Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Dechrau busnes bwyd

Paratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd

Mae’r dudalen hon yn cynnwys canllawiau ar sut y gallwch baratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd. Darllenwch yr holl dudalennau yn y canllaw hwn i sicrhau bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg eich busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 March 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 March 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cynllunio cyn i chi ddechrau eich busnes bwyd

Cyn dechrau busnes bwyd, rhaid i chi gymryd amser i gynllunio a pharatoi. Bydd gwneud hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi redeg eich busnes bwyd yn ddiogel.

Mae mwy o ganllawiau ar gael yn ein rhestr wirio ‘pethau i’w hystyried cyn dechrau busnes bwyd’ ar y dudalen hon.

Pwy sydd angen cofrestru

Bydd angen i chi gofrestru eich busnes bwyd os ydych yn:

  • gwerthu bwyd
  • coginio bwyd
  • storio neu drin bwyd
  • paratoi bwyd
  • dosbarthu bwyd 

Bydd angen i bob math o fusnes sy’n gwerthu bwyd a diod gofrestru, ni waeth o ble rydych yn gweithredu.  
Dylai cwmnïau sy’n ymwneud â dosbarthu, broceru neu gyflenwi bwyd ac sy’n gweithredu o swyddfeydd hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os na chaiff bwyd ei gadw ar y safle.

Os ydych yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, mae angen i chi gofrestru pob safle gyda’r awdurdodau lleol y maent wedi’u lleoli ynddynt. Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi gofrestru neu os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

    Canllawiau ar sut i gofrestru eich busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol

    Pan fyddwch yn dechrau busnes bwyd newydd, neu’n cymryd yr awenau mewn busnes sy’n bodoli eisoes, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.

    Mae cofrestru eich busnes bwyd yn rhad ac am ddim, ac ni ellir ei wrthod.  Os ydych eisoes yn masnachu ond heb gofrestru eto, bydd angen i chi gofrestru cyn gynted â phosib, gan fod hwn yn ofyniad cyfreithiol.

    Os ydych yn cyflenwi bwyd yn rheolaidd i’r cyhoedd am ddim ac am dâl, mae angen i chi gofrestru fel busnes bwyd. 

    Cofrestrwch eich busnes bwyd ar borth cofrestru busnesau bwyd GOV.UK.  

    Mae rhaid i unrhyw un sy’n gwerthu, coginio, storio, trin, paratoi neu ddosbarthu bwyd i’r cyhoedd gofrestru fel busnes bwyd. Fodd bynnag, mae canllawiau eraill y mae angen i chi eu dilyn hefyd i wneud yn siŵr eich bod yn rhedeg eich busnes bwyd yn gywir. 

    Pryd i gofrestru

    Mae’n ofynnol i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn masnachu. Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru’n rhy gynnar ond, yn hytrach, eich bod yn aros tan 28 diwrnod cyn i chi ddechrau gweithredu. Defnyddiwch ein rhestr wirio i sicrhau eich bod wedi ystyried popeth  cyn cofrestru.

    Gwerthu bwyd o safleoedd sy’n ymdrin â chwsmeriaid

    Os ydych yn masnachu o safle ffisegol sy’n ymdrin â chwsmeriaid, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn darllen ein canllawiau ar sefydlu safle eich busnes bwyd. Efallai y byddwch hefyd am ddarllen ein canllawiau ar werthu bwyd i’w ddosbarthu

    Gwerthu bwyd o’ch cartref

    Os ydych yn masnachu o’ch cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel a dechrau busnes bwyd o’ch cartref.

    Gwerthu bwyd o safle symudol neu dros dro

    Os ydych yn masnachu o uned symudol neu safle dros dro, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn darllen ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel a sefydlu safle eich busnes bwyd

    Gwerthu bwyd ar-lein

    Os ydych yn gwerthu bwyd ar-lein (er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefan) neu’n gwerthu bwyd o bell (mae gwerthu o bell yn golygu unrhyw werthu sy’n digwydd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr) darllenwch ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd yn ddiogel, sefydlu safle eich busnes bwyd, a gwerthu bwyd i’w ddosbarthu.

    Cofrestru fel gwarchodwr plant

    Os ydych yn darparu bwyd fel rhan o’ch busnes gwarchod plant yn Lloegr, bydd y manylion rydych yn eu rhoi i Ofsted neu eich asiantaeth gwarchod plant hefyd yn cael eu defnyddio i’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Ni fydd rhaid i chi gofrestru ar wahân.

    Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd os ydych yn darparu bwyd a diod i blant neu fabanod gan gynnwys:

    • prydiau
    • byrbrydau
    • diodydd (ar wahân i ddŵr tap o’r prif gyflenwad)
    • bwyd wedi’i ailgynhesu a ddarperir gan riant/gofalwr
    • bwyd yr ydych yn ei dorri a’i baratoi

    Mae gofynion cofrestru gwarchodwyr plant yn wahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon os ydych yn darparu bwyd gyda’ch busnes gwarchod plant. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am reoli diogelwch bwyd ar gyfer gwarchodwyr neu ofalwyr plant cofrestredig yn ein Pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell
     

    ASB yn Esbonio

    Rhestr wirio: pethau i’w hystyried cyn dechrau busnes bwyd

    Cynllunio

    Mae cynllun busnes yn bwysig os ydych am redeg busnes bwyd llwyddiannus. Mae canllawiau pellach ar sut i ysgrifennu cynllun busnes, gan gynnwys enghreifftiau o gynlluniau busnes ar gael ar-lein.

    Cofrestru  

    Unwaith y byddwch yn barod i ddechrau eich busnes bwyd, rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu.

    Caniatâd 

    Os ydych yn rhedeg eich busnes o’ch cartref, mae angen bodloni rhai gofynion. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau busnes bwyd o’ch cartref.
    ​​​​

    Cofrestru fel unigolyn hunangyflogedig  

    Os ydych yn dechrau busnes bwyd, mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF eich bod yn berson hunangyflogedig. I gael mwy o gyngor ar yr effeithiau ariannol yn sgil dod yn berchennog busnes bwyd, darllenwch ein cymorth a chefnogaeth ychwanegol

    Sefydlu gweithdrefnau diogelwch bwyd

    Rhaid i fusnesau bwyd fod â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith. Darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.​​​​​​

    Ystyried hyfforddiant diogelwch bwyd 

    Mae’n bwysig dangos y safonau uchaf o ran paratoi, trin, storio a gweini bwyd. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.

    Arfer hylendid bwyd da

    Mae hylendid bwyd da yn hanfodol i sicrhau bod y bwyd rydych yn ei weini’n ddiogel i’w fwyta.  I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.


    ​​​​​​Paratoi eich safle i redeg busnes bwyd

    Rhaid cadw safle eich busnes bwyd, eich cartref o bosib, yn lân a’i gynnal mewn cyflwr da. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar sefydlu safle eich busnes bwyd.

    Gwerthu bwyd ar-lein a’i ddosbarthu’n ddiogel 

    Mae’n rhaid i chi sicrhau bod bwyd yn cael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy’n sicrhau na fydd yn anniogel neu’n anaddas i’w fwyta. Mae mwy o wybodaeth am ddosbarthu’n ddiogel ar y dudalen ‘gwerthu bwyd i’w ddosbarthu’.

    Darparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu

    Mae’n ofynnol i fusnesau bwyd o bob maint ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu fel y’u nodir mewn cyfraith bwyd. Mae mwy o wybodaeth am reoli alergenau yn ein canllawiau ar ddechrau eich busnes bwyd yn ddiogel.

    A oedd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol? Rhannwch eich adborth.