Hylendid personol
Canllawiau ar yr hyn y mae'n rhaid i chi a'ch staff ei wneud wrth drin bwyd.
Er mwyn cadw bwyd yn ddiogel, rhaid i bawb sy'n gweithio mewn ardal trin bwyd gynnal lefel uchel o hylendid personol.
Rhaid iddynt wisgo dillad:
- addas
- glân
- amddiffynol
Wrth baratoi neu drin bwyd, dylent:
- gadw eu gwallt yn ôl a gwisgo gorchudd pen addas, e.e. het neu rwyd gwallt
- peidio â gwisgo oriawr neu gemwaith (ac eithrio modrwy briodas)
- peidio â chyffwrdd â'u hwyneb a'u gwallt, ysmygu, poeri, tisian, bwyta na chnoi gwm
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hylendid personol yn ein pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer arlwywyr.
Golchi dwylo
Mae golchi dwylo yn effeithiol yn hynod bwysig er mwyn helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu o ddwylo pobl. Mae'n rhaid i'r holl staff sy'n gweithio gyda bwyd olchi eu dwylo:
- pan maent yn y gegin neu'r ardal baratoi
- cyn paratoi bwyd
- ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd
- ar ôl trin gwastraff bwyd neu wagio bin
- ar ôl glanhau
- ar ôl chwythu eu trwyn
- ar ôl cyffwrdd â ffonau, switshis golau, dolenni drws a thiliau
Dylai staff sychu eu dwylo ar dywel tafladwy. Mae bacteria niweidiol yn gallu lledaenu ar ddwylo gwlyb neu laith. Defnyddiwch dywel tafladwy i gau'r tap.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am olchi dwylo yn ein pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer arlwywyr.
Fideo hyfforddi diogelwch bwyd – Golchi dwylo
Sut i olchi eich dwylo i atal bacteria rhag lledaenu.
Addas i weithio
Ni ddylech ganiatáu i unrhyw un drin bwyd na chael mynediad at ardal trin bwyd os ydynt:
- yn cario neu'n dioddef o glefyd sy'n debygol o gael ei drosglwyddo trwy fwyd
- os oes ganddynt glwyfau heintiedig, heintiau croen neu friwiau
- os oes ganddynt ddolur rhydd
Os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i aelod o staff, rhaid iddynt ddweud wrth eu rheolwr ar unwaith.
Ni ddylai staff sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu ddychwelyd i'r gwaith hyd nes eu bod yn rhydd o unrhyw symptomau am 48 awr.
Mae'r canllawiau isod yn berthnasol i holl weithredwyr busnes bwyd y Deyrnas Unedig ac eithrio cynhyrchwyr cynradd, fel ffermwyr a thyfwyr.
Fideos hyfforddi diogelwch bwyd – Salwch staff
Beth i'w wneud os yw aelod o staff yn sâl yn y gwaith a pha mor hir y dylent aros gartref.
Cofiwch: Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol.
Hanes diwygio
Published: 19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2018