Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd ar gyfer casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan unigolion mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion gweinyddu, prosesu ac ymateb i geisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Rydym ni'n gwneud hyn i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.
Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad statudol a byddai methu â darparu'r wybodaeth yn golygu na fydden ni'n gallu darparu ymateb i gais a wneir o dan y ddeddfwriaeth.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir y wybodaeth hon am bum mlynedd ar ôl i achos ddod i ben (neu saith mlynedd lle rydym ni'n ystyried bod yr achos yn gosod cynsail).

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gallai'ch gwybodaeth gael ei phasio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.


Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).