Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhoi gwybod am gynnyrch rydych chi'n tybio ei fod yn ffug, neu sydd wedi cael ei newid neu'i gamlabelu'n fwriadol, neu sydd ddim fel y mae'n cael ei ddisgrifio.

Rhoi gwybod am droseddau bwyd

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i atal, canfod ac ymchwilio i droseddau bwyd ledled y Deyrnas Unedig (DU). Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy’n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid.

Nid yw materion sy'n ymwneud â gwerthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, fel archebion coll neu anghyflawn, yn cael eu hystyried yn droseddau bwyd. Dylid trafod y digwyddiadau hyn yn uniongyrchol gyda'r busnes bwyd.

Dyma'r prif fathau o droseddau bwyd:

  • dwyn – dwyn bwyd, diod neu gynhyrchion bwyd anifeiliaid i wneud elw o'u defnyddio neu eu gwerthu
  • prosesu anghyfreithlon – defnyddio safleoedd neu dechnegau heb eu cymeradwyo i ladd anifeiliaid neu baratoi cig
  • dargyfeirio gwastraff – rhoi bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid y dylid ei daflu yn ôl i mewn i'r gadwyn gyflenwi i'w ailddefnyddio
  • difwyno – dirywio ansawdd bwyd trwy ychwanegu sylwedd na ddylai fod yn bresennol, i arbed arian neu ffugio cynnyrch o ansawdd uwch
  • amnewid – disodli bwyd neu gynhwysyn â sylwedd arall sy'n debyg ond o ansawdd is
  • camgynrychioli – marchnata neu labelu cynnyrch yn anonest o ran ei safon, ei ddiogelwch, ei darddiad neu ba mor ffres yw'r cynnyrch hwnnw
  • twyll dogfennau – defnyddio, creu neu feddu ar ddogfennau ffug fel rhan o gynllun i werthu neu hyrwyddo cynnyrch bwyd ffug neu o safon is

Os ydych am roi gwybod am unrhyw un o’r materion a restrir yn y tabl canlynol, gofynnwn i chi gyfeirio at yr asiantaethau a restrir yn y tabl am gyngor. 


Y math o fater dan sylw
Ble i geisio cyngor
Dosbarthu bwyd Perchennog y busnes bwyd a’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth
Sgoriau hylendid bwyd Awdurdod lleol y busnes bwyd
Materion hylendid (gan gynnwys hylendid y gegin a phrosesau a ddilynir gan staff) Awdurdod lleol y busnes bwyd
Materion labelu Safonau Masnach
Gwrthrychau a ganfyddir mewn bwyd Awdurdod lleol y busnes bwyd
Cynhyrchion bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ar y deunydd pecynnu (gan gynnwys bwyd sydd wedi llwydo) Awdurdod lleol y busnes bwyd
Gwasanaeth gwael Perchennog y busnes bwyd

Chwythwyr chwiban 

Yr ASB yw’r personau rhagnodedig y dylid rhoi gwybod iddynt am unrhyw achosion o gamymddwyn yn y diwydiant bwyd. 

Mae chwythwyr chwiban yn cael eu diogelu gan y gyfraith wrth roi gwybod am y canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • iechyd a diogelwch rhywun sydd mewn perygl
  • risg neu ddifrod gwirioneddol i’r amgylchedd
  • camweinyddiad cyfiawnder
  • cwmni’n torri’r gyfraith 
  • unigolyn sydd, yn eich barn chi, yn cuddio achos o gamymddwyn

Rhoi gwybod am droseddau bwyd 

Os ydych chi’n chwythwr chwiban neu’n dymuno rhoi gwybod am drosedd bwyd, cliciwch ar y botwm ‘dechrau’ ar y dudalen hon a chwblhewch y ffurflen we. Fel arall, cysylltwch â llinell gymorth gyfrinachol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd drwy ffonio 0207 276 8787. 

Bydd eich manylion yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.

Bydd staff yn ateb y llinell gymorth gyfrinachol rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i’r oriau hyn, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein ar y dudalen hon i gyflwyno’r wybodaeth. 

Yn yr Alban, dylid rhoi gwybod am droseddau bwyd a amheuir i Safonau Bwyd yr Alban.