Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gweithio ar draws y pedair gwlad

Canllawiau ar gyfrifoldebau datganoledig a chydweithio ledled y Deyrnas Unedig (DU)

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn ddull cydweithredol, ledled y DU, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) tuag at lunio polisïau. Mae’n cynnwys gweision sifil o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni canlyniadau a ddymunir ar draws y DU.

Rydym yn gweithio fel hyn oherwydd y rhesymau canlynol:

  • mae cylch gwaith yr ASB yn cynnwys tair gwlad. Rydym yn gweithredu yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae gennym gyfrifoldebau polisi gwahanol yn y gwledydd hyn
  • mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS), sy’n gorff cyhoeddus annibynnol, yn gyfrifol am bolisi bwyd yn yr Alban
  • mae datganoli wedi arwain at wahanol ofynion polisi, atebolrwydd a blaenoriaethau ar draws y pedair gwlad 

Mae ymrwymiad i weithio ar draws y pedair gwlad yn sicrhau y gallwn ni ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yn effeithiol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ar lefel ymarferol, mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn cynnwys arferion gweithio cydweithredol ar bob lefel o’n sefydliad.

Cyfrifoldebau polisi datganoledig

Mae cyfrifoldebau yn y meysydd polisi canlynol wedi’u datganoli:

  • diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
  • honiadau, safonau a labelu maeth ac iechyd
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd

Mae hyn yn golygu bod pwerau i ddatblygu polisi ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi’u trosglwyddo o Lywodraeth y DU i’r gwledydd hyn. Mae datganoli hefyd yn golygu bod yr ASB yn atebol i weinyddiaeth pob gwlad am ei gweithgareddau yn y gwledydd hynny. 

Mae datganoli pŵer wedi arwain at wahanol fodelau llywodraethu, atebolrwydd a chyflenwi ar gyfer yr ASB ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ar gyfer Safonau Bwyd yr Alban.

Mae’r gwahaniaethau hyn yn cynnwys:

  • creu pwyllgorau cynghori ar fwyd annibynnol ar gyfer materion diogelwch a safonau bwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
  • cyrff cyflenwi eraill ar gyfer rheolaethau swyddogol yng Ngogledd Iwerddon
  • alinio â gwahanol ofynion polisi, fel y rhai sydd wedi’u pennu yn Neddf yr Iaith Gymraeg

Mae cyfrifoldebau polisi ym mhob gwlad hefyd yn wahanol. Mae’r ASB yn gyfrifol am wahanol feysydd polisi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Crynodeb o’r maes polisi a’r adran gyfrifol yn ôl gwlad

Cymru

Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yng Nghymru:
  • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid – ASB
  • honiadau iechyd maeth a labelu maeth – Llywodraeth Cymru
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd – ASB

      Lloegr

      Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yn Lloegr: 

      • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid – ASB
      • honiadau iechyd maeth a labelu maeth – Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd – Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

            Gogledd Iwerddon

            Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yng Ngogledd Iwerddon: 

            • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid – ASB
            • honiadau iechyd maeth a labelu maeth – ASB
            • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd – ASB

            Safonau Bwyd yr Alban

            Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn gorff cyhoeddus annibynnol sy’n gweithio i ddefnyddwyr yn yr Alban. Ar 1 Ebrill 2015, fe gymerodd y swyddogaethau yr oedd ASB yr Alban yn gyfrifol amdanynt cyn hynny.

            Sefydlodd Deddf Bwyd (Yr Alban) 2015 Safonau Bwyd yr Alban fel swyddfa anweinidogol. Mae’n rhan o Weinyddiaeth yr Alban, ac mae’n gweithredu ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, ond yn annibynnol arni. Fe’i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, ond mae’n codi ffioedd i adennill costau ar gyfer swyddogaethau rheoleiddio. 

            Mae rôl Safonau Bwyd yr Alban yn debyg i rôl yr ASB. Mae’n datblygu polisïau, yn darparu canllawiau i ddefnyddwyr a busnesau, yn cynghori rhanddeiliaid, ac yn gorfodi rheoliadau bwyd. Mae’r ASB yn gweithio’n agos ochr yn ochr â Safonau Bwyd yr Alban i sicrhau canlyniadau a rennir.

            Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. 

            Ysgrifennwyd a llofnodwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn wreiddiol yn 2015, pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb am feysydd polisi’r ASB yn yr Alban i Safonau Bwyd yr Alban. Mae wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru ar y cyd gan arbenigwyr yn y ddau sefydliad i sicrhau ei fod yn addas at y diben yn y drefn reoleiddio newydd ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).

            Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi’r egwyddorion a fydd yn sail i’r berthynas rhwng y ddau sefydliad. Mae’n grynodeb lefel uchel o’r ymrwymiadau a wnaed gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ac yn diffinio ein perthynas waith yn fanwl ar draws meysydd gwaith allweddol.

            Darllenwch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.