Skip to main content
English Cymraeg
Research project

Astudiaeth ddesg i adolygu tystiolaeth ac amlinellu ffrydiau gwaith i gefnogi datblygiad polisi ar gig defaid â'r croen ynghlwm

Mae’r astudiaeth ddesg hon wedi nodi’r opsiynau ar gyfer cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm mewn modd diogel a hylan, gan amlinellu nifer o argymhellion ar feysydd sydd angen ymchwilio iddynt ymhellach.

Cefndir

​Caiff cig defaid â’r croen ynghlwm ei gynhyrchu o ddefaid sydd â'u gwlân wedi'i losgi oddi arnynt fel rhan o'r broses drin. Mae galw yn y Deyrnas Unedig am gig defaid â'r croen ynghlwm, yn draddodiadol gan ddefnyddwyr sydd â'u gwreiddiau yng Ngorllewin Affrica lle y mae eu diwylliant brodorol yn gwerthfawrogi sgerbydau amyrw o rywogaethau mamalaidd sydd wedi'u deifio a'u mygu. Serch hynny, mae deddfwriaeth gyfredol yr UE yn gwahardd cynhyrchu sgerbydau anifeiliaid gyda'r croen ynghlwm, ac mae blingo yn ystod y broses drin yn ofyniad statudol (Rheoliad y CE 853/2004). Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi comisiynu nifer o astudiaethau gwyddonol i archwilio'r potensial o gynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm mewn modd diogel. Wrth fynegi barn yn ddiweddar ar ddilysrwydd gwyddonol yr astudiaethau hyn, daeth Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) i'r casgliad bod angen casglu mwy o dystiolaeth er mwyn datblygu proses ar gyfer cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm sy'n addas i'w fwyta gan bobl. 

Dull ymchwilio

Nod yr astudiaeth hon yw adolygu'r dystiolaeth gyfredol ac amlinellu ffrydiau gwaith er mwyn cefnogi datblygiad polisi ar gyfer cig defaid â’r croen ynghlwm.  Roedd y dull yn cynnwys:

  • Adolygiad systematig ar ddiogelwch cig defaid â'r croen ynghlwm, o gymharu â chig sydd wedi'i gynhyrchu'n gonfensiynol heb y croen;
  • Adolygiad beirniadol o gynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm. Roedd y rhan hon yn cynnwys nodi peryglon perthnasol i iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r dull cynhyrchu hwn, a'r effeithiau posibl y gall y broses hon ei chael ar y peryglon hyn. Hefyd, nodwyd ac ystyriwyd agweddau perthnasol eraill ar gyfer sicrhau proses ddiogel a hylan ar gyfer cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm, megis rheolaethau swyddogol a goblygiadau lles anifeiliaid. At hynny, mae canlyniadau'r adroddiad hwn wedi amlygu meysydd ymchwil sydd angen mynd i'r afael â nhw cyn gwneud achos i gyfreithloni cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm yn y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
  • Arolwg o agweddau gweithredwyr lladd-dai tuag at gyfreithloni cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm, ond hefyd drwy wybodaeth a gasglwyd gan ddefnyddwyr y cynnyrch hwn o Nigeria
  • Diweddariad o adroddiad Hybu Cig Cymru, "Appraisal of the Opportunities in the Skin on Sheep Meat Market for Wales", sydd wedi'i seilio ar ganfyddiadau'r adroddiad beirniadol.

Canlyniadau

Ar sail y gwaith a gyflawnwyd yn ystod yr astudiaeth hon, mae'r opsiynau ar gyfer cynhyrchu cig defaid â’r croen ynghlwm mewn modd diogel a hylan wedi'u nodi, ac mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar beryglon biolegol, peryglon cemegol a rheolaethau swyddogol sydd angen mwy o ymchwil. 

Research report

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales