau a gludir gan fwyd yn cael eu lleihau gan ddefnyddio dull gweithredu a dargedir, a bod mynd i’r afael â champylobacter mewn cyw iâr yn flaenoriaeth.

Y rhaglen rheoli risg

Mae rhaglen rheoli risg campylobacter wedi’i datblygu er mwyn gostwng lefelau campylobacter mewn cyw iâr. Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod o brosiectau sydd wedi’u hanelu at wahanol bwyntiau ar hyd y gadwyn fwyd, o’r fferm i’r fforc.

Mae’r Asiantaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant a Defra, yn rhan o Gydweithgor Campylobacter. Mae’r cydweithgor wrthi’n datblygu Cynllun Gweithredu ar y Cyd a fydd yn helpu i nodi a gweithredu ymyriadau a fydd yn lleihau campylobacter. Er mwyn cyfrannu i’r gwaith hwn, mae’r Asiantaeth hefyd yn ariannu ymchwil newydd mewn cydweithrediad â’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, Defra, Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban. Mae’r ymchwil yn rhan o strategaeth ar y cyd o’r enw Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU ar gyfer Campylobacter yn y gadwyn fwyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cydweithgor, y cynllun gweithredu ac ymchwil yr Asiantaeth ynghylch campylobacter drwy glicio ar y dolenni cyswllt sydd ar waelod y dudalen.

Er mwyn mesur cynnydd o ran effeithiolrwydd y rhaglen rheoli risg, mae targed wedi’i osod ar y cyd gan y llywodraeth a’r diwydiant, sef lleihau campylobacter mewn ieir a gynhyrchir yn y DU erbyn 2015.

Gweithdy strategaeth campylobacter 2013

Nod gweithdy cyd-weithgor y llywodraeth a'r diwydiant, a gafodd ei gynnal ar 12-14 Mawrth 2013, oedd:

  • adolygu'r cynnydd hyd yn hyn o ran y gwaith ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o strategaeth ymchwil ac arloesi'r DU (RISC) i fynd i'r afael â heriau parhaus sy'n gysylltiedig â datblygu ymyriadau effeithiol yn y gadwyn fwyd
  • gwerthuso p'un a yw strategaeth RISC y DU ar y trywydd iawn
  • nodi gwaith pellach a allai fod yn angenrheidiol

Roedd y gweithdy'n gyfle i randdeiliaid ryngweithio, cael gwybod am ddatblygiadau o ran ymchwil, a chyfrannu at ddyfodol strategaeth RISC y DU er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni ei nod.

Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdy ar gael isod.

Y targed ar gyfer campylobacter

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Defra, diwydiant dofednod y DU a’r prif fanwerthwyr wedi cytuno ar darged newydd a fydd yn mesur ymdrechion i leihau lefelau’r byg bwyd campylobacter mewn ieir.

Ceir tri chategori o lefelau halogi, ac ar hyn o bryd mae 27% o adar yn perthyn i’r categori uchaf.

Y targed newydd yw sicrhau bod y diwydiant yn lleihau niferoedd yr adar hyn sydd fwyaf halogedig yn siediau dofednod y DU, o 27% i 10% erbyn 2015.

Amcangyfrifir y gallai cyrraedd y targed hwn arwain at ostyngiad o hyd at 30% yn nifer yr achosion o wenwyn bwyd oherwydd campylobacter – tua 111,000 yn llai o achosion bob blwyddyn.

Rhagor yn yr adran hon