Dylai gweithredwyr busnesau bwyd arolygu anifeiliaid mewn lladd-dai er mwyn sicrhau eu bod yn lân ac na chaiff yr anifeiliaid sydd â lefel annerbyniol o risg halogi eu lladd i'w bwyta gan bobl, oni bai eu bod wedi'u glanhau ymlaen llaw. Mae staff gweithredol yr ASB yn gwirio gweithdrefnau'r gweithredwyr ar y cam cyn lladd. Er mwyn atal cig rhag cael ei halogi, a lleihau'r perygl i iechyd y cyhoedd, bydd yr ASB yn gwrthod yr hawl i ladd anifail nad yw'n bodloni'r safonau glendid gofynol.
Er mwyn cynorthwyo â chysondeb, datblygodd y Gwasanaeth Hylendid Cig, cyn Asiantaeth Weithredol yr ASB, Bolisi Da Byw Glân ar gyfer gwartheg a defaid y bwriedir eu lladd.
Mae'r meini prawf ar gyfer nodi glendid gwartheg a defaid wedi'u rhannu i bump gategori, sy'n amrywio o lân a sych hyd at brwnt a gwlyb. Dim ond da byw sydd yng nghategori 1 neu 2 (glân a sych/rhywfaint yn frwnt a sych/llaith) y gellir eu lladd er mwyn eu bwyta gan bobl heb gymryd unrhyw gamau pellach.