Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Troseddau Bwyd

Deall troseddau bwyd a sut i roi gwybod amdanynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dylai fod gan ddefnyddwyr hyder bod eu bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. 

Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy'n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid. Gall fod yn niweidiol iawn i ddefnyddwyr, busnesau bwyd a'r diwydiant bwyd ehangach.

Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithio i atal, canfod ac ymchwilio i droseddau bwyd ledled y Deyrnas Unedig (DU). 

Mathau o droseddau bwyd 

Mae'r Uned yn canolbwyntio ar saith math o droseddau bwyd:

  1. dwyn – cael gafael ar gynhyrchion bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid mewn ffordd anonest er mwyn gwneud elw drwy eu defnyddio neu eu gwerthu 
  2. prosesu anghyfreithlon – lladd neu baratoi cig a chynhyrchion cysylltiedig mewn safleoedd heb eu cymeradwyo neu drwy ddefnyddio technegau heb eu hawdurdodi
  3. dargyfeirio gwastraff – rhoi bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid sy’n wastraff yn ôl i mewn i’r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon
  4. difwyno – gan gynnwys sylwedd estron nad yw ar label y cynnyrch i ostwng costau neu ffugio ansawdd uwch
  5. amnewid – amnewid bwyd neu gynhwysyn gyda sylwedd arall sy’n debyg ond yn israddol 
  6. cam-gynrychioli – marchnata neu labelu cynnyrch yn anonest o ran ei safon, ei ddiogelwch, ei darddiad neu ba mor ffres ydyw
  7. twyllo dogfennol – gwneud, defnyddio neu feddu ar ddogfennau ffug gyda'r bwriad o werthu neu farchnata cynnyrch twyllodrus neu is-safonol

Atal troseddau bwyd 

Gall troseddau bwyd ddigwydd mewn sawl ffordd. Gall amrywio o weithredoedd anonest untro gan droseddwyr unigol i weithgarwch anghyfreithlon wedi'i drefnu a gydlynir gan rwydweithiau troseddol.
 
Gellir lleihau troseddau bwyd trwy atal ffordd i droseddwyr gyflawni troseddau, neu drwy leihau'r tebygolrwydd y bydd unigolion a grwpiau'n dod yn droseddwyr yn y lle cyntaf.

Mae'r Uned yn gweithio gyda'r diwydiant bwyd i sicrhau bod busnesau'n ymwybodol o risgiau troseddau bwyd ac yn gallu rhoi mesurau ar waith i ddiogelu eu hunain rhag troseddau bwyd. 

Mae sicrhau nad oes croeso o fewn y sectorau cynhyrchu, gweithgynhyrchu a manwerthu bwyd i’r unigolion neu grwpiau sy'n bwriadu troseddu yn allweddol i atal troseddau bwyd.

Adnodd Hunanasesu Gwytnwch Twyll Bwyd

Mae'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) wedi datblygu’r adnodd hunanasesu gwytnwch yn erbyn twyll bwyd hwn i gefnogi busnesau i ddatblygu a gweithredu eu strategaeth atal twyll. Mae’r adnodd hunanasesu yn cynnwys gwahanol feysydd y bydd angen i fusnesau fod yn ymwybodol ohonynt fel y gallant nodi a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau mewn prosesau yn well.

Gellir llenwi’r adnodd yn ddienw ac ni ddylai gymryd mwy na 15 munud. Os oes gennych gwestiynau pellach ar gyfer Tîm Atal yr Uned, neu os hoffech chi gael cefnogaeth i wella gwytnwch eich busnes rhag twyll, nodwch eich cyfeiriad e-bost ar y diwedd neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy NFCU.Prevention@food.gov.uk.

Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd 2020

Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU) Safonau Bwyd yr Alban wedi cynhyrchu asesiad o fygythiadau troseddau bwyd i'r DU.

Mae'r Asesiad Strategol Troseddau Bwyd yn archwilio rhannau o'r gadwyn gyflenwi bwyd a allai fod yn agored i droseddau bwyd, yn ogystal â nodi bygythiadau sy'n dod i'r amlwg y mae angen mynd i'r afael â hwy.

Rhoi gwybod am droseddau bwyd

Gall aelodau'r cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sector bwyd a diod roi gwybod am droseddau bwyd trwy ein llwyfan rhoi gwybod am Droseddau Bwyd yn Gyfrinachol.

Mae achosion o hylendid bwyd gwael yn peri pryder i'r ASB, ond nid ydynt yn cael eu diffinio fel troseddau bwyd. Dylid rhoi gwybod i'r awdurdod lleol am bryderon hylendid, nid i'r Uned, os nad oes bwriad uniongyrchol i dwyllo. 

Gall unrhyw un sy’n amau trosedd bwyd roi gwybod amdani’n ddiogel ac yn gyfrinachol i'r Uned.  Gallwch chi roi gwybod am drosedd bwyd ar-lein neu drwy radffôn ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol y tu allan i'r DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.