Gair amdanom
Pwy ydyn ni, ein rôl, a sut rydym yn cyflawni ein gwaith yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol annibynnol, a sefydlwyd yn 2000 yn dilyn nifer o achosion proffil uchel o salwch a gludir gan fwyd fel (clefyd gwartheg gwallgof).
Mae ein hamcanion, ein pwerau a’n dyletswyddau wedi’u nodi’n bennaf yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Rydym yn gweithio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ein prif amcanion yn ôl y gyfraith yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau sy’n deillio o fwyta bwyd, ac i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Rydym yn diogelu’r cyhoedd trwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a thrwy chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb. Rydym yn gweithio ar draws y system fwyd i gynnal safonau uchel ac i’w gwneud yn haws i fusnesau wneud y peth iawn. Mae ein gwaith yn helpu i sicrhau y gall y cyhoedd, a phartneriaid masnachu rhyngwladol, fod â hyder ym mwyd y Deyrnas Unedig (DU).
Mae ein rôl yn cynnwys darparu cyngor polisi i weinidogion, monitro datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg a chomisiynu ymchwil,
gan sicrhau bod ein penderfyniadau a’n cyngor bob tro yn seiliedig ar y wyddoniaeth orau a mwyaf cyfoes. Rydym ni hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor i wneuthurwyr polisi eraill ac i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â materion o fewn ein hamcanion statudol. Mae gennym swyddogaethau tebyg mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
Mae ein pwerau statudol yn cynnwys y pŵer i gyhoeddi canllawiau ar reoli clefydau a gludir gan fwyd, a’r pŵer i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am y system fwyd i gefnogi ein hamcanion, ac i gyhoeddi ein cyngor ein hunain. Mae gennym hefyd bwerau penodol fel rheoleiddiwr, i orfodi rheolaethau bwyd yn uniongyrchol gyda rhai busnesau ac i oruchwylio’r gwaith gorfodi a wneir gan awdurdodau lleol, a ddisgrifir yn yr adran isod ar ein cyfrifoldebau ar draws y tair gwlad. Ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), rydym hefyd yn asesu pob cais a ddaw i law i awdurdodi bwyd, bwyd anifeiliaid neu ddeunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd newydd sydd i’w werthu yng Nghymru a Lloegr, ac yn cynghori gweinidogion iechyd ar awdurdodiadau.
Cawn ein llywodraethu gan Fwrdd annibynnol, yn hytrach na gweinidogion. Caiff ein Cadeirydd ac aelodau eraill eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gogledd Iwerddon. Rydym yn gweithio’n agos gyda Safonau Bwyd yr Alban, sef y corff cyhoeddus cyfatebol yn yr Alban.
Cytunir ar ein gwaith yng nghyfarfodydd agored y Bwrdd, ac mae’r gwaith hwn bob amser wedi’i ategu gan y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae tryloywder yn egwyddor arweiniol i’r ASB.
Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth EF a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cyfrannu at ein cyllideb, sef tua £140 miliwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

England, Northern Ireland and Wales
Hanes diwygio
Published: 17 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Gorffennaf 2025