Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Mae'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn uned casglu gwybodaeth droseddol o fewn yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Gorffennaf 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dylai fod gan ddefnyddwyr hyder bod eu bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. 

Mae'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn swyddogaeth benodol o fewn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer gorfodi'r gyfraith. Mae'r uned yn darparu arweinyddiaeth ar droseddau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r uned yn gweithio'n agos gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban.

Sefydlwyd yr Uned yn 2015 yn dilyn adolygiad o’r digwyddiad cig ceffyl yn 2013. Diben yr Uned yw diogelu defnyddwyr a'r diwydiant bwyd rhag troseddau bwyd o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.

Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy'n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd. Pennir ymateb yr Uned i'r twyll hwnnw trwy asesu pa mor ddifrifol ydyw. Bydd hyn yn cynnwys ystyried faint o waith cynllunio a chydlynu fu wrth ei gyflawni, effaith y twyll ar draws rhanbarthau a ffiniau daearyddol, a'r golled ariannol a niwed arall i'r cyhoedd a’r diwydiant. Mae enghreifftiau o droseddau bwyd yn cynnwys defnyddio bwyd wedi'i ddwyn yn y gadwyn gyflenwi, lladd anghyfreithlon, dargyfeirio bwyd anniogel, difwyno, amnewid neu gamgyfleu bwyd, a thwyll wrth ddefnyddio dogfennau.

Amcanion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Amcanion strategol yr Uned yw:

  • Atal bwyd rhag bod yn anniogel neu'n annilys trwy anonestrwydd
  • Tarfu ar droseddu a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell
  • Adeiladu gallu domestig a byd-eang i fynd i’r afael â throseddau bwyd

Mae’r Uned yn chwarae rôl bwysig yn cysylltu ar draws sawl sector ac ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n gweithio'n agos gyda'r diwydiant bwyd i sicrhau bod busnesau’n wybodus ac yn barod i wrthsefyll troseddau bwyd. Nod yr Uned yw creu amgylchedd gelyniaethus i'r rheiny sy'n cyflawni troseddau bwyd trwy ymchwilio i droseddwyr dan amheuaeth neu fel arall drwy gefnogi partneriaid yn eu hymdrechion cyfreithlon i fynd ati yn yr un modd i darfu ar y troseddwyr hynny.

Ymatebion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Mae datblygu a dadansoddi gwybodaeth o ystod o ffynonellau yn galluogi'r Uned i baratoi asesiadau strategol manwl a fydd yn nodi bygythiadau, risgiau a gwendidau.

Mae'r uned yn gweithio gyda’r diwydiant i godi eu hymwybyddiaeth a phrofi eu systemau ymateb i droseddau bwyd gan ddatblygu eu gwytnwch er budd y busnes bwyd a'r cyhoedd.

Strategaeth Reoli

Mae Strategaeth Reoli’r Uned yn amlinellu blaenoriaethau troseddau bwyd cyfredol yr Uned, yr ydym yn canolbwyntio arnynt er mwyn atal troseddau bwyd, rhwystro ac amharu ar droseddwyr bwyd, a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.  

Yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd yn gynnar yn 2022, byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol tan fis Mawrth 2023:

  • troseddoldeb yn y sector cig coch gyda ffocws ar gadwyni cyflenwi cig eidion, porc a chig oen ac ar arferion sy’n gysylltiedig â dwyn, camgyfleu a phrosesu anghyfreithlon
  • dargyfeirio sgil-gynhyrchion anifeiliaid cig a dofednod yn ôl i’r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid
  • cyflwyno pysgod cregyn sydd wedi’u cynaeafu’n anghyfreithlon neu eu camgyfleu i’r gadwyn fwyd i bobl
  • cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd a werthir i ddefnyddwyr y DU
  • gweithgarwch twyllodrus yn y sector ieir (yn dilyn adolygiad o flaenoriaethau canol blwyddyn ym mis Ionawr 2023)

Rydym hefyd yn estyn ein ffocws i’r themâu trawsbynciol canlynol lle maent yn gorgyffwrdd â’n meysydd blaenoriaeth:

  • gwasanaeth bwyd
  • gwasanaethu mewn ymateb i alw cymunedol mewn modd anghyfreithlon
  • broceriaid, masnachwyr, ac asiantau

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 hefyd yn cynnwys ffocws cymedrol ar gynhyrchion a honiadau cynaliadwy, gan gydnabod thema bwyd cynaliadwy yn Strategaeth yr ASB a lansiwyd yn ddiweddar. Bydd gweithgarwch o dan y thema hon yn canolbwyntio ar wella ymwybyddiaeth yr Uned o risgiau troseddau bwyd posib yn y maes hwn, a pha mor barod yw’r Uned i ymateb iddynt.  

Rhoi gwybod am droseddau bwyd

Gall aelodau'r cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sector bwyd a diod roi gwybod am droseddau bwyd trwy’r llwyfan rhoi gwybod am Droseddau Bwyd yn Gyfrinachol.

Gall unrhyw un sy’n amau trosedd bwyd roi gwybod amdani’n ddiogel ac yn gyfrinachol i'r Uned. Gallwch roi gwybod am drosedd bwyd ar-lein neu dros y ffôn ar 0207 276 8787.