Yr Athro Susan Jebb OBE, PhD, FRCP (Hon), FMedSci – Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Tanysgrifiwch gael negeseuon gan ein Cadeirydd a'r Prif Weithredwr
Mae’r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y wlad, yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy.
Mae gan Susan ddiddordeb hirsefydlog mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi, a hi oedd y Cynghorydd Gwyddoniaeth i adroddiad Foresight Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth ar ordewdra yn 2007. Mae hi’n gynghorydd i’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Yn y gorffennol mae wedi cadeirio grŵp cynghori arbenigol traws-lywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith bwyd bargen cyfrifoldeb yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori iechyd y cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018). Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd.
Mae Susan wedi’i chyflogi’n rhan-amser gan Brifysgol Rhydychen ochr yn ochr â’r rôl fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Buddiannau Personol
- Dim
Swyddi ymgynghorol a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Cyflog: Prifysgol Rhydychen
- Partner yn J&L Farms
Rolau heb dâl
- Aelod o'r Grŵp Cynghori ar Sgyrsiau Bwyd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad
Gwaith am ffi
- Dim
Cyfranddaliadau
- Dim
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod, Cymdeithas Astudiaethau Gordewdra
Buddiannau personol eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn bersonol
- Priod: Uwch Bartner J&L Farms
Cymrodoriaethau
- Cymrawd, Academi'r Gwyddorau Meddygol
- Cymrawd er Anrhydedd, Coleg Brenhinol y Meddygon
Cefnogaeth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Rhaglen Atal Diabetes Genedlaethol GIG Lloegr
- Aelod, Grŵp Cyfeirio Rhaglen Llwybr i Leddfu Diabetes Math 2 GIG Lloegr
- Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Gordewdra GIG Lloegr
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 2 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ebrill 2024