Adroddiadau Busnes a Chorfforaethol

Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd hyd at 2015

Byddwn yn rhoi iechyd y defnyddiwr yn gyntaf. Er mwyn sicrhau newidiadau buddiol, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn dibynnu ar dystiolaeth i lywio ein gweithredoedd a byddwn yn agored ac yn onest wrth gyfathrebu. Rydym ni’n credu y bydd busnesau bwyd da yn ffynnu lle gall pobl ddewis eu bwyd gyda hyder. Caiff hyder ei feithrin a’i gynnal gan fesurau effeithiol, cyson a thryloyw i ddiogelu’r cyhoedd.