Fiona Gately – Aelod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae gan Fiona Gately brofiad helaeth yn y diwydiant bwyd, gan weithio ar draws y sector i sefydliadau’r llywodraeth, busnesau a chyrff eiriolaeth.
Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol ar fwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac wedi gwasanaethu ar ei Phwyllgor Cynghori ar Safonau Organig rhwng 2003 a 2005. Rhwng 2004 a 2011, bu’n cyfarwyddo ymgyrchoedd Jamie Oliver ar ginio ysgol, sgiliau coginio a gordewdra yn y DU a’r UDA, gan arwain gwaith ymgysylltu â defnyddwyr, rhanddeiliaid a’r llywodraeth. Yn 2005, sefydlodd School Food Trust ar gyfer yr Adran Addysg i gyflwyno safonau a chanllawiau newydd ar gyfer prydau ysgol. Gwasanaethodd ar y Bwrdd rhwng 2009 a 2011.
Sefydlodd Fiona ystod o gynnyrch arobryn ar gyfer Duchy Originals, brand bwyd y Brenin Charles, gan sefydlu cadwyni cyflenwi a phartneriaethau gweithgynhyrchu a chodi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fwyd organig. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio fel pennaeth marchnata gyda chwmni llaeth organig cydweithredol y DU, Omsco. Mae hi’n gynghorydd i Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol a’i Hymddiriedolaeth ‘Adopt A School’, gan eu cefnogi i hyrwyddo addysg bwyd a sgiliau coginio trwy’r diwydiant lletygarwch.
Buddiannau Personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Wedi’i chyflogi fel ymgynghorydd trwy ei chwmni Nourish Communication Ltd
- Rôl ymgynghorol, Ateria Health Ltd ac Aelod o’u Bwrdd Ymgynghorol
- Cyfarwyddwr, Nourish Communication Ltd
Rolau Di-dâl
- Cynghorydd i Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol a’i Hymddiriedolaeth ‘Adopt a School’
- Cyfarwyddwr, 75/77 Kensington Gardens Square Ltd (di-dâl)
Gwaith â thâl
- Dim
Cyfranddaliadau
- Nourish Communication Ltd.
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Hong Kong
- Aelod o Glwb Nofio’r Serpentine
Buddiannau personol eraill
- Beirniad yng Ngwobrau Mentrau Gwledig 2023
Cymrodoriaethau
- Cymrawd yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
Cymorth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Gorffennaf 2024