Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Polisi preifatrwydd

Sut rydym ni'n trin eich data personol, eich hawliau a'n hysbysiadau preifatrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Awst 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Awst 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd Data’ yr wybodaeth bersonol yr ydym ni’n ei chasglu gennych chi neu a gaiff ei darparu i ni.

Bydd y Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym ni’n casglu ac yn defnyddio data mewn perthynas â'n gwefan. Bydd hefyd yn rhestru Hysbysiadau Preifatrwydd penodol a ddarparwn i chi lle byddwn ni’n casglu eich data personol at wahanol wasanaethau a dibenion penodol er mwyn cyflawni ein dyletswyddau. 

Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i ddeall ymhellach sut a pham mae'r ASB yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth, pa fathau o wybodaeth rydym ni'n ei chasglu, sut a ble rydym ni'n storio'ch data a beth yw eich hawliau.

Rydym ni’n parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb a dim ond mewn ffyrdd sy'n gyson â'ch hawliau a'n rhwymedigaethau o dan y gyfraith y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r Deyrnas Unedig (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Pam mae angen eich gwybodaeth bersonol arnom  

Rydym ni’n prosesu eich data personol mewn sawl ffordd i ddarparu ein Gwasanaethau Cyhoeddus, a nodir mewn cyfraith. Oni bai ein bod yn dweud wrthych fel arall, ein sail gyfreithiol dros gasglu'r wybodaeth hon o dan UK GDPR yw ein Tasg Gyhoeddus sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gasglu gwybodaeth i:

  • reoleiddio bwyd trwy ymgysylltu â sefydliadau yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy awdurdodau lleol ac Awdurdodau Cymwys Eraill, Asiantaethau'r Llywodraeth a Chyrff y Diwydiant, yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yn rhyngwladol, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a osodwn
  • dadansoddi a gwerthuso risgiau o amgylch bwyd yn gyffredinol
  • cael cyngor a gwybodaeth i lunio polisi ac ymgynghori ar y polisi hwnnw fel ei fod yn cael ei weithredu'n deg
  • llywio ein polisïau a'n safonau trwy ddeall materion sy'n wynebu'r cyhoedd a gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd, gan gynnwys materion yn ymwneud â ffactorau iechyd, cymdeithasol neu economaidd
  • codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch bwyd, er enghraifft trwy ddarparu rhybuddion am faterion fel galw cynnyrch yn ôl ac alergeddau
  • helpu i hyrwyddo arfer gorau trwy gyfeirio gwybodaeth a darparu adnoddau hyfforddi i bartïon â diddordeb ac unigolion perthnasol
  • ymchwilio a chymryd camau gorfodi yn ôl yr angen lle byddwn ni’n dod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn cael eu cyflawni er budd gorau defnyddwyr ac sy'n mynd yn groes i'n polisïau, ein safonau neu'r gyfraith

Pan fyddwn ni’n casglu gwybodaeth gennych chi, rydym ni’n:

  • gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod pam mae ei hangen arnom a pham ein bod ni'n cael ei chadw lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
  • gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom yn unig, a pheidio â chasglu gormod o wybodaeth neu wybodaeth amherthnasol
  • ei diogelu a sicrhau nad oes gan neb fynediad iddi na chaniateir iddynt gael mynediad o dan y gyfraith
  • sicrhau nad ydym ni’n ei chadw’n hirach na sydd ei angen

Pa wybodaeth ydym ni'n ei chasglu trwy ein gwefan?

Hyfforddiant

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif hyfforddi gyda ni, byddwn yn casglu data personol gennych fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich rôl, enw eich cyflogwr a’ch cyfrinair.

