Beth yw acrylamid?
Mae acrylamid yn sylwedd cemegol sy'n cael ei ffurfio pan mae asidau amino a siwgr yn adweithio â'i gilydd. Mae'n digwydd fel arfer pan gaiff bwydydd sydd â lefelau uchel o starts megis tatws, gwreiddlysiau a bara, eu coginio ar dymheredd uchel (dros 120°C) wrth eu ffrio, eu tostio, eu rhostio neu'u pobi.
Ni chaiff acrylamid ei ychwanegu i fwydydd yn fwriadol. Caiff ei gynhyrchu yn naturiol yn sgil y broses goginio. Mae acrylamid wastad wedi bod yn bresennol yn ein bwyd.
Effeithiau posibl acrylamid ar iechyd
Mae profion yn y labordy yn dangos bod acrylamid yn y deiet yn achosi canser mewn anifeiliaid. Er nad oes tystiolaeth bendant yn dilyn astudiaethau ar effaith acrylamid ar ddeiet pobl, mae gwyddonwyr yn cytuno ei bod yn bosibl y gall acrylamid mewn bwyd achosi canser mewn pobl hefyd a byddai'n ddoeth lleihau faint y mae pobl yn dod i gysylltiad ag ef.
Bwydydd sydd â lefelau uchel o acrylamid
Mae acrylamid yn bresennol mewn ystod eang o fwydydd, gan gynnwys tatws a gwreiddlysiau rhost, sglodion, creision, tost, cacennau, bisgedi, grawnfwydydd a choffi.