Mae'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd wedi cyhoeddi canllaw sy'n esbonio ein rôl wrth drechu trosedd bwyd, sut y gallwn ni gefnogi'r diwydiant, a sut y gall y diwydiant ein cefnogi ni.
Gobeithio mai dyma'r cam cyntaf o ran sefydlu deialog ystyriol dwy ffordd rhwng yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a'r diwydiant bwyd a bwyd anifeiliaid. Rydym ni'n hyderus y bydd y berthynas hon yn tyfu ac yn aeddfedu dros amser, er mwyn ehangu gwydnwch y Deyrnas Unedig a sut y mae'n ymateb i bob math o droseddau bwyd.
Rydym ni wedi cynhyrchu canllawiau ar sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â bygythiad troseddau bwyd. Mae modd i chi lawrlwytho a rhannu'r rhain.
Rydym ni wedi creu pum poster sy'n hyrwyddo ein cyfleuster rhoi gwybod am Droseddau Bwyd yn Gyfrinachol. Mae'r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho, eu hargraffu a'u harddangos yn eich gweithle neu rywle arall. A fyddech cystal â’u rhannu mor eang â phosibl i'n helpu i fynd i'r afael â bygythiad troseddau bwyd.