Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyd y gallwn ymddiried ynddo

Ein cenhadaeth sylfaenol yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Mae hyn yn golygu y gall pobl ymddiried bod y bwyd y maent yn ei brynu a'i fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label, a bod bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.

Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022-27

Mae strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn nodi ein gweledigaeth, sut rydym ni’n addasu a sut y byddwn yn darparu system fwyd lle mae bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.

Cofrestru busnes bwyd

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd, neu’n cymryd yr awenau mewn busnes sy’n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau masnachu. Mae gennym ni ragor wybodaeth ar sut i gofrestru busnes bwyd, gan gynnwys pwy sydd angen cofrestru, cymryd yr awenau mewn busnes sy’n bodoli eisoes, a sut i ddiweddaru manylion eich busnes.

Bwyta allan? Bwyta gartref?

Bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, a mannau eraill lle byddwch yn bwyta allan, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Pecyn cymorth PPDS a chanllawiau sector-benodol yn helpu busnesau bwyd i nodi a ydynt yn darparu bwyd PPDS a pha newidiadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud.

Hyfforddiant alergedd ac anoddefiad bwyd

Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi ar reoli alergenau yn effeithiol. Rydym ni’n cynnig cyrsiau diogelwch bwyd ar-lein am ddim i'ch helpu chi a'ch busnes i gydymffurfio â gofynion hylendid a safonau bwyd.