Rydym yn casglu’r wybodaeth hon at ddibenion addysgu ystod o randdeiliaid. Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i’ch galluogi i gael mynediad at ein hyfforddiant a’n tystysgrifau, i weinyddu eich cyfrif, ac i gysylltu â chi i roi cymorth technegol os byddwch yn gofyn amdano. Efallai y byddwn yn contractio darparwyr hyfforddiant i wneud hyn ar ein rhan. Cyfeiriwch at yr adran ‘Sut a ble rydym yn storio eich data a gyda phwy y gallwn ei rannu’ isod am ragor o wybodaeth. 

Pan wnaethoch gofrestru i greu cyfrif, efallai ein bod wedi tynnu eich sylw at un o’n Hysbysiadau Preifatrwydd penodol sy’n ymwneud â’r hyfforddiant y gwnaethoch chi ofyn amdano a fydd ar gael ar y wefan hyfforddiant neu drwy ddolen ar ddiwedd y Polisi hwn.

Darparwyr diogelwch bwyd a hyfforddiant bwyd ar-lein

  • Mae hyfforddiant ar alergenau ac anoddefiadau yn cael ei ddarparu a’i gefnogi gan Indegu Ltd.
  • Mae hyfforddiant Mewnforio, Labelu, Samplu, Dadansoddi Gwraidd y Broblem ac Olrhain yn cael ei ddarparu a’i gefnogi gan Desq Ltd.

Adran ‘Cysylltu â ni’ y wefan

Yn adran ‘Cysylltu â Ni’ y wefan, rydym ni’n darparu sianeli y gallwch eu defnyddio i wneud ymholiad, i roi gwybod am broblem neu i gael cymorth. Pan fyddwn ni’n casglu gwybodaeth gennych, p'un a ydych yn fusnes neu'n ddefnyddiwr, fel arfer bydd angen eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt a manylion eich ymholiad, eich cais neu unrhyw fater y gallech fod yn ei adrodd. Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall pam eich bod yn cysylltu â ni ac i ni allu ymateb yn briodol yn unol â'n Tasg Gyhoeddus. Darperir y gwasanaethau canlynol trwy'r adran Cysylltu â Ni ar gyfer busnesau a defnyddwyr:

Ar gyfer defnyddwyr – Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd

Os ydych chi'n rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, er enghraifft, os ydych chi'n amau gwenwyn bwyd, os oes gennych chi broblemau gyda chynnyrch bwyd neu'n dymuno rhoi gwybod am arferion diogelwch a hylendid bwyd gwael, efallai y byddwn ni'n gofyn i chi yn y ffurflen we, neu pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, ble rydych chi wedi dod ar draws y broblem fel y gallwn gyfeirio eich adroddiad at yr awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i ymchwilio iddo. Bydd yr wybodaeth y byddwch chi’n ei nodi yn y ffurflen yn cael ei throsglwyddo i'r awdurdod lleol a fydd yn ymdrin â’r mater yn uniongyrchol, ac ni fydd yr ASB yn cadw cofnod o'ch manylion cyswllt. Fel arall, efallai y byddwn ni’n eich cyfeirio at sefydliadau eraill sydd mewn sefyllfa well i fynd i'r afael â'ch ymholiad. Er enghraifft, os byddwch chi’n nodi problem gyda labelu bwyd, byddem yn eich cynghori i gysylltu â Safonau Masnach.

Ar gyfer busnesau – Rhoi gwybod am bryder gyda bwyd

Mae’r adran hon ar gyfer gweithredwyr busnesau sy'n ymwneud â'r sector bwyd neu awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yr ydym ni’n gweithio gyda nhw i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni ddylai defnyddwyr gysylltu â ni gan ddefnyddio ffurflenni gwe neu fanylion cyswllt eraill yn y rhan hon o'r wefan.

Lle rydych chi'n 'Rhoi gwybod am Ddigwyddiad Diogelwch Bwyd' ar ran eich sefydliad – byddwn ni’n casglu eich enw, rôl, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo yn ogystal â manylion y Digwyddiad. Cyfeirir hwn yn uniongyrchol at ein Tîm Digwyddiadau a fydd yn mynd ar drywydd yr adroddiad gyda'ch busnes. Rydym ni’n defnyddio Notify.gov.uk i gadarnhau ein bod wedi cael eich adroddiad ac yn rhoi cyfeirnod i chi.

