Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Cyflwyniad

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cydnabod ac yn cynnal y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r Cytundebau Atodol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon , y cyfeirir ato fel y ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Datganoli’ a fydd yn cael blaenoriaeth dros y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr ASB ac FSS ym mhob mater sy’n ymwneud â dehongli ac effaith.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn gytundeb rhwng FSS a’r ASB ar faterion sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid y mae’r ASB yn gweithredu fel yr adran berthnasol o Lywodraeth y DU ar eu cyfer. Fe’i hategir gan bum protocol perthnasol sy’n amlinellu’n fanylach ystyriaethau gweithredol yn ymwneud â sut y bydd y cyrff yn gweithio gyda’i gilydd. Lluniwyd y cytundeb hwn i ganiatáu i’r protocolau a amlygir ynddo gael eu diwygio dros amser i adlewyrchu tueddiadau, anghenion a sbardunau newid allanol yn y dyfodol. 

Dyma’r egwyddorion sy’n sail i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn:

  • Effeithiolrwydd: Sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu diogelu ym mhob rhan o’r DU. 
  • Parchu rhwymedigaethau’r naill a’r llall: Sicrhau bod yr ASB ac FSS yn gallu cyflawni eu priod gyfrifoldebau fel awdurdodau cymwys.
  • Effeithlonrwydd: Sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon trwy annog yr ASB ac FSS i gydweithio, lle bynnag y bo’n briodol.
  • Dwyochredd: Sicrhau bod trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau yn gwbl ddwyochrog, oni chytunir fel arall.
  • Hynawsedd: Sicrhau bod swyddogion yr ASB ac FSS ar bob lefel yn cynnal perthynas gadarnhaol â’u cymheiriaid yn seiliedig ar nodau a rennir a chyd-ddealltwriaeth o’r amgylcheddau gwleidyddol gwahanol y mae pob corff yn gweithredu ynddynt.
  • Tryloywder: Lle y bo’n bosib, bydd yr ASB ac FSS yn rhannu gwybodaeth yn agored i sicrhau arferion cydweithio effeithiol.

Mae’r ASB ac FSS yn cydnabod bod gan y ddau gyfraniad i’w wneud at gyfundrefn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid effeithiol yn y Deyrnas Unedig (DU), gan gydnabod efallai na fydd eu polisïau, eu blaenoriaethau a’u hamcanion yn union yr un fath bob amser.

Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i:

  • gydweithredu a gweithio’n agos i sicrhau bod defnyddwyr yn yr Alban ac ar draws gweddill y DU yn parhau i gael eu diogelu
  • cydweithredu wrth reoli a hysbysu am ddigwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid a allai achosi risg i ddefnyddwyr, gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â safonau bwyd a bwyd anifeiliaid
  • cydweithredu a chydweithio o ran gwyddoniaeth a chasglu tystiolaeth i sicrhau bod sylfaen dystiolaeth gydlynol ar draws yr Alban a gweddill y DU, a hynny i ategu datblygiad polisïau a chefnogi trin digwyddiadau
  • amlygu a rhannu allbynnau yn sgil sganio’r gorwel, casglu gwybodaeth, digwyddiadau a ffynonellau data bwyd a bwyd anifeiliaid eraill
  • rhannu a thrafod mentrau i amlygu cyfleoedd i gydweithio wrth ddatblygu polisïau a strategaethau
  • hwyluso mesurau rheoli diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid priodol pan fo cynhyrchion bwyd yn peri risg i ddefnyddwyr, neu pan allent beri risg
  • cydweithredu a chydweithio i sicrhau, wrth weithio’n rhyngwladol, y cytunir ar safbwynt y DU mewn ffordd sy’n ystyried buddiannau pob rhan o’r DU ac sy’n parchu datganoli
  • cydweithio i leihau effaith troseddau bwyd yn yr Alban a gweddill y DU ac ymchwilio ar y cyd pan fydd hynny’n angenrheidiol ac yn briodol
  • cydweithio wrth asesu risg, rheoli risg a hysbysu am risg 
  • talu unrhyw gostau sylweddol am wasanaethau a ddarperir gan un corff i’r llall, ar yr amod y cytunwyd ar y costau hynny o flaen llaw gan y ddau gorff
  • cydweithio i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed o dan y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid