Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Llyfryn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ein pobl

Mae mwy na 1,500 o bobl yn gweithio i ni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Gyda’n gilydd, rydym hefyd yn chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb.

Mae ein staff yn cynnwys ystadegwyr, dadansoddwyr, ymchwilwyr, arolygwyr, arbenigwyr gorfodi, gweithwyr polisi proffesiynol, economegwyr, milfeddygon a mwy na 500 o staff rheng flaen, sy’n gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid cyflenwi gweithredol i arolygu lladd-dai a safleoedd cynhyrchu cynradd eraill.

Fel adran anweinidogol y llywodraeth, rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd yn hytrach na gweinidogion. Ein Bwrdd sy’n pennu cyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad. 

Mae ein Prif Weithredwr yn gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau’r ASB yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac effeithiol, ac mae’n atebol i’r Bwrdd am arfer ei bwerau.

Mae Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd Cymru a Gogledd Iwerddon yn darparu cyngor a mewnwelediad i’r Bwrdd ynghylch diogelwch a safonau bwyd yn eu gwledydd nhw.

Mae’r Bwrdd hefyd yn cael ei arwain gan Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol, sy’n dibynnu ar safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr, gan sicrhau bod ein canllawiau bob amser yn seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau a mwyaf diweddar.

Gweithio yn yr ASB

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio cwbl hyblyg, gan gynnwys o ran lleoliad, ar gyfer staff nad ydynt ar y rheng flaen. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan ein bod yn credu bod hyn yn galluogi ein pobl i weithio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae ffyrdd hyblyg o weithio (gan gynnwys y dewis i weithio’n gyfan gwbl o gartref) ac offer digidol sy’n hwyluso gweithio o bell yn sicrhau lefelau uchel o ymgysylltiad staff ac yn ein helpu i ddenu a chadw’r dalent orau o bob rhan o’r DU.

Dechreuodd ein rhaglen gweithio hyblyg yn 2017. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwnaethom ennill Gwobr ‘Arloesi mewn Gweithio Hyblyg’ yng Ngwobrau Cyflogwyr Gorau workingmums.co.uk. Dyma gydnabyddiaeth bod ein polisïau a’n harferion hyblyg yn wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd.

Yn 2022, cawsom ein hachredu fel adran Gweithio’n Gallach ‘aeddfed’ gan Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth. Mae hyn yn golygu ein bod wedi darparu tystiolaeth amlwg o sut mae ein pobl a’n diwylliant, ein harweinyddiaeth, ein technoleg a’n mannau gwaith yn cefnogi, yn hyrwyddo ac yn modelu ffyrdd callach o weithio.

Mae polisi Ein Ffyrdd o Weithio wedi bod ar waith ers cyn y pandemig ac mae’n arbed bron i £2 miliwn i’r trethdalwr ar gostau swyddfa bob blwyddyn.

Gweler ein tudalen 'Gweithio i ni' am y swyddi gwag presennol yn yr ASB.