Ar gyfer busnesau – Dod o hyd i wasanaethau busnes

Pan fyddwch yn dymuno 'Dod o Hyd i Wasanaethau Busnes' er enghraifft i gofrestru'ch busnes, gwneud cais am gymeradwyaeth safle bwyd neu wneud apêl yn erbyn penderfyniad gennym ni neu awdurdod lleol,  bydd yr wybodaeth yn cael ei chasglu gennym ni naill ai'n uniongyrchol neu trwy'r wefan a'i rhannu â’r awdurdod lleol lle bo angen fel y gallwn ni ddelio â'ch cais. Pan fyddwn ni’n casglu gwybodaeth i ddarparu'r gwasanaeth, byddwn ni’n darparu Hysbysiad Preifatrwydd penodol i chi a fydd yn cael ei restru ar ddiwedd y Polisi Preifatrwydd hwn, neu byddwch chi’n cytuno i'n Telerau ac Amodau Gwasanaeth a fydd yn cynnwys Hysbysiad Preifatrwydd.

Ar gyfer busnesau a defnyddwyr – Rhoi gwybod am drosedd bwyd

Os ydych chi'n 'Rhoi gwybod am drosedd bwyd', bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei throsglwyddo i'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a bydd yr Uned, a chanddi swyddogaeth orfodi cyfraith bwrpasol fel rhan o’r ASB, yn delio â’r wybodaeth yn uniongyrchol. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr Uned ar ein gwefan. Bydd yr Uned yn prosesu'ch gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a'r Gyfarwyddeb Gorfodi'r Gyfraith fel sy'n briodol. Gallwch chi weld ein Hysbysiad Preifatrwydd – Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a Hysbysiad Preifatrwydd – Tîm Ymchwilio Erlyn Troseddol trwy ddolenni ar ddiwedd y Polisi hwn. 

Ar gyfer busnesau a defnyddwyr  – Rhoi adborth i ni

P'un a ydych chi'n gyswllt busnes neu'n ddefnyddiwr, byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i wneud cwyn yn unol â'r Polisi Cwynion ar ein gwefan. Er mwyn bwrw ymlaen ag ymchwiliad i gŵyn, efallai y bydd y rhai sy’n destun y gŵyn yn dod i wybod pwy ydych chi. Dim ond pan fydd yn amhosibl rhwystro hyn rhag digwydd y bydd sefyllfa o’r fath yn codi, neu pan fydd yn angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â’r achos. Pan fo’n berthnasol, byddwn ni’n esbonio hyn i chi ymlaen llaw. Mae Hysbysiad Preifatrwydd ar wahân ar gyfer cwynion allanol a wneir yn erbyn yr ASB ar ddiwedd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

Tanysgrifio i gael Newyddion, Rhybuddion ac Ymgynghoriadau

Mae gennych chi ddewis o ran cael hysbysiadau rhybuddion bwyd, rhybuddion alergedd, ein newyddion a'n hymgynghoriadau. Byddwn ni’n casglu gwybodaeth benodol gennych chi, er enghraifft, e-bost a chyfrinair, er mwyn creu eich cyfrif. Byddwch chi’n gallu cydsynio i'r hyn yr hoffech chi ei gael gennym ni a sut. 

Gall y rhain gynnwys diweddariadau ar:

  • gwybodaeth yn ymwneud â phynciau yr ydych wedi’u dewis wrth danysgrifio
  • diweddariadau cyffredinol ar y wefan/gwasanaethau
  • ein harolygon defnyddwyr

Pan fyddwn ni’n prosesu eich gwybodaeth ar y sail bod gennym ni eich caniatâd, gallwch chi dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru eich dewisiadau tanysgrifio yn eich cyfrif neu drwy ddad-danysgrifio i'r gwasanaeth.

