Er mwyn i fwyd fod yn ddiogel a'i fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label, rydym ni'n gwybod ei bod yn bwysig eich bod chi'n gallu cael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hawdd, a dyna pam rydym ni wedi bod yn datblygu'r wefan newydd beta.food.gov.uk.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein timau wedi bod yn gweithio er mwyn:
- Ailgynllunio ein gwefan i fod yn fwy deniadol ac yn haws i'w defnyddio
- Ei gwneud hi'n haws i chi allu dod o hyd i wybodaeth bwysig mewn perthynas â chanllawiau i ddefnyddwyr a busnesau, a'i deall yn well
- Datblygu gwasanaeth newydd i chi gysylltu â ni, fel bod eich ymholiad neu'ch adroddiad yn cyrraedd y tîm neu'r adran gywir y tro cyntaf
- Datblygu gwasanaeth rhybuddion bwyd ac alergedd newydd, sy'n cael ei bweru gan ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau, neu 'APIs', er mwyn i chi gael gwybodaeth am fwyd sydd wedi'i alw a'i dynnu'n ôl cyn gynted â phosib
- Adeiladu'r wefan fel ei bod yn gweithio cystal ar eich ffôn, eich tabled neu'ch cyfrifiadur
- Yn ddiweddarach eleni, byddwn ni hefyd yn lansio'r gwasanaeth Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd newydd a fydd yn ei gwneud yn gyflymach i ddefnyddwyr ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd busnes, ac yn helpu busnesau i arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu gwefannau a'u apiau eu hunain.
Mae mwyafrif y tudalennau ar gael yn Gymraeg, a bydd rhagor yn cael eu hychwanegu wrth iddynt gael eu cyfieithu.