Cyfraith Bwyd Cyffredinol

P'un a ydych chi'n fusnes bwyd neu'n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol ar gael, sydd wedi'u rhestru isod.

Mae'r trosolwg hwn yn cynnwys prif ddeddfwriaeth y Comisiwn Ewropeaidd (CE) a deddfwriaeth ddomestig ar fewnforio ac allforio bwyd, diogelwch, y gallu i olrhain, labelu a galw a thynnu cynnyrch yn ôl.

Rydym wedi crynhoi geiriad y ddeddfwriaeth a gyfeirir ati, felly dylid defnyddio hwn fel crynodeb cyffredinol o gyfraith diogelwch bwyd, ac nid fel cyngor cyfreithiol.

Mae'n bwysig gwirio geiriad cywir y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r sefyllfa rydych yn ymdrin â hi.

Y prif gyfreithiau bwyd sy'n berthnasol i'r meysydd polisi hyn

Mae Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002 yn uniongyrchol berthnasol i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae'n darparu egwyddorion cyffredinol diogelwch bwyd, sy'n cynnwys y gofynion sydd ar fusnesau bwyd o ran gosod bwyd diogel ar y farchnad, y gallu i olrhain, sut y caiff bwyd ei gyflwyno, tynnu neu alw bwyd anniogel oddi ar y farchnad, a bod bwyd a bwyd anifeiliaid a gaiff ei fewnforio i, a'i allforio o, yr UE yn cydymffurfio â chyfraith bwyd.Gweler canllawiau Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002.

Mae'r Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (diwygio) yn darparu'r fframwaith i holl ddeddfwriaeth fwyd Prydain. Mae deddfwriaeth debyg yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Gweler y canllawiau ar Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ar gyfer busnesau bwyd.

Yng Nghymru a'r Alban, mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (diwygio) yn darparu ar gyfer gorfodi (gan gynnwys cosbi) darpariaethau penodol o Reoliad (CE) 178/2002, ac mae'n diwygio Deddf Diogelwch Bwyd 1990 er mwyn iddo gyd-fynd â Rheoliad (CE) 178/2002. Mae deddfwriaeth debyg yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Yn Lloegr, mae Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013 (diwygio) yn darparu ar gyfer gorfodi (gan gynnwys cosbi) darpariaethau penodol o Reoliad (CE) 178/2002.

Y prif droseddau diogelwch bwyd a diogelu'r cyhoedd a grëwyd gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

Adran 7: achosi i fwyd fod yn niweidiol i iechyd drwy:

  • ychwanegu nwydd neu sylwedd i'r bwyd
  • defnyddio nwydd neu sylwedd fel cynhwysyn wrth baratoi bwyd
  • tynnu unrhyw gyfansoddyn o'r bwyd
  • prosesu neu drin bwyd

gyda'r bwriad y bydd yn cael ei werthu i'w fwyta gan bobl.

Adran 14: gwerthu bwyd nad yw o'r natur, y sylwedd na'r ansawdd y disgwylir gan y prynwr.

Adran 15: disgrifio neu gyflwyno bwyd yn anghywir.

Dan adran 20, os yw trosedd wedi'i chyflawni o achos gweithrediad neu fethiant unigolyn arall, yr unigolyn hwnnw sy'n euog o'r drosedd.

Dan adran 21, mewn achos trosedd dan ddarpariaethau Rhan 2 y Ddeddf (sy'n cynnwys y troseddau a restrir uchod), bydd angen i weithredwr y busnes bwyd brofi ei fod wedi cymryd pob cam rhagofal rhesymol, ac wedi rhoi sylw dyladwy i osgoi cyflawni'r drosedd.

Prif ddarpariaethau Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002 sy'n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd

Mewnforion
Mae Erthygl 11 yn datgan bod yn rhaid i fwyd sydd wedi'i fewnforio i'r UE i'w osod ar y farchnad gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd a gydnabyddir gan yr UE, neu os oes cytundeb penodol rhwng yr UE a'r wlad sy'n allforio, rhaid cydymffurfio â'r gofynion hynny.

Allforion
Mae Erthygl 12 yn datgan bod yn rhaid i fwyd a gaiff ei allforio (neu eu hail-allforio) o'r UE gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd, oni bai bod awdurdodau'r wlad sy'n mewnforio wedi gofyn fel arall, neu ei fod yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a gweithdrefnau cyfreithiol a gweinyddol eraill y wlad sy'n mewnforio.

