Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ein pobl

Mae mwy na 1,300 o bobl yn gweithio i ni i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan wrth helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb.

Mae ein staff yn cynnwys ystadegwyr, dadansoddwyr, ymchwilwyr, arolygwyr, arbenigwyr gorfodi, gweithwyr polisi proffesiynol, economegwyr, milfeddygon a mwy na 500 o staff rheng flaen, sy’n gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid cyflenwi gweithredol i arolygu lladd-dai a safleoedd cynhyrchu cynradd eraill.

Fel adran anweinidogol o’r llywodraeth, rydym yn cael ein llywodraethu gan Fwrdd yn hytrach na gweinidogion. Ein Bwrdd sy’n pennu cyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.

Mae bwyd yn fater datganoledig, felly mae Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd Cymru a Gogledd Iwerddon yn darparu cyngor a mewnwelediad i’r Bwrdd sy’n ymwneud â diogelwch a safonau bwyd yn eu gwledydd nhw.

Mae’r Bwrdd hefyd yn cael ei arwain gan Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol, sy’n dibynnu ar safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr, gan sicrhau bod ein canllawiau bob amser yn seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau a diweddaraf. 

 

Food Standards Agency staff stood listening to someone speak

 

Ewch ati i lawrlwytho ein llyfryn gwybodaeth. Dysgwch ragor am sut rydym ni wedi gweithio i ddiogelu eich plât dros yr 20 mlynedd diwethaf, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.