Ein gwaith a’n proses dadansoddi risg
Cyflwyniad i'n gwaith a'n proses dadansoddi risg
Ein gwaith
Rheoleiddio bwyd yn effeithiol ac yn arloesol
Rydym ni’n sicrhau effeithiolrwydd y system rheoleiddio bwyd. Rydym ni bob amser yn mireinio ein dull rheoleiddio i'w gwneud hi'n haws i fusnesau wneud y peth iawn mewn ecosystem fwyd fyd-eang gymhleth, sy'n symud yn gyflym.
Diogelu’r cyhoedd rhag clefyd a gludir gan fwyd
Rydym ni’n gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, defnyddwyr, a'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch i leihau'r risg o glefyd a gludir gan fwyd (gwenwyn bwyd), sydd â baich cymdeithasol o oddeutu £9.1 biliwn y flwyddyn.
Rheolaethau ar ladd-dai a chynhyrchu cynradd
Rydym ni’n cynnal gwiriadau mewn lladd-dai, ac rydym ni’n archwilio ac yn arolygu ffatrïoedd torri cig, sefydliadau trin helgig (game), cynhyrchwyr gwin a sefydliadau cynhyrchu llaeth ar y fferm. Rydym ni hefyd yn monitro ac yn adrodd ar ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn sydd wedi’u dosbarthu am halogiad a biotocsinau morol.
A young meat hygiene inspector looking at meat hanging up with supervisor present
Dadansoddi risg
Rydym ni’n defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i ddarparu cyngor i weinidogion yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon ar ddiogelwch bwyd a buddiannau defnyddwyr. Rydym ni’n cynghori gweinidogion ar awdurdodi cynhyrchion newydd sy'n dod i'r farchnad.
Gorsensitifrwydd i fwyd
Rydym ni’n gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd a'u cefnogi i wneud dewisiadau diogel a gwybodus i reoli risg yn effeithiol.
Troseddau bwyd
Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn uned benodol ar gyfer gorfodi'r gyfraith sy'n arwain ar droseddau bwyd.
Trin ac ymateb i ddigwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid
Rydym ni’n ymateb i ddigwyddiadau bwyd, gan weithredu i ddiogelu defnyddwyr pan fydd pryder am ddiogelwch neu ansawdd bwyd (a/neu fwyd anifeiliaid).
Cydymffurfiaeth busnesau bwyd
Yn 2019/20, cafodd 97.9% o weithredwyr busnesau bwyd cig eu sgorio yn 'foddhaol' neu uwch am gydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, hylendid a lles anifeiliaid.
Digwyddiadau
Yn 2019/20, ymchwiliodd yr ASB i 2,479 o ddigwyddiadau bwyd, bwyd anifeiliaid a halogiad amgylcheddol, gan ddiogelu defnyddwyr trwy dynnu cynhyrchion o'r farchnad neu roi gwybod iddynt am y risgiau.
Ein proses dadansoddi risg
Mae ein proses dadansoddi risg yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i ddarparu cyngor i'r llywodraeth, busnesau a defnyddwyr ar risgiau diogelwch bwyd.
Dyma'r broses o amcangyfrif risgiau i iechyd pobl, dod o hyd i ffyrdd o reoli'r risgiau hyn, a chyfleu risgiau a rheolaethau i'r bobl sydd angen gwybod.
Yn ogystal â diogelwch bwyd, gall hefyd ystyried ffactorau eraill fel lles anifeiliaid, yr amgylchedd ac effaith economaidd.
Mae materion yn cynnwys:
- Rheoli pathogenau (fel COVID-19, Listeria)
- Rheoli alergenau
- Awdurdodi sylweddau golchi cemegol
- Prosesau GM
- a llawer mwy
Rydym ni’n defnyddio'r un broses dadansoddi risg i gynghori gweinidogion y llywodraeth ar awdurdodi cynhyrchion newydd sy'n dod i'r farchnad, fel ychwanegion a chyflasynnau (flavourings), o'r DU neu ymhellach i ffwrdd.
Mae'r cyngor sy’n deillio o waith dadansoddi risg yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, nid ar bwysau gwleidyddol na chyhoeddus ehangach.
Mae ein proses dadansoddi risg yn arwain yn fyd-eang o ran rheoleiddio diogelwch bwyd ac yn rhoi tryloywder, dealltwriaeth y cyhoedd ac ymddiriedaeth wrth ei wraidd.
Two vets pointing into a holding pen on a farm
ASB yn Esbonio
Yn ystod argyfwng y coronafeirws, fe wnaethom gynnal asesiadau risg manwl ar COVID-19 yn trosglwyddo trwy fwyd a darparu cyngor i helpu busnesau a defnyddwyr i wneud y peth iawn.
Pan gafodd cig mewn brechdanau wedi'u pecynnu ymlaen llaw ei gysylltu â heintiau listeria mewn cleifion ysbyty yn 2019, fe wnaethom ddefnyddio gwaith dadansoddi risg i wneud argymhellion rheoli risg i banel Adolygu Bwyd Ysbyty'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i leihau'r risg y bydd grwpiau agored i niwed yn dal listeriosis yn y dyfodol.
Yn 2015, fe gynhaliom ni ddadansoddiad risg ar wyau meddal a diweddaru ein cyngor i nodi y gallai grwpiau bregus nawr fwyta wyau iâr y DU yn amrwd neu wedi'u coginio'n ysgafn os ydynt â marc Llew Prydain arnynt.