Mewn achos o allforio neu ail-allforio bwyd, cyn belled nad yw'r bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anniogel, mae'n rhaid bod awdurdodau cymwys y wlad y mae'n mynd iddi wedi cytuno yn ffurfiol y caiff y bwyd ei allforio neu ei ail-allforio, ar ôl iddynt gael gwybod yn llawn pam na ellir rhoi'r bwyd ar y farchnad yn y Gymuned.

Pan fo cytundeb dwyochrog rhwng yr UE neu un o'i Aelod-wladwriaethau a thrydedd gwlad, mae angen i fwyd a gaiff ei allforio o'r UE gydymffurfio â'i ddarpariaethau.

Diogelwch
Mae Erthygl 14 yn datgan na ddylid gosod bwyd ar y farchnad os yw'n anniogel. Caiff bwyd ei ystyried yn anniogel os ystyrir ei fod:

  • yn niweidiol i iechyd
  • nid yw'n addas i'w fwyta gan bobl

Mae'r erthygl hefyd yn nodi pa ffactorau sydd angen eu hystyried wrth bennu p'un a yw bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anaddas.

Cyflwyniad
Mae Erthygl 16 yn datgan na ddylai labelu, hysbysebu a chyflwyniad, gan gynnwys y lleoliad y caiff y bwyd ei arddangos, gamarwain defnyddwyr.

Y gallu i olrhain
Mae Erthygl 18 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gadw cofnod o fwyd, sylweddau bwyd ac anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a gânt eu cyflenwi i'w busnes, a busnesau eraill y mae gweithredwr y busnes bwyd yn cyflenwi cynhyrchion iddynt. Ym mhob achos, mae'n ofynnol i'r wybodaeth fod ar gael i awdurdodau cymwys yn ôl y gofyn.

Galw a thynnu cynnyrch yn ôl a hysbysu
Mae Erthygl 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd dynnu bwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd yn ôl os nad yw dan eu rheolaeth nhw bellach, a'i alw yn ôl os yw wedi cyrraedd y defnyddiwr.
Mae tynnu bwyd yn ôl yn golygu tynnu bwyd oddi ar y farchnad hyd at ac yn cynnwys pan gaiff ei werthu i'r defnyddiwr. Mae galw bwyd yn ôl yn golygu gofyn i ddefnyddwyr ddychwelyd neu gael gwared â chynnyrch.
Mae'n rhaid i fusnesau bwyd hysbysu'r awdurdodau cymwys hefyd (eu hawdurdod lleol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd). Mae'n rhaid i fanwerthwyr a dosbarthwyr helpu i dynnu bwyd anniogel yn ôl, a rhannu gwybodaeth os oes angen ei olrhain.
Pan fo gweithredwr busnes bwyd wedi rhoi bwyd ar y farchnad sy'n niweidiol i iechyd, mae'n rhaid iddynt hysbysu'r awdurdodau cymwys yn syth. Mae darpariaethau tebyg ar gyfer bwyd anifeiliaid.

Yn ôl i’r brig Troseddau a chosbau a nodir yn Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

Mae Rheoliad 4 yn golygu bod mynd yn groes i Erthyglau 12, 14(1), 16, 18(2) neu (30) ac 19 Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002 yn drosedd.

Mae Rheoliad 5 yn nodi'r cosbau os eir yn groes i'r erthyglau a nodir uchod:

  • os ceir yn euog yn Llys y Goron, ceir dirwy neu garchar am gyfnod nad yw'n hirach na dwy flynedd, neu'r ddau
  • os ceir yn euog mewn Llys Ynadon, ceir dirwy neu garchar am gyfnod nad yw'n hirach na chwe mis, neu'r ddau

Mae'r troseddau dan adrannau 20 a 21 y Ddeddf Diogelwch Bwyd hefyd yn berthnasol i'r rheoliadau hyn.

Deddfwriaeth hylendid bwyd

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn perthyn yn agos i'r ddeddfwriaeth ar ofynion cyffredinol ac egwyddorion cyfraith bwyd.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r rheolau hylendid bwyd ar gyfer pob busnes bwyd, gan gyflwyno rheolaethau effeithiol a chymesur drwy gydol y gadwyn fwyd, o gynhyrchu cynradd hyd at werthu neu gyflenwi'r i'r defnyddiwr.

Rhagor yn yr adran hon