Mae troseddau bwyd yn anonestrwydd difrifol a bwriadol sy'n gwneud bwyd yn anniogel neu'n golygu nad yw bwyd yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.
Nid yw materion sy'n ymwneud â gwerthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, fel archebion coll neu anghyflawn, yn cael eu hystyried yn droseddau bwyd. Dylid trafod y digwyddiadau hyn yn uniongyrchol gyda'r busnes bwyd.
Dyma'r prif fathau o droseddau bwyd:
- dwyn – dwyn bwyd, diod neu gynhyrchion bwyd anifeiliaid i wneud elw o'u defnyddio neu eu gwerthu
- prosesu anghyfreithlon – defnyddio safleoedd neu dechnegau heb eu cymeradwyo i ladd anifeiliaid neu baratoi cig
- dargyfeirio gwastraff – rhoi bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid y dylid ei daflu yn ôl i mewn i'r gadwyn gyflenwi i'w ailddefnyddio
- difwyno – dirywio ansawdd bwyd trwy ychwanegu sylwedd na ddylai fod yn bresennol, i arbed arian neu ffugio cynnyrch o ansawdd uwch
- amnewid – disodli bwyd neu gynhwysyn â sylwedd arall sy'n debyg ond o ansawdd is
- camgynrychioli – marchnata neu labelu cynnyrch yn anonest o ran ei safon, ei ddiogelwch, ei darddiad neu ba mor ffres yw'r cynnyrch hwnnw
- twyll dogfennau – defnyddio, creu neu feddu ar ddogfennau ffug fel rhan o gynllun i werthu neu hyrwyddo cynnyrch bwyd ffug neu o safon is