Dangosfyrddau'r ASB

Mae'r ASB yn darparu ystod o ddangosfyrddau yr ydym yn eu casglu o'r wybodaeth sydd gennym i hysbysu rhanddeiliaid am wahanol agweddau ar Reoleiddio a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Byddwn ni’n casglu gwybodaeth gennych chi pan fyddwch yn cofrestru i gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, rôl swydd, enw a chyfrinair cyflogwr. Byddwn ni’n rhoi Telerau ac Amodau a Hysbysiad Preifatrwydd yn y Pwynt Gwasanaeth. Gallwch chi ddod o hyd iddo ar dudalen yr Hysbysiad Preifatrwydd i Ddefnyddwyr sy'n Cofrestru ar gyfer Mynediad i Ddangosfyrddau'r ASB.

Mae'r wybodaeth rydym ni'n ei chyflwyno mewn dangosfwrdd, a gyda phwy rydyn ni'n rhannu'r wybodaeth honno, yn dibynnu ar bwrpas y dangosfwrdd. Efallai y byddwn ni’n cyfuno ac yn dadansoddi gwybodaeth a gafwyd yn ystod ein swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft am unig fasnachwyr a busnesau, yn y DU ac yn rhyngwladol, ynghyd â gwybodaeth a gawsom gan ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Efallai y byddwn ni’n casglu gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd fel gwefannau ac yn defnyddio meddalwedd tynnu data oddi ar y we (web scraping) i gyflawni ein pwerau cyfreithiol gan gynnwys at ddibenion gwerthuso risg.

Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Gwasanaethau eraill sydd ar gael trwy wefannau yr ydym yn eu gweithredu

O bryd i'w gilydd efallai y byddwn ni’n darparu mynediad at wasanaethau eraill trwy ein gwefannau neu'n gofyn am adborth mewn arolwg sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Pan fydd y rhain yn cynnwys casglu gwybodaeth bersonol, byddwn ni’n darparu Hysbysiad Preifatrwydd penodol i chi ar y pwynt gwasanaeth neu efallai y byddwn ni’n diweddaru'r Polisi hwn.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Rydym ni’n trin diogelwch eich gwybodaeth o ddifrif ac ond yn ei phrosesu yn unol â'n Safonau a'n Polisïau Diogelwch Gwybodaeth. Mae ein holl staff yn cael hyfforddiant gorfodol rheolaidd ar sut i drin gwybodaeth yn gywir a'i chadw'n ddiogel.

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth rydym ni'n ei chasglu yn cael ei storio a'i phrosesu yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Am resymau ariannol, sefydliadol neu dechnegol, efallai y byddwn ni’n cyflogi trydydd partïon i brosesu data ar ein rhan. Ni fyddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti o'r fath oni bai ein bod ni’n fodlon eu bod yn gallu darparu lefel ddigonol o ddiogelwch mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol. Rydym ni’n gwneud hyn trwy gymryd camau i sicrhau bod gan y sefydliadau hyn fesurau diogelwch technegol a sefydliadol addas naill ai trwy gontractau neu gytundebau sydd gennym ni gyda nhw a/neu drwy gael sicrwydd cadarn ganddynt eu bod yn gweithredu yn unol â GDPR y DU.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac Awdurdodau Cymwys Eraill, Asiantaethau'r Llywodraeth a Chyrff y Diwydiant o fewn y DU a thu hwnt. Mae gennym ni bwerau eang i rannu gwybodaeth gyda'r sefydliadau hynny lle mae'n gymesur ac yn angenrheidiol i gyflawni ein hamcanion. Dim ond pan fydd gennym ni sail gyfreithiol i wneud hynny y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Pan fydd gennym ni sail gyfreithiol ar gyfer anfon neu drosglwyddo data personol i drydydd partïon mewn gwledydd y tu allan i'r DU, gan gynnwys y rhai sy'n prosesu data ar ein rhan, byddwn ni’n sicrhau bod mesurau diogelwch priodol ar waith yn unol â GDPR y DU.   

