Fel busnes bwyd, mae gofyn i chi a’ch staff fod â safonau hylendid personol da. Mae’r daflen hon yn rhoi gwybod i chi sut i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch staff, a’r bwyd yr ydych chi’n ei weini, yn ddiogel.
Mae pob pecyn 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' yn cynnwys gwybodaeth am:
- groeshalogi
- glanhau
- oeri
- coginio
- rheoli
- defnyddio’r dyddiadur
Bydd y pecynnau, sy’n ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio, yn eich helpu i:
- gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd
- dangos beth ydych chi’n ei wneud i baratoi bwyd yn ddiogel
- hyfforddi staff
- diogelu enw da eich busnes
- gwella eich busnes
- gwella eich Sgôr Hylendid Bwyd
Ar gyfer gwarchodwyr plant, cartrefi gofal preswyl ac adnoddau hyffordi ar gyfer colegau, mae gan bob pecyn unigol wybodaeth benodol ar gyfer y gwahanol ofynion y bydd gofyn i chi fod yn gyfarwydd â nhw.
Pecynnau gwybodaeth
Gallwch lawrlwytho'r pecyn llawn neu adrannau penodol yn ôl yr angen ar gyfer pob pecyn.
Sut i ddefnyddio’r dyddiadur
Storiwch bob tudalen lawn yn ddiogel tan eich ymweliad nesaf gan swyddog diogelwch bwyd eich awdurdod lleol. Gallwch wneud hyn yn electronig neu gyda chopïau papur. Efallai y byddant yn gofyn i edrych ar dudalennau’ch dyddiadur yn ogystal â’ch pecyn Bwyd Mwy Diogel.
Mae gennych chi ddau opsiwn.
- cadw’r dyddiadur yn electronig gan lawrlwytho tudalennau’r dyddiadur i’ch dyfais, eu llenwi a’u storio yn electronig
- argraffu’r dyddiadur a’i lenwi.
Mae tudalennau dyddiadur ychwanegol y gallwch eu defnyddio hefyd pan fydd angen rhagor o dudalennau arnoch.
Gallwch argraffu’r tudalennau ychwanegol ar wahân os mai dim ond y rhan honno o’r pecyn sydd ei hangen arnoch. Gallwch hefyd lenwi’r fersiwn hon yn electronig, a gallwch lawrlwytho’r tudalennau i’ch dyfais.