Rydym ni’n prosesu data yn rheolaidd gyda thrydydd partïon yn yr AEE. Ystyrir bod gan yr AEE gamau diogelu digonol i fodloni gofynion GDPR y DU.

Pan fydd gennym ni sail gyfreithiol i brosesu data personol at ein dibenion Gorfodi’r Gyfraith, gallwn ni hefyd drosglwyddo data y tu allan i’r DU o dan ddarpariaethau Rhan 3 Deddf Diogelu Data 2018.

Hefyd, pan fyddwn ni’n trosglwyddo gwybodaeth i awdurdodau neu sefydliadau er budd sylweddol y cyhoedd, er enghraifft, ar atal neu ganfod troseddau, neu fonitro a gwerthuso risgiau i Ddiogelwch Bwyd, rydym ni’n ceisio cymryd camau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth yn unol â GDPR y DU. Efallai y byddwn ni’n dibynnu ar y rhanddirymiadau (derogations) yn GDPR y DU lle bo angen at y diben hwn.

Eich hawliau

Mae gennych chi hawl gyfreithiol i weld copi o'r data personol yr ydym ni’n ei gadw amdanoch chi a’r hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro unrhyw wallau, yn amodol ar rai eithriadau. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych chi hawl hefyd i:

  • ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol a gedwir amdanoch chi
  • cyfyngu ar ein gallu o ran prosesu eich data personol (er enghraifft gofyn am atal prosesu gwybodaeth bersonol i sefydlu ei chywirdeb neu'r rhesymau dros ei phrosesu)
  • cludo data (dara portability) (hynny yw gofyn am drosglwyddo data personol i drydydd parti)
  • gwrthwynebu ein gallu o ran prosesu eich data personol

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Pan fyddwn ni’n prosesu gwybodaeth bersonol pynciau data sydd wedi'u lleoli yn yr UE, gan gynnwys data a gasglwyd cyn 1 Ionawr 2021, o dan ddarpariaethau'r Cytundeb Ymadael, byddwn ni’n gwneud hynny yn unol â gofynion a rhwymedigaethau GDPR yr UE, gan gynnwys mewn perthynas â throsglwyddiadau i'r graddau bod y rhain yn wahanol i rai'r GDPR y DU.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys dinasyddion yr UE a'r DU a bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru pe bai'r rheoliadau hynny'n dargyfeirio dros amser. Pan ddaw unrhyw wahaniaethau i'r amlwg, rydym ni’n diweddaru'r adran hon i adlewyrchu sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni’n prosesu'ch gwybodaeth a/neu byddwn yn dweud wrthych mewn hysbysiad preifatrwydd penodol pan fyddwn ni’n casglu eich data.

Os nad ydych chi’n fodlon â'r ffordd yr ydym ni’n prosesu'ch data neu'n ymateb i gais am hawliau, mae gennych chi hawl i godi cwyn gyda'r ICO a/neu'r Awdurdod Goruchwylio yn eich gwlad breswyl.

Cwcis

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am iddyn nhw fod yn hawdd, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Mae food.gov.uk yn gosod ffeiliau bach (a elwir yn 'cwcis') ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi'n pori drwy'r wefan. Darganfyddwch sut rydym ni'n defnyddio cwcis a sut y gallwch chi eu rheoli.

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'r wefan hon a'r gwefannau yr ydym ni’n eu gweithredu yn unig. Felly, os byddwch chi’n dilyn dolen i wefannau eraill, dylech chi ddarllen eu polisi preifatrwydd.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Byddwn ni’n parhau i adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn ni’n nodi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 10 Rhagfyr 2020.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Polisi Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.

Hysbysiadau Preifatrwydd

Rydym ni’n darparu hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer y gwasanaethau